Mynd I'r Afael Ag Unigrwydd Ac Ynysu

Diweddarwyd y dudalen: 13/03/2024

Mae unigrwydd yn deimlad cyffredin ac yn rhywbeth rydym i gyd yn debygol o'i deimlo o dro i dro. Mae teimladau o unigrwydd yn bersonol iawn a bydd profiad pawb o deimlo'n unig yn wahanol iawn.  

Disgrifir unigrwydd fel teimlad rydym yn ei gael pan nad ydym yn bodloni ein hanghenion o ran cyswllt cymdeithasol a pherthnasau sy'n rhoi boddhad mawr. Fodd bynnag, nid yw bod ar eich pen eich hun a bod yn unig yr un peth.  Gallwn ddewis treulio amser ar ein pennau ein hunain a byw'n hapus heb lawer o gyswllt ag eraill, ond gall hyn fod yn brofiad unig i eraill.  

Hefyd gall fod yn bosib fod gennych lawer o gyswllt cymdeithasol, eich bod mewn perthynas a bod gennych berthnasau a ffrindiau o'ch cwmpas, a'ch bod yn dal i deimlo'n unig.  

Beth yw'r effaith ar iechyd a llesiant?  

Mae unigrwydd yn y tymor hir yn gysylltiedig â risg uwch o gael problemau iechyd meddwl penodol, gan gynnwys iselder, gorbryder a mwy o straen. Mae hyn hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag effeithiau ar iechyd sydd gyfwerth ag ysmygu 15 sigarét y dydd. 

Pwy allai fod yn unig?  

Gall unrhyw un fod yn unig ar wahanol adegau yn eu bywydau. Mae unigrwydd yn fynych iawn yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n digwydd i'r genhedlaeth hŷn. Fodd bynnag, mae'r rheiny sy'n oedolion o oedran gweithio sy'n byw ar eu pennau eu hunain, y rheiny sydd ag iechyd "gwael" neu "gwael iawn", y rheiny sydd mewn llety rhentu neu'r rheiny sy'n sengl, wedi ysgaru neu wedi gwahanu mewn mwy o berygl o gael unigrwydd parhaol. 

Os ydych yn teimlo'n unig: 

  • Ceisiwch ffonio neu weld ffrind, perthynas, gweithiwr iechyd proffesiynol neu gwnselydd i siarad am eich teimladau.   
  • Ymunwch â grŵp neu ddosbarth ar-lein sy'n canolbwyntio ar rywbeth rydych yn ei fwynhau – gall fod yn unrhyw beth megis dosbarth ymarfer corff, dosbarth coginio neu glwb llyfrau.   
  • Ystyriwch fynd am dro byr mewn mannau cyhoeddus.   
  • Cysylltwch â'r Samariaid drwy ffonio 116 123 neu drwy anfon neges e-bost at jo@samaritans.org os oes angen i chi siarad â rhywun.  

Manteision 'Cadw mewn Cysylltiad'

Mae cael rhwydwaith o berthnasoedd da yn gwella eich lles a gall gadw eich meddwl yn egnïol. Gall cadw mewn cysylltiad ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol hefyd gynyddu eich hyder a gwella sut rydych chi'n teimlo amdanoch chi'ch hun. Mae’n arferol cael eich hun ar eich pen eich hun ar rai adegau ac nid yw bod ar eich pen eich hun bob amser yn golygu y byddwch yn teimlo’n unig. Ond gall peidio â chael yr ansawdd neu faint o gyswllt cymdeithasol rydych chi ei eisiau arwain at deimladau o unigrwydd. Gall hyn effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol.

Awgrymiadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad

  • Ymuno â grwpiau cymdeithasol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol;
  • Gwnewch rywbeth rydych chi'n gwybod eich bod chi'n ei fwynhau;
  • Dysgwch rywbeth newydd;
  • Gwirfoddoli yn y gymuned.

Iechyd a Llesiant