Mai 2023

Diweddarwyd y dudalen: 03/05/2023

Mai 2023

DYDD LLUN DYDD MAWRTH DYDD MERCHER DYDD IAU DYDD GWENER DYDD SADWRN DYDD SUL

1

Anfon nodyn neu garden wedi'i ysgrifennu â llaw at rywun sy'n bwysig i chi.

2

Edrych am ffordd o helpu rhywun arall.

3

Canolbwyntio ar sut mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.

4

Gwneud rhywbeth yn yr awyr agored heddiw.

5

Meddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi a pham.

6

Dod o hyd i dair ffordd o fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.

7

Myfyrio ar yr hyn sy'n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a'n llawn bwriad.

8

Meddwl am atgof hapus.

9

Gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau.

10

Mynd am wâc fer.

11

Defnyddio Viva Insights ar Teams i fwynhau sesiwn fyfyrio fer.

12

Cymryd cam tuag at nod pwysig, waeth pa mor fach.

13

Gwneud rhestr o'r hyn sydd bwysicaf i chi a pham.

14

Gwneud rhywbeth caredig i chi'ch hun.

15 

Gosod tasg fach i chi ei wneud ar gyfer rhywun arall.

16 

Gwrando ar eich hoff gerddoriaeth neu wylio eich hoff raglen.

17

Cymryd seibiant i fynd am wâc 15 munud.

18 

Bwyta 'enfys' o ffrwythau a llysiau heddiw.

19

Rhoi cynnig ar weithgaredd newydd heddiw.

20

Gwrando ar eich corff a bod yn ddiolchgar am bopeth y gall ei wneud.

21

Rhoi hwb i'ch corff drwy chwerthin neu wneud i rywun arall chwerthin.

22

Sicrhau bod cwsg yn flaenoriaeth a dod o hyd i amser da i fynd i'r gwely.

23

Canu eich hoff gân (Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl y gallwch chi ganu!)

24

Anadlu tair gwaith i ymdawelu yn rheolaidd drwy gydol y dydd.

25

Oedi i wylio'r byd yn mynd heibio.

26

Gwneud ymdrech i arafu.

27

Diwrnod heb sgriniau a mynd ati i symud.

28

Bod yn ymwybodol o'ch corff a sylwi ar yr hyn mae'n ei deimlo.

29

Sylwi ar sut rydych chi'n siarad â'ch hun a dewis geiriau caredig.

30

Gwrando'n astud ar eraill.

31

Rhannu dyfyniad sy'n eich ysbrydoli â phobl eraill.

 

 

 

 

Cofiwch, mae’n iawn i beidio bod yn iawn
Mae’r dudalen Iechyd a Llesiant yn cynnig cyngor a chymorth, neu cysylltwch ag un o’ch Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gael sgwrs gyfrinachol.

I lawrlwytho eich calendr hunanofal mis Mai, cliciwch yma

Iechyd a Llesiant