Bwyta'n Iach

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Mae bwyta deiet da yn rhan bwysig o gadw'n iach, a gall eich helpu i deimlo ar eich gorau, yn feddyliol ac yn gorfforol. Yn y gweithle, mae maeth da yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng diwrnod da a diwrnod gwael – bydd bwyta prydau bwyd rheolaidd sy'n llawn maeth yn helpu i gynnal eich egni corfforol a meddyliol, cadw eich hwyliau'n sefydlog a rheoli eich straen. Gall deiet iach ac amrywiol hefyd eich diogelu rhag mân anhwylderau megis annwyd neu gyflyrau tymor hir mwy difrifol megis canser y coluddyn. 

Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor ynghylch bwyta'n iach ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Dylai pobl sydd ag anghenion deietegol arbennig neu sydd â chyflwr meddygol ofyn i ddoctor neu ddeietegydd cofrestredig am gyngor. 

Bwyta deiet iach chytbwys 

Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd, a bwyta'r gyfran a'r swm cywir o fwyd a diod er mwyn sicrhau a chynnal pwysau corff a meddwl iach. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dangos y dylai pobl geisio gwneud y canlynol er mwyn cael deiet cytbwys ac iach:  

  • bwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd (gweler 5 y Dydd) 
  • seilio eich prydau bwyd ar fwydydd llawn startsh a ffeibr megis tato, bara, reis neu basta 
  • cael ychydig o gynnyrch llaeth neu ddewisiadau llaeth eraill (megis diodydd soia) 
  • bwyta ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill 
  • dewis olewau a thaeniadau heb ddŵr, a bwyta dognau bach ohonynt
  • yfed digon o ddiodydd (o leiaf 6 neu 8 gwydraid y dydd) 

Os ydych yn cael bwydydd a diodydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr, sicrhewch eich bod yn cael y rhain yn llai aml ac mewn dognau bach. 

Bwyta'n dda yn y gwaith 

Dyma rai cynghorion ynghylch ceisio cynnal deiet iach yn y gwaith: 

1. Bwyta'n aml 

Sicrhewch eich bod yn bwyta rhywbeth i frecwast, hyd yn oed os ydych yn gwneud hynny pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith, a pheidiwch â mynd heb ginio. Mae hyn yn bwysig i'ch helpu chi i stopio bwyta byrbrydau sy'n uchel mewn siwgr a braster, yn ogystal â chynnal eich lefelau egni a rheoli eich hwyliau. Er enghraifft, gall mynd heb frecwast godi lefel gefndir eich hormon straen cyn ichi hyd yn oed gyrraedd y gwaith a gall hefyd gael effaith ar ba mor gyflym y mae eich pwysedd gwaed yn dychwelyd i normal ar ôl digwyddiad heriol. 

2. Cadwch at y bwyd cymhleth  

Ceisiwch gynnwys amrywiaethau grawn cyflawn neu wenith cyflawn o fwydydd llawn startsh yn eich cinio, megis reis brown, pasta gwenith cyflawn, a bara brown, gwenith cyflawn neu fara gwyn sydd â lefel uwch o ffeibr. Hefyd ceisiwch gynnwys ffa, corbys, ffrwythau a llysiau. 

Mae amrywiaethau grawn cyflawn neu wenith cyflawn yn cynnwys mwy o ffeibr ac fel arfer mwy o fitaminau a mwynau nag amrywiaethau gwyn. Mae tato yn eu crwyn yn rhoi llawer iawn o ffeibr a fitaminau. Er enghraifft, wrth gael tato wedi'u berwi neu dato pob, bwytewch y croen hefyd. 

3. Meddyliwch am yr ymennydd  

Ceisiwch gael pysgod olewog, wyau, cig a/neu ffa, corbys, cnau, hadau, llysiau gwyrdd deiliog a ffrwythau a llysiau porffor tywyll a choch. Mae pysgod olewog a bwydydd sy'n seiliedig ar blanhigion yn cynnwys olew had llin sy'n bwysig ar gyfer helpu'r ymennydd i weithio mewn ffordd iach, y galon, y cymalau a'n llesiant cyffredinol. Gall ffrwythau a llysiau coch tywyll a phorffor fod yn effeithiol o ran gwella neu ohirio colli cof yn y tymor byr. Mae bwydydd sy'n llawn fitamin B yn chwarae rhan bwysig o ran rheoleiddio'r ymennydd i weithio'n iawn.  

4. Cyfyngwch ar fyrbrydau llawn siwgr neu fraster  

Bydd bwyta byrbrydau megis ffrwythau, cnau, salad, iogwrt a chacennau reis rhwng prydau bwyd yn lleihau'r temtasiwn i fwyta byrbrydau heb lawer o faeth neu fwydydd sy'n uchel mewn siwgr neu fraster megis siocled, cacennau, bisgedi, pasteiod, bariau grawnfwyd a fflapjacs. Cefnogwch eich hun a'ch tîm drwy ddod â dewisiadau iach ar gyfer byrbrydau i gyfarfodydd neu ar gyfer penblwyddi. Ceisiwch gyfyngu ar y byrbrydau sy'n llawn siwgr neu fraster i unwaith neu ddwywaith yr wythnos. 

5. Yfed digon o ddŵr  

Mae'n hawdd anghofio am hyn, ond mae dewis diodydd iachach yn rhan allweddol o gael deiet cytbwys. Mae peidio ag yfed digon yn gallu cael effaith ar eich gallu i ganolbwyntio yn y gwaith, ac arwain at bennau tost, blinder, teimlo'r bendro neu deimlo'n benysgafn.  

Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dweud y dylwn yfed 6 i 8 gwydraid o hylif y dydd. Mae dŵr, llaeth sy'n cynnwys llai o fraster a diodydd heb ffrwyth, gan gynnwys te a choffi (yn enwedig amrywiaethau heb gaffein i gyd yn cyfri. Mae nifer o ddiodydd meddal yn llawn siwgr ac mae diodydd sy'n llawn siwgr yn aml yn cynnwys llawer o galorïau. Cyfyngwch ar y sudd ffrwythau, sudd llysiau neu smwddis rydych chi'n eu hyfed i ddim mwy na chyfanswm o 150ml y dydd (1 gwydryn bach). Mae rhai diodydd egni yn llawn siwgr a chaffein felly sicrhewch eich bod yn darllen y labeli  

6. Cymerwch seibiant 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta eich byrbrydau a'ch prydau i ffwrdd o'r man lle rydych yn gweithio gan y bydd hyn yn eich helpu i gael seibiant go iawn. Mae'n rhwydd iawn parhau i weithio os nad ydych yn gwneud hyn. Os ydych yn teithio neu'n crwydro, sicrhewch eich bod yn stopio'r car yn rhywle i fwyta a neilltuo amser i fwyta'n gywir. Mae astudiaethau'n dangos eich bod yn bwyta mwy o fyrbrydau yn y prynhawn pan rydych yn gweithio yn ystod eich amser cinio. 

Iechyd a Llesiant