Cwrdd â'r Tîm

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Mae'r Cydgysylltwyr Iechyd a Llesiant yma i gefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol ein staff yn ogystal â chynnig atebion ymarferol â ffocws i reolwyr. Wrth wneud hynny, ein nod yw helpu i amddiffyn ein gweithlu a'r Awdurdod yn y dyfodol agos a'r tymor hir.

Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant

Hannah Richards

Fy maes gorchwyl yw cymunedau, Ysgolion, Gwasanaethau Corfforaethol a Lle a Seilwaith. Rwyf hefyd yn gweithio i gefnogi a hyrwyddo'r rhaglen hyrwyddwyr iechyd a lles ym mhob rhan o'r awdurdod, a sicrhau bod gan yr holl staff y dulliau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ar gyfer iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.

 "Ystyr llesiant i mi yw derbyn y bydd adegau anodd, ond i beidio â chanolbwyntio ar yr adegau adnodd ac weithiau'r unig wahaniaeth rhwng diwrnod da a diwrnod drwg yw ein hagwedd"

E-bost: HJRichards@sirgar.gov.uk
Hapus i siarad Cymraeg

Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant

Erin Mason-George

Rwyf yn bwynt cyswllt ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda gwahanol adrannau megis yr Prif Weithedwyr ac yr Wasanaethau Corfforaethol tra'n goruchwylio a gweithredu'r broses o gyflwyno'r rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i'r awdurdod. Mae gofalu am lesiant yn ein gweithle yn bwysig iawn ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar fywyd a gwaith; fel cydgysylltwyr, rydym yn cynnig y dulliau a'r cyngor i gefnogi eich iechyd a'ch llesiant corfforol a meddyliol.

Fy maes gorchwyl hefyd yw cefnogaith Iechyd Meddwl a Llesiant o fewn yr awdurdod. Rwy'n gweithio ar fentrau i wella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant cydweithwyr ac yn gweithio tuag at gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. 

“Ystyr llesiant i mi yw bod yn gyfforddus, yn iach ac yn hapus.”

E-bost: EMason-George@sirgar.gov.uk
Hapus i siarad Cymraeg

Iechyd a Llesiant