Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu

Diweddarwyd y dudalen: 26/05/2023

Nod Tîm Iechyd a Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin yw;

  1. Eich annog a'ch cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i'ch ffordd o fyw a chymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau;
  2. Dylanwadu ar y gwaith o wella amgylchedd a diwylliant yr awdurdod er mwyn lleihau unrhyw rwystrau i alluogi'r gwelliant hwn; a
  3. Chyfrannu at bolisïau, prosesau a gweithgareddau ehangach sy'n cael dylanwad ar lesiant cyffredinol staff

Mae hyn hefyd yn rhan o'n gofynion ar gyfer y Safon Iechyd Gorfforaethol, ac mae statws Platinwm wedi'i ddyfarnu i ni.

Mae llesiant yn fwy na dim ond ffyrdd iach o fyw, mae eich perthnasoedd, eich gallu i ddatblygu a thyfu, pa mor gyfforddus ydych chi wrth fynegi eich diwylliant a'ch iaith, p'un a ydych yn cael eich trin yn deg, eich cydnerthedd, i ba raddau yr ydych yn teimlo'n rhan o rywbeth a'ch sefydlogrwydd ariannol yn effeithio ar eich llesiant.

Felly, cyfrifoldeb yr awdurdod cyfan yw cynnal, gwella, cefnogi ac ystyried iechyd a llesiant ein hunain, ein timau a hyd yn oed y gymuned ehangach ym mhopeth a wnawn.

Mae'r nodau isod wedi'u haddasu o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Mae’r amcanion cyffredinol fel a ganlyn:

Unigol

  1. I'ch cynorthwyo i wella eich iechyd a'ch llesiant drwy addysg, gweithgareddau ac anogaeth

Yr Amgylchedd

  1. Gwella'r amgylchedd gwaith ac felly galluogi gwelliannau i iechyd a llesiant staff

Diwylliant

  1. Gwella diwylliant y sefydliad gyda golwg ar iechyd a llesiant

Fel rhan o'n hymyriadau wedi'u targedu rydym wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu cynlluniau gweithredu gydag Adrannau, Gwasanaethau ac Ysgolion penodol, sydd wedi'u nodi fel blaenoriaethau ac y cytunwyd arnynt drwy'r Timau Rheoli Adrannol perthnasol. Mae blaenoriaethau yn cael eu pennu drwy ddadansoddi data, arolygon staff ac adborth adrannol a risgiau.

Dogfennau byw yw'r rhain sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac maent yn rhoi gwybodaeth am yr ymyriadau arfaethedig, yr amserlen a'r manylion ynghylch sut y caiff y canlyniadau eu monitro. Mae'r pwynt olaf hwn yn allweddol i ni geisio nodi'r hyn sy'n gweithio, a'r hyn nad yw'n gweithio, fel ein bod yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r ymyriadau mwyaf effeithiol.

Iechyd a Llesiant