Gwybodaeth i Reolwyr

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Os yw gweithiwr wedi mynegi diddordeb mewn bod yn Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant, darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus cyn cymeradwyo’r cais. Er ei bod yn rôl wirfoddol, mae'n bwysig eich bod chi, fel rheolwr, yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau a'r ymrwymiad dan sylw.

Rôl yr Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant yw cefnogi ac annog staff gyda'u hiechyd a'u lles.

I ddod yn Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant, bydd rhaid i'r gweithiwr fynychu cyfnod sefydlu 3 awr. Bydd y rhaglen gynefino hon yn cael ei chyflwyno trwy Microsoft Teams ac yn cael ei chynnal gan y Cydlynwyr Iechyd a Llesiant. Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â sut i arwain cydweithwyr a’u cyfeirio i gymorth pellach yn ogystal â ffiniau’r rôl.

Rhaid i'r Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant fod yn llawn cymhelliant, yn ymroddedig ac yn angerddol dros annog iechyd a lles

Fel rheolwr, dylech wneud asesiad gonest o addasrwydd y cyflogai ar gyfer y rôl cyn cymeradwyo ei gais. Mae hyn yn bwysig i les y gweithiwr ei hun a lles eraill.

Bydd yr Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn cael 1 awr yr wythnos a ddylai gael ei ymgorffori ochr yn ochr â'u horiau gwaith presennol. Mae hefyd yn ofynnol iddynt fynychu sesiynau diweddaru misol a sesiynau galw heibio lle bo angen. Gallant hefyd godi lles mewn cyfarfodydd adrannol ac adborth ar ddigwyddiadau a gweithgareddau corfforaethol.

Fel rheolwr, dylech annog yr Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant yn ei syniadau a'i weithgareddau. Bydd hyn yn dangos eich cefnogaeth ac yn sicrhau bod lles yn flaenoriaeth i'ch tîm.

Mae'n bwysig bod Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yn cael mynediad at gymorth yn ôl yr angen. Fel rheolwr, dylech ddeall y ffaith y gall eich cyflogai fod yn delio â materion cyfrinachol neu sefyllfaoedd anodd.

Os ydych yn ansicr ynghylch addasrwydd y gweithiwr ar gyfer y rôl, argymhellir bod y gweithiwr yn mynychu sesiwn friffio gyda’r Cydlynydd Iechyd a Llesiant, lle bydd nhw yn cael y cyfle i ddarganfod mwy am y rôl.

Iechyd a Llesiant