Dyslecsia

Diweddarwyd y dudalen: 12/04/2024

Mae dyslecsia yn wahaniaeth niwrolegol a gall gael effaith sylweddol yn ystod addysg, yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Gan fod pob person yn unigryw, felly hefyd brofiad pawb o ddyslecsia. Gall amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol, a gall ddigwydd ar yr un pryd ag anawsterau dysgu penodol eraill. Fel arfer mae'n rhedeg mewn teuluoedd ac mae'n gyflwr gydol oes.

Mae'n bwysig cofio bod meddwl yn wahanol yn dod â phethau cadarnhaol yn ei sgil. Mae llawer o bobl ddyslecsig yn dangos cryfderau mewn meysydd fel rhesymu ac mewn meysydd gweledol a chreadigol.

Bydd profiad pawb o ddyslecsia yn unigol iddyn nhw ond mae yna ddangosyddion cyffredin. Gallai clwstwr o'r dangosyddion hyn ochr yn ochr â galluoedd mewn meysydd eraill awgrymu dyslecsia a dylid ymchwilio ymhellach i'r mater.

Ydych chi'n:

  • Drysu rhwng geiriau gweledol tebyg fel 'cat' a 'cot' yn Saesneg
  • Sillafu'n ansicr
  • Ei chael hi'n anodd darllen testun yn gyflym neu'n fras
  • Darllen/ysgrifennu'n araf
  • Angen ail-ddarllen paragraffau i'w deall
  • Ei chael hi'n anodd gwrando a chynnal ffocws
  • Ei chael hi'n anodd canolbwyntio os oes pethau i dynnu sylw
  • Teimladau o orlethu'r meddwl/colli diddordeb yn llwyr
  • Cael trafferth gwahaniaethu rhwng chwith a dde
  • Drysu pan roddir sawl cyfarwyddyd ar unwaith
  • Cael anhawster trefnu meddyliau ar bapur
  • Anghofio sgyrsiau neu ddyddiadau pwysig yn aml
  • Cael anhawster gyda threfniadaeth bersonol, rheoli amser a blaenoriaethu tasgau
  • Osgoi rhai mathau o waith neu astudiaethau
  • Gweld rhai tasgau yn hawdd iawn ond eraill yn peri her annisgwyl
  • Diffyg hunan-barch, yn enwedig os nad oes anawsterau dyslecsig wedi'u nodi yn gynharach mewn bywyd

Os ydych chi'n teimlo bod hyn yn swnio'n debyg i chi, gall ein rhestr wirio dyslecsia oedolion a/neu sgriniwr dyslecsia eich helpu i wybod a allech chi fod yn ddyslecsig. Nid yw'r rhain yn offeryn diagnostig ond gellir eu defnyddio hefyd i nodi a ddylid cynnal ymchwiliadau pellach.

Awgrymiadau ar gyfer y gweithle

Darllen

  • Rhoi cyfarwyddiadau ar lafar yn ogystal ag yn ysgrifenedig
  • Tynnu sylw at bwyntiau pwysig mewn dogfennau
  • Defnyddio neges llais yn hytrach na memos ysgrifenedig
  • Darparu meddalwedd darllen sgrîn.
  • Argraffu adnoddau ar bapur lliw, a newid lliw cefndir sgriniau cyfrifiaduron a chyflwyniadau

Ysgrifennu a darllen

  • Caniatáu digon o amser i ddarllen a chwblhau tasg
  • Trafod y deunydd gyda'r gweithiwr, gan roi crynodebau a/neu bwyntiau allweddol
  • Cyflwyno gwybodaeth mewn fformatau eraill e.e. sain neu fideo, darluniau, diagramau a siartiau llif
  • Cynnig/defnyddio meddalwedd mapio meddwl
  • Cynnig/defnyddio recordwyr digidol
  • Cynnig/defnyddio meddalwedd lleferydd i destun
  • Gofyn i rywun arall gymryd cofnodion cyfarfodydd

Sillafu a gramadeg

  • Gwiriwr sillafu ar bob cyfrifiadur
  • Cynnig meddalwedd testun cynorthwyol ar bob rhaglen, lle bo hynny'n bosibl

Gwaith cyfrifiadur

  • Newid lliw cefndir sgrîn i weddu i hoffterau unigol
  • Darparu hidlydd sgrîn gwrth-lacharedd
  • Caniatáu seibiannau rheolaidd, o leiaf bob awr
  • Trefnu bod gwaith cyfrifiadur yn cael ei wneud am yn ail gyda thasgau eraill lle bo hynny'n bosibl
  • Osgoi gwaith cyfrifiadur parhaus drwy'r dydd

Cyfathrebu di-eiriau

  • Rhoi cyfarwyddiadau un ar y tro, yn araf ac yn glir heb bethau i dynnu sylw
  • Ysgrifennu gwybodaeth bwysig neu annog y gweithiwr i gymryd nodiadau
  • Ysgrifennu memo yn amlinellu cynllun gweithredu
  • Darparu recordydd digidol i recordio cyflwyniadau/hyfforddiant
  • Gwneud yn siwr bod y gweithiwr yn deall

Canolbwyntio

  • Gwneud yn siŵr bod lle tawel ar gael i ffwrdd oddi wrth bethau a fyddai'n tynnu sylw fel drysau, ffonau prysur, peiriannau swnllyd
  • Dyrannu gweithle preifat os yn bosibl
  • Caniatáu i weithiwr weithio gartref yn achlysurol, os yw'n bosibl
  • Defnyddio arwydd "peidiwch â tharfu" pan fydd tasgau yn gofyn am ganolbwyntio dwys
  • Os torrir ar ei draws, caniatáu i'r person oedi ac ysgrifennu'r hyn y mae'n ei wneud fel ei fod yn gallu cyfeirio ato pan fydd yn ailafael yn ei waith

Apwyntiadau a dyddiadau cau

  • Atgoffa'r person o ddyddiadau cau pwysig ac adolygu blaenoriaethau'n rheolaidd
  • Annog y gweithiwr i ddefnyddio'r calendr dyddiol a nodweddion larwm ar ei gyfrifiadur neu ei ffôn gwaith.
  • Awgrymiadau ar gyfer trefnu eiddo
  • Sicrhau bod ardaloedd gwaith yn drefnus, yn dwt ac yn daclus
  • Cadw eitemau lle gellir eu gweld yn glir, er enghraifft silffoedd a byrddau bwletin
  • Sicrhau bod y tîm yn dychwelyd eitemau pwysig i'r un lle bob tro
  • Rhoi côd lliw ar eitemau, os yw'n briodol
  • Sicrhau bod ardaloedd gwaith wedi'u goleuo'n dda

Trefnu llif gwaith

  • Blaenoriaethu tasgau pwysig
  • Creu rhestr ddyddiol, gyda'r dyddiad, o "bethau i'w gwneud"
  • Defnyddio a rhannu dyddiaduron
  • Ysgrifennu cynllun ar gyfer tasgau rheolaidd gydag awgrymiadau priodol, er enghraifft ar gyfer cyfarfodydd neu gymryd nodiadau
  • Rhoi lle i amser cynllunio bob dydd
  • Cefnogi anawsterau cyfeiriadol
  • Ceisio defnyddio'r un llwybr bob tro
  • Dangos y llwybr a nodweddion amlwg
  • Rhoi amser i ymarfer mynd o un lle i'r llall
  • Darparu mapiau manwl
  • Darparu system llywio ceir GPS

 

Dolenni defnyddiol

Dyscalculia - British Dyslexia Association (bdadyslexia.org.uk)

Dyslexic Test | Am I Dyslexic Quiz Online (exceptionalindividuals.com)

Online Dyslexia Test - Mind Help (Self-Assessment)

Do I Have Dyslexia? - International Dyslexia Association (dyslexiaida.org)

Dyslexia screening - British Dyslexia Association (bdadyslexia.org.uk)

British Dyslexia Association (bdadyslexia.org.uk)

Centre of Excellence for Dyslexia - The Dyslexia Association - The Dyslexia Association

Diagnosis - British Dyslexia Association (bdadyslexia.org.uk)

The Dyslexia Shop

Iechyd a Llesiant