MODIWLAU E-DDYSGU - CAFFAEL

Diweddarwyd y dudalen: 09/02/2023

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu hyfforddiant i staff, mae'r Adran Gaffael wedi nodi 3 modiwl e-ddysgu allweddol y mae angen i weithwyr eu cwblhau.

Mae'n bwysig felly i chi gwblhau'r modiwlau hyn i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau er mwyn cynyddu eich ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw.

  1. Cyflwyniad i Gaffael (ar gyfer holl Reolwyr Cyllidebau)
  2. Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol (ar gyfer pob gweithiwr)
  3. Rheoli Contract (Mae disgwyl i bob swyddog sy'n gyfrifol am reoli contractau gyda chyflenwyr gwblhau'r Modiwl e-ddysgu)

Cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i'r modiwlau hyn

https://learning.wales.nhs.uk/

    • Gallwch fewngofnodi drwy glicio ar y blwch coch yng nghornel dde uchaf y sgrin
    • Eich enw defnyddiwr yw eich rhif gweithiwr 7-digid ac yna "carm" (er enghraifft 0012345carm).
    • Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, gellir ail-osod y cyfrinair wrth fewngofnodi, defnyddiwch eich enw defnyddiwr i chwilio oherwydd gallai'r cyfeiriad e-bost gynnwys llythrennau bach a phriflythrennau.
    • Cliciwch ar "Local Authorities" a dewiswch "Carmarthenshire" o'r rhestr.
    • Cliciwch ar "Cyllid, TGCh a Sgiliau Swyddfa”.
    • Cliciwch ar "Cyllid".
    • Cliciwch ar "Cyflwyniad i Gaffael" neu "Côd Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol” neu "Rheoli Contract".

BWSIG

  • Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau i ran Sir Gaerfyrddin yn ofalus. Os na wnewch chi hyn, efallai byddwch yn gwneud modiwl sy’n perthyn i Awdurdod arall ac na fyddwn yn cael neges cwblhau yn ein hadroddiadau.
  • Mae adran ar dudalen gartref Sir Gaerfyrddin sydd â chysylltiadau i’r holl fodiwlau e-ddysgu allweddol.
  • Pan fyddwch yn defnyddio’r “search” i chwilio am gwrs, cofiwch y bydd yn dangos cofnodion o’r holl gyrsiau ar wefan Learning@Wales, felly sicrhewch fod y cyfeiriad yn dangos Cyngor Sir Caerfyrddin.