Canllawiau Caffael

Diweddarwyd y dudalen: 04/10/2023

Mae caffael yn cynnwys prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae caffael yn amrywio o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau rheolaidd i drefniadau partneriaeth (cydweithio) mwy cymhleth. Mae'n cynnwys pob cam o'r broses, o glustnodi'r angen ac arfarnu'r farchnad ar ôl hynny, hyd at gael yr ateb, rheoli'r contract a gwneud trefniadau gwaredu ar y diwedd neu ddod â'r contract i ben.

Bydd angen ichi ystyried y canlynol drwy gydol y broses gaffael:

  • Beth sydd ei angen arnom
  • Beth sydd ar gael
  • Prynu'r eitem neu'r gwasanaeth mewn modd teg ac agored
  • Sicrhau bod yr eitem yn addas
  • Rheoli'r contract i gael y gwasanaeth gorau
  • Dod a’r contract i ben

Nod y canllawiau hyn yw eich tywys drwy'r camau sy'n gysylltiedig â phrynu nwyddau a gwasanaethau. Bydd yn darparu'r cefndir a'r cymorth sydd eu hangen i allu gwneud penderfyniadau a fydd yn arwain at gael y gwerth gorau am arian a nwyddau a gwasanaethau o'r ansawdd gorau.

Mae'n bwysig bod y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud wrth brynu'n rhai gwybodus a'n bod yn ymwybodol o'r rheolau sy'n rheoli ein holl weithgarwch caffael.

Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi ein Rheoliadau Ariannol, sef y Rheolau Gweithdrefn Contractau sy'n rhoi manylion am ein rhwymedigaethau statudol wrth brynu.

Y penderfyniad pwysicaf a wnewch yw'r un ar ddechrau'r broses:

  • A oes angen ichi brynu'r nwyddau/gwasanaethau o gwbl?
  • A oes dewisiadau eraill ar gael?
  • A fyddai modd gwneud hyn drwy ddarpariaeth fewnol?

Bydd y canllawiau hyn yn eich tywys drwy holl gamau'r llwybr caffael a'r penderfyniadau y mae angen ichi eu gwneud a'r prosesau y mae angen ichi eu dilyn ar y ffordd.