Rheolau a Rhwymedigaethau Cyfreithiol

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2024

Mae ein Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau wedi eu hysgrifennu i osod rheolau clir o ran caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith, fel bod modd inni gael y gwerth gorau am arian ac, ar yr un pryd, sicrhau system o fod yn agored ac yn dryloyw ac o beidio â gwahaniaethu lle nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch atebolrwydd y broses gaffael.

Cawn ein llywodraethu gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 sy’n sicrhau caffael cyhoeddus tryloyw, teg a chystadleuol sy’n creu cyfleoedd busnes, yn sbarduno twf economaidd ac yn creu swyddi.

Mae’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor hysbysebu’r holl gyfleoedd caffael dros drothwyon penodol ar wasanaeth e-hysbysu’r DU o’r enw Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr.

Gwerth trefniant prynu yw gwerth oes gyfan y contract, nid y gwerth blynyddol yn unig ac mae'n rhaid cwmpasu'r holl gontractau at yr un diben. Mae hyn yn golygu na cheir rhannu contractau'n gontractau llai i osgoi'r rheoliadau hyn.

Daeth y gwerthoedd presennol i rym ar 1af Ionawr 2024 (ON: Mae'r rhain yn CYNNWYS TAW) ac maent fel a ganlyn:

  • Contractau Cyflenwadau (Nwyddau) £214,904
  • Contractau Gwasanaethau £214,904
  • Contractau Gwaith Adeiladu a Pheirianneg £5,372,609
  • Gwasanaethau llai manwl (cymdeithasol a thebyg) £663,540

Mae'r rheolau newydd yn ceisio gofalu bod contractau caffael yn agored i atebion mwy arloesol er mwyn sicrhau bod yr arian sy'n mynd i gaffael yn cael ei wario mewn modd sy'n ysgogi datblygu. Bydd y rheolau hefyd yn lleihau biwrocratiaeth i gwmnïau sy'n cyflwyno cynigion a'i gwneud yn haws i gwmnïau bach a chanolig gymryd rhan.