Terminoleg
Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2025
Isod ceir termau caffael cyffredin y gallech ddod ar eu traws wrth gaffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau.
- Tendr afresymol o isel: At ddibenion y rheolau hyn, ystyr afresymol o isel fydd Tendr yr ystyrir bod ei bris yn sylweddol is na'r rhan fwyaf o'r tendrau, neu gyfartaledd y tendrau, yn yr un ymarfer Tendro.
- Dros y Trothwy: Contract sydd â chyfanswm gwerth contract amcangyfrifedig nad yw'n llai na'r trothwy ar gyfer y math o gontract ac sy'n ddarostyngedig i'r prif reolau yn Neddf Caffael 2023.
- Cydgasglu: Cyfuno gwerth y contractau ar wahân ar gyfer yr un cyflenwad, gwasanaeth a gwaith.
- Rhestr Gymeradwy: mae rhestr gymeradwy/ddethol yn peri risg sylweddol i'r Awdurdod ac nid argymhellir hynny'n arfer caffael derbyniol. Rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 cyn llunio neu fabwysiadu rhestr dendro gymeradwy/ddethol.
- Awdurdod: Bydd pob cyfeiriad at yr Awdurdod yn y Rheolau Gweithdrefnau Contractau hyn yn cynnwys Corff Llywodraethu pob ysgol sy'n dod o dan awdurdodaeth yr Awdurdod fel yr Awdurdod Addysg Lleol os ydynt yn berthnasol.
- Bond: Bwriedir i fond ddiogelu'r cyngor rhag lefel o gost sy'n deillio o fethiant contractwr.
- Contract yn ôl y Gofyn / Proses Ddethol Gystadleuol: Ystyr contract yn ôl y gofyn yw 'Proses Ddethol Gystadleuol' yn Neddf Caffael 2023. Proses ar gyfer dyfarnu contract cyhoeddus yn unol â fframwaith. Gweler adran 46 o Ddeddf Caffael 2023.
- Budd i'r Gymuned: Drwy'r ymarfer tendro, ceisio hybu cyfleoedd ychwanegol a fydd o fudd i'r gymuned ehangach. Gallai hynny gynnwys cyfleoedd o ran hyfforddiant a gwaith, gwella'r cyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi, rhagor o gyfraniadau addysgol a/neu fentrau cymunedol.
- Contract: Unrhyw gytundeb (p'un a yw'n ysgrifenedig ai peidio) rhwng yr Awdurdod ac un neu fwy o bartïon eraill ar gyfer:-
• gwerthu nwyddau neu ddeunyddiau;
• cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau;
• cyflawni gwaith
• darparu gwasanaethau (gan gynnwys adeiladau a chyfleusterau). - Rheoli Contractau: Sicrhau bod y cytundeb contractiol iawn ar gyfer y sefydliad yn cael ei sefydlu a'i reoli yn y modd mwyaf effeithiol, gan alluogi'r ddwy ochr i gyflawni eu hymrwymiadau'n llawn a darparu gwasanaeth/cynnyrch o'r ansawdd iawn, ar amser, yn unol â'r gyllideb gan gydymffurfio â gofynion y fanyleb.
- Addasu Contractau: Mae Deddf Caffael 2023 yn egluro i ba raddau y gellir diwygio contract ar ôl ei ddyfarnu heb fod angen ei ailhysbysebu ar GwerthwchiGymru. Gweler Rheoliad 74 o Ddeddf Caffael 2023, sy'n amlinellu'r manylion, a gweler RhGC 14.
- Contractwr: gweler Cyflenwr
- Cofrestr Gontractau: Cofrestr o gontractau a fframweithiau a ddyfernir yn yr Awdurdod, a gedwir gan yr Uned Caffael Corfforaethol.
- Contract Corfforaethol: Contractau ar gyfer Nwyddau/Gwaith neu Wasanaethau sydd ar waith i'w defnyddio gan bob adran yn y Cyngor. Mae'r contractau hyn yn galluogi Swyddogion i gaffael cynhyrchion/gwasanaethau yn effeithlon ac yn effeithiol.
- Yr Uned Caffael Corfforaethol: Mae Uned Caffael Corfforaethol yr Awdurdod yn rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch Caffael.
- Caffaeliad a gwmpesir: Dyfarnu contract cyhoeddus, ymrwymo iddo a'i reoli fel y'i diffinnir yn Neddf Caffael 2023.
- Marchnad Ddynamig: Rhestr o gyflenwyr sydd wedi bodloni amodau aelodaeth y Cyngor ac y gellir dyfarnu contract sydd dros Drothwy Caffael y DU iddynt drwy'r weithdrefn hyblyg gystadleuol. Gall cyflenwyr newydd ymuno â'r Farchnad Ddynamig ar unrhyw adeg yn ystod ei gweithrediad. Dim ond ar ôl 24 Chwefror 2025 y ceir sefydlu Marchnad Ddynamig.
- e-Osciwn: Mae e-Ocsiwn (ocsiwn electronig) yn farchnad electronig rhwng prynwyr a chynigwyr, a ddefnyddir fel rhan o feini prawf costio yr ymarfer gwerthuso tendrau.
- Cytundeb Fframwaith: Cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau / cyrff cyhoeddus ac un neu ragor o weithredwyr economaidd, er mwyn sefydlu'r telerau sy'n rheoli contractau sydd i'w rhoi yn ystod cyfnod penodol (trefniadau yn ôl y gofyn).
- Corff Arweiniol: Unrhyw gorff y caniateir yn gyfreithlon i'r Awdurdod gaffael gydag ef neu drwyddo, gan gynnwys Adrannau'r Llywodraeth Ganolog, Awdurdodau Lleol eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus e.e. y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
- Swyddog Arweiniol: Bydd y Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am y broses gaffael ac ar ôl dyfarnu'r contract y swyddog hwnnw fydd y prif gyswllt rhwng yr Awdurdod a'r cyflenwr perthnasol. Bydd y Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am reoli'r trefniant contractiol hwnnw a sicrhau bod y pris/prisiau a delir yn unol â thelerau'r contract.
- Cyfundrefn Cyffyrddiad Ysgafn: Mae'r gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn newydd yn gyfres benodol o reolau ar gyfer rhai contractau gwasanaeth sy'n tueddu i fod â llai o ddiddordeb i gystadleuaeth drawsffiniol. Mae'r contractau gwasanaeth hynny yn cynnwys rhai gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg fel y diffinnir gan godau Geirfa Caffael Gyffredin sydd wedi'u hamlinellu yn Atodlen 1 o Reoliadau Caffael 2024.
- Mini-gystadleuaeth/Contract yn ôl y gofyn: Mini-gystadleuaeth yw'r broses a ddilynir i roi contract yn ôl y gofyn o dan gytundeb fframwaith lle nad yw'r cyflenwr gwerth gorau wedi'i bennu yn nhelerau gwreiddiol y cytundeb fframwaith. Gwahoddir yr holl gyflenwyr yn y cytundeb fframwaith gwreiddiol i gyflwyno cynigion ar sail y telerau gwreiddiol.
- Swyddog Monitro: Y Swyddog Monitro yw'r swyddog a ddynodwyd gan yr Awdurdod yn unol â darpariaethau Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith sy'n ymgymryd â'r rôl hon ar hyn o bryd.
- Y Tendr Mwyaf Manteisiol: Y tendr a fydd yn dod â'r budd mwyaf i'r Awdurdod yn sgil ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys ansawdd a phris.
- Contract Hysbysadwy sydd o dan y Trothwy: Contract rheoleiddiedig sydd o dan y trothwy â gwerth amcangyfrifedig o fwy na £30,000.
- Fframweithiau Agored: Cynllun o fframweithiau sy'n darparu ar gyfer dyfarnu fframweithiau olynol ar yr un telerau i raddau helaeth.
- Dyfynbris: Dyfynbris sy'n seiliedig ar bris ac unrhyw fater perthnasol arall, heb gyhoeddi tendr ffurfiol.
- Contract Rheoleiddiedig sydd o dan y Trothwy: Contract sydd o dan y trothwy nad yw'n:
• contract eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 2 o Ddeddf Caffael 2023;
• contract consesiwn; neu
• contract cyfleustodau. - Trefniant Caffael a Gedwir yn ôl: Caffaeliad o dan drefniant llywodraeth ganolog y DU, er enghraifft Gwasanaeth Masnachol y Goron.
- Swyddog Adran 151: Y swyddog a ddynodir gan yr Awdurdod o dan Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sy'n ymgymryd â'r rôl hon ar hyn o bryd.
- Gweithred Tendr Sengl: Dim ond mewn amgylchiadau prin ac eithriadol y dylid defnyddio Gweithred Tendr Sengl. Diffiniad bras o hyn yw caffael heb geisio cystadleuaeth neu os nad oes cystadleuaeth ar gael yn y farchnad. Mae'r diffiniad hwn yn berthnasol i bob gweithred tendr sengl sydd dros y trothwy ar gyfer tendrau.
- Cyfnod Segur: Y cyfnod lleiaf gofynnol rhwng hysbysu ynghylch penderfyniad i ddyfarnu contract a dyfarnu'r contract hwnnw. Yn y Deyrnas Unedig y cyfnod segur yw 8 diwrnod gwaith.
- Cyflenwr: Cyflenwr gwaith, nwyddau neu wasanaethau i'r Cyngor.
- Tendr: Cynnig gweithredwr economaidd a gyflwynir mewn ymateb i wahoddiad i dendro.
- Paneli Gwerthuso Tendrau: Grŵp o swyddogion a benodir gan y Swyddog Arweiniol i ymgymryd ag ymarfer gwerthuso tendrau ar gyfer contract neu Fframwaith. Bydd y grŵp o swyddogion dan sylw fel arfer yn parhau yn ddigyfnewid gydol y broses, a bydd ganddynt y cymwysterau a/neu’r arbenigedd angenrheidiol i gynghori’r Swyddog Arweiniol ar faterion technegol, caffael, cyfreithiol, ariannol, polisi a staffio.
- Gweithdrefnau Tendro:
- Gweithdrefn Agored - gweithdrefn dendro un cam heb gyfyngiad ar bwy sy'n gallu cyflwyno tendrau.
- Gweithdrefn Hyblyg Gystadleuol – gweithdrefn dendro gystadleuol arall y mae'r awdurdod contractio yn ei hystyried yn briodol at ddiben dyfarnu'r contract cyhoeddus.
Mae rhagor o fanylion am yr holl Weithdrefnau uchod ar gael yn y Canllawiau Caffael (sydd ar gael ar y Fewnrwyd) neu drwy gysylltu â'r Uned Caffael Corfforaethol.
- Trothwyon: Gwerth y contract ar gyfer y math o gontract dan sylw y mae Deddf Caffael 2023 yn berthnasol iddo. Mae'r Trothwyon hyn yn cael eu diweddaru bob dwy flynedd.
Caffael
Mwy ynghylch Caffael