Dyfynbrisiau gwerth hyd at £75,000

Diweddarwyd y dudalen: 05/10/2023

Ar ôl ichi ddarllen y canllaw cam wrth gam ac wedi amcangyfrif bod gwerth eich ymarferiad yn llai na £75,000 ac wedi cadarnhau nad oes contract neu fframwaith addas sydd eisoes wedi'i sefydlu ac wedi ystyried y dewisiadau o ran cydweithio.

Nodwch werth eich ymarferiad isod er mwyn dilyn y llwybr caffael cywir…

***Ar gyfer pryniannau o dan £25,000 gofynnir swyddogion i ‘Meddyliwch Sir Gâr Gyntaf!’ wrth geisio dyfyniadau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y trefniadau a grybwyllir uchod. Felly, archwiliwch y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu.***

Gwerth hyd at £10,000

Er eich bod yn meddwl o bosib fod llai na £10,000 yn swm cymharol isel o arian, mae'n arian cyhoeddus ac mae angen ichi sicrhau o hyd eich bod yn cael gwerth am arian. Hefyd mae'n werth nodi bod y trafodion bach hyn o bwys gyda'i gilydd a'i bod yn bosibl mai'r dyfynbrisiau hyn fydd y rhai mwyaf deniadol i'r busnesau bach a chanolig llai a'r rhai y maent yn ceisio bod yn ymwybodol ohonynt.

  • Dylech fod yn fodlon y cafwyd y gwerth gorau am arian, ac y cymerwyd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol.
  • Sicrhewch fod gennych y gymeradwyaeth neu'r awdurdodiad angenrheidiol i fynd ati i brynu.
  • Dylid cadw cadarnhad o'r gwerth am arian ar ffeil (eich rhesymau pam mae'n rhoi gwerth am arian).

Gwerth £10,000 - £25,000

  • Dylid ceisio o leiaf 3 dyfynbris o ffynonellau cystadleuol a dylent gael eu cadarnhau yn ysgrifenedig.
  • Rhaid cadw cofnod dogfennol o'r gwerthusiad a'r penderfyniad i ddyfarnu. Mae angen ichi gynnwys eich rhesymau pam mai'r cyflenwr a ffafrir yw'r gwerth gorau am arian.

Gwerth £25,000 - £75,000

Rhaid hysbysebu pob cyfle i gyflwyno dyfynbrisiau sy'n werth mwy na £25,000 ar wefan GwerthwchiGymru. Bydd aelod o'r Uned Caffael Corfforaethol yn eich helpu drwy'r broses hon.

  • Rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb, meini prawf gwerthuso a dyddiad cau.
  • Rhaid dychwelyd y dyfynbrisiau'n electronig drwy gyfleuster e-bost diogel neu drefniant e-dendro priodol (er enghraifft, blwch post GwerthwchiGymru). Fel arall rhaid anfon copi caled at y Swyddog Arweiniol mewn amlen blaen wedi'i selio ac arni'r gair "Dyfynbris" yn unig ynghyd â'r mater dan sylw a'r dyddiad cau.
  • Rhaid cadw cofnodion dogfennol o'r broses, gan gynnwys gwerthuso'r dyfynbrisiau.
  • Os derbynnir un dyfynbris yn unig, rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan Bennaeth Gwasanaeth yr adran berthnasol.

I'ch helpu yn y broses hon mae templed Dogfen Cyflwyno Dyfynbris wedi'i lunio.