Cynghorion

Diweddarwyd y dudalen: 07/08/2026

Gwnewch y canlynol...

  • Cysylltwch â'r caffael@sirgar.gov.uk i gael cyngor.

  • Gofalwch fod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn cael eu datgan ar y cyfle cyntaf posibl.

  • Gofalwch ganiatáu digon o amser ar gyfer yr ymarferiad caffael e.e. tua 9 mis ar gyfer tendr sy’n uwch na’r trothwy.

  • Gofalwch eich bod yn cydymffurfio â'r rheolau priodol - e.e. Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau.

  • Gofalwch gysylltu â'r corff cyllido priodol (os yw'n ymwneud â chyllid allanol) er mwyn sicrhau bod yr ymarferiad caffael yn cael ei wneud mewn modd sy'n cydymffurfio â'i ofynion.

  • Gofalwch eich bod yn hysbysebu ar wefan gwerthwchigymru os yw'r amcangyfrif o werth y gwaith yn fwy na £30,000.

  • Gofalwch sicrhau bod y fanyleb yn fanwl-gywir ac heb fod yn fwy na'r gofynion.

  • Gofalwch eich bod yn rhoi eglurhad ysgrifenedig ynghylch y dyfynbris/tendr. Anfonwch gopi o'r cwestiynau a'r atebion (heb gynnwys unrhyw enwau) at yr holl gynigwyr/tendrwyr y gwyddoch amdanynt.

  • Gofalwch eich bod yn sicrhau bod y Meini Prawf Gwerthuso yn union berthnasol i destun y contract h.y. defnyddio Datblygu Cynaliadwy a Budd Cymunedol.

  • Gofalwch eich bod yn cael cydsyniad yr aelodau o'r panel gwerthuso tendrau cyn rhoi'r dogfennau gwahoddiad i gyflwyno dyfynbris/tendr.

  • Gofalwch fod y dyfynbrisiau/tendrau yn cael eu gwerthuso ar sail 'tebyg i'w debyg'.

  • Gofalwch lenwi a chadw cofnodion llawn er gwybodaeth ar gyfer y dyfodol ac at ddibenion archwilio

  • Gofalwch eich bod yn delio â chyflenwyr mewn modd agored, tryloyw a hynny heb wahaniaethu

Peidiwch â gwneud y canlynol...

  • Peidiwch ag osgoi'r rheolau cydgasglu. Gofalwch eich bod yn cyfrifo gwerth y nwyddau, gwaith neu wasanaethau dros y cyfnod y maent yn ofynnol.

  • Peidiwch â gogwyddo’r fanyleb er mwyn diystyru busnesau bach a chanolig neu i wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr.

  • Peidiwch â newid y fanyleb ar ôl iddi gael ei dosbarthu.

  • Peidiwch â newid y meini prawf gwerthuso yn ystod y broses.

  • Peidiwch â rhoi rhy ychydig o amser i gwmnïau gyflwyno dyfynbris.

  • Peidiwch â rhoi gormod o fanylion ar lafar pan fyddwch yn ateb cwestiynau penodol gan gyflenwyr.

  • Peidiwch â datgelu prisiau i gyflenwyr posibl.

  • Peidiwch â thorri'r rheolau ynghylch cyfrinachedd.

  • Peidiwch ag agor dyfynbrisiau/tendrau cyn y dyddiad cau.

  • Peidiwch ag ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau.

  • Peidiwch â derbyn rhoddion/croesogarwch sy'n cael eu targedu.

  • Peidiwch â defnyddio telerau ac amodau'r cyflenwyr eu hunain.

  • Peidiwch â bod yn rhan o drafodaethau ar ôl tendro.