Caffael Moesegol a Chynaliadwy

Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2025

Budd i’r Gymuned

Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned ehangach ac mae Caffael yn ddull allweddol o'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau cynaliadwy. Gan gofio hyn, rydym wedi ymrwymo i ofyn i dendrwyr ddarparu Budd i'r Gymuned yn ein gweithgareddau tendro drwy gyflawni'r contractau neu'r fframweithiau a ddyfernir. Gallai'r manteision hyn gynnwys recriwtio a hyfforddi pobl sydd heb fod yn weithgar yn economaidd ers amser maith fel rhan o'r gweithlu sy'n rhoi'r contract ar waith; gweithio gyda cholegau ac ysgolion lleol o ran lleoliadau gwaith; cynnig hyfforddiant priodol drwy brentisiaethau neu ymgysylltu â chymunedau lleol ac ati.

Rhaid defnyddio dull Budd i'r Gymuned fel rhan o'r holl dendrau priodol. Gall swyddog penodedig Budd i'r Gymuned yr Uned Caffael Corfforaethol gynghori ar y dull gorau.

Cynaliadwyedd

Er mwyn sefydlu cynaliadwyedd ar lefel ymarferol a gweithredol, efallai y bydd Asesiad Risg Cynaliadwy yn cael ei gynnal ar gyfer pob ymarfer caffael dros £30,000. Diben yr asesiad yw sicrhau bod materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hasesu, eu deall a’u rheoli ym mhob penderfyniad allweddol ynghylch caffael. Mae hyn yn ein helpu i nodi ac elwa ar enillion cynaliadwy ar draws ein gweithgarwch contractio. Rydym yn gallu ystyried sut y gellir rhoi sylw i faterion cynaliadwyedd a'u hymgorffori wrth ddrafftio manyleb ac wrth dendro fel rhan o'r broses gaffael.

Trwy ystyried yn ofalus y gwahanol agweddau cynaliadwy sy’n berthnasol i’r contractau unigol, ein nod yw “dylanwadu” ar y fanyleb drwy fabwysiadu gofynion lleiaf a gwthio’r ffiniau lle y bo’n bosibl.

Cydraddoldebau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod cyfrifoldeb arnom ni i ystyried cydraddoldeb wrth gaffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau. Yng Nghymru mae'n ddyletswydd arnom i ystyried cydraddoldeb mewn perthynas â'r holl gytundebau perthnasol.  Ar gyfer rhai ymarferion caffael sylweddol bydd yn ofynnol i chi gwblhau Asesiad Effaith Integredig.

Yr Iaith Gymraeg

Lluniwyd Rheoliadau Safonau'r Gymraeg 2015 i roi gwell hawliau, y gellir eu gorfodi, i siaradwyr Cymraeg mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae hyn yn golygu, yng Nghymru, na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Yn benodol:

Safon 77: Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.  

Safon 77A: Rhaid ichi beidio â thrin tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau).  

Safon 79: Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi - (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 80: Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg. 

Diogelu Data

Rhaid i chi ystyried a fydd y cyflenwr/cyflenwyr yn cael Data Personol gan y Cyngor, yn casglu data personol ar ein rhan a/neu'n prosesu Data Personol mewn unrhyw ffordd arall, fel y'i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 2018/Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Os felly, rhaid ymgynghori â'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth i gael arweiniad pellach. 

Diogelu

Rhaid i chi ystyried a allai'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau sy'n cael eu caffael effeithio ar grwpiau agored i niwed, megis plant neu oedolion agored i niwed. Rhaid cynnwys mesurau diogelu yn y contract i sicrhau bod cyflenwyr yn cadw at bolisïau sy'n amddiffyn y grwpiau hyn rhag niwed, cam-drin neu gamfanteisio. Rhaid monitro'r mesurau hyn trwy gydol cyfnod y contract.