Eich Cefnogi Chi

Diweddarwyd y dudalen: 15/12/2023

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i staff ddatblygu'n bersonol ac yn eich swydd. Rydym hefyd yn deall bod gweithlu hapus ac iach yn hanfodol i unrhyw sefydliad sy'n ffynnu a dyna pam yr ydym yn parhau i flaenoriaethu llesiant ein holl staff, p'un a ydych chi'n gweithio ym maes gwasanaethau rheng flaen, yn y swyddfa neu'n gweithio o bell.

Cliciwch ar y tudalennau isod i archwilio pa gyfleoedd dysgu sydd ar gael, sut y gallwn gefnogi eich llesiant corfforol a meddyliol a sut y gall cael gwerthusiad rheolaidd eich cefnogi i wella.

Mae gennym hefyd adnoddau i'ch cefnogi a'ch tywys drwy eich taith cyflogaeth.

Cliciwch ar y tudalennau isod i weld sut y gall cael gwerthusiad rheolaidd eich cefnogi i wella, pa gyfleoedd dysgu sydd ar gael, sut y gallwn gefnogi eich lles corfforol a meddyliol a sut mae ein hadran Adnoddau Dynol (AD) yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn eich rôl.