Cyfarfodydd caeedig / digwyddiadau

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Trefnu a Chynnal Cyfarfodydd (sy’n cynnwys aelod(au) o’r cyhoedd drwy wahoddiad)

Pam trefnu a chynnal cyfarfodydd yn Gymraeg?

Gall defnyddwyr fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf, ac mae yna garfanau o siaradwyr Cymraeg sydd wirioneddol angen cael gwasanaeth yn eu hiaith gyntaf er mwyn cael eu trin yn effeithiol.

Pryd mae angen darparu cyfarfodydd yn Gymraeg?

Wrth drefnu cyfarfodydd gydag unigolyn:

  • Mae’n rhaid i chi ofyn iddynt a hoffen nhw ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Os ydy’r unigolyn yn ateb y byddai, dylech drefnu’r cyfarfod i ddigwydd yn Gymraeg gyda staff cyfrwng Cymraeg (lle bo hynny’n bosib).
  • Os nad ydy’r staff priodol yn medru’r Gymraeg bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd er mwyn i’r staff hynny ddeall yr unigolyn sy’n defnyddio’r Gymraeg.
  • Ond, os ydy’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant yr unigolyn, mae’n rhaid darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn i’r holl gyfarfod ddigwydd yn Gymraeg.

Wrth drefnu cyfarfodydd gyda mwy nag un person:

  • Mae’n rhaid i chi ofyn i bawb a hoffent ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Os ydy pawb yn ateb y byddent yn hoffi defnyddio’r Gymraeg, bydd angen trefnu i’r cyfarfod ddigwydd yn Gymraeg gyda staff cyfrwng Cymraeg (lle bo hynny’n bosib).
  • Os nad ydy’r staff priodol yn medru’r Gymraeg bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd er mwyn i’r staff hynny ddeall yr unigolyn sy’n defnyddio’r Gymraeg.
  • Os oes 10% neu fwy yn ateb y byddent yn hoffi defnyddio’r Gymraeg, dylech drefnu i’r cyfarfod ddigwydd yn Gymraeg gyda staff cyfrwng Cymraeg lle bo hynny’n bosib.
  • Os nad ydy’r staff priodol yn medru’r Gymraeg bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd er mwyn i’r staff ddeall y personau sy’n defnyddio’r Gymraeg.
  • Ond, os ydy’r cyfarfod yn ymwneud â llesiant rhywun sy’n bresennol, mae’n rhaid cynnal y cyfarfod yn Gymraeg gyda staff sy’n medru’r Gymraeg (lle bo hynny’n bosib).
  • Os nad ydy’r staff priodol yn medru’r Gymraeg bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn i’r holl gyfarfod ddigwydd yn Gymraeg.

Os ydy’r cyfarfod yn digwydd yn Gymraeg neu’n rhannol Gymraeg gyda chyfarpar cyfieithu, bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig (gan gynnwys agendâu, cofnodion, cyflwyniadau Pwynt Pŵer) yn ddwyieithog a bydd angen iddo fod o’r un diwyg a safon yn y ddwy iaith. Gallwch gael mynediad i'n templedi corfforaethol ar gyfer dogfennau Word a chyflwyniadau PowerPoint gan ein Tîm Graffeg.

Gwybodath bellach: