Rhoddion a lletygarwch

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Mae Adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn mynnu "na ddylai swyddog awdurdod lleol, o dan liw ei swydd neu ei gyflogaeth, dderbyn unrhyw ffi neu wobr o gwbl heblaw ei dâl priodol”.

Bydd swyddog sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau Adran 117 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £2,500.

Ni ddylech:

  • Dderbyn rhoddion personol, benthyciadau, ffioedd, gwobrau neu fantais gan ddefnyddwyr gwasanaeth, contractwyr, darpar gontractwyr gan gynnwys y rheiny sydd wedi gweithio i'r Cyngor yn flaenorol, neu gyflenwyr allanol, waeth beth fo'u gwerth
  • Derbyn cymhellion e.e. llwgrwobrwyo. Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i'r uwch-reolwr priodol am bob cynnig o gymhelliad a rhaid ei gofrestru fel y nodir yn y nodyn cyfarwyddyd hwn

Rhaid i chi:

  • Wrthod yn barchus unrhyw gynnig o rodd neu letygarwch, gan esbonio safbwynt y Cyngor
  • Gwrthod yn barchus unrhyw gynnig o letygarwch a allai gael ei weld gan y cyhoedd fel rhywbeth sy'n peryglu eich uniondeb e.e. tocynnau am ddim i ddigwyddiadau chwaraeon ac ati
  • Datgan unrhyw gynnig o rodd neu letygarwch gan ddefnyddio ein proses Datgan Rhoddion a Lletygarwch ar-lein, waeth beth fo'r gwerth

Os yw gwrthod y cynnig o rodd yn debygol o achosi tramgwydd oherwydd credoau diwylliannol neu grefyddol, ystyriwch roi'r rhodd i elusen leol.

Deallwn y byddwch, o bryd i'w gilydd, yn cael cynnig deunyddiau hyrwyddo isel eu gwerth am ddim wrth gyflawni eich dyletswyddau.

Mewn achosion fel y rhain caniateir i chi dderbyn eitemau isel eu gwerth o'r fath ar yr amod bod y rhodd i'w defnyddio at ddibenion gwaith ac yn ddelfrydol bydd wedi ei marcio â brand neu enw cwmni'r noddwr.

Gall enghreifftiau gynnwys eitemau megis dyddiaduron, calendrau, pennau, matiau llygoden neu unrhyw eitem arall o offer swyddfa gwerth isel. Nid oes angen datgan y mathau hyn o eitemau.

Deallwn y byddwch, o bryd i'w gilydd, yn cael cynnig lletygarwch wrth fynychu cynadleddau, seminarau, digwyddiadau hyfforddi, cyrsiau, cyfarfodydd gyda sefydliadau partneriaeth ac ati.

Mewn achosion fel y rhain, caniateir derbyn y lletygarwch lle mae'n amlwg bod y lletygarwch yn gorfforaethol yn hytrach nag yn bersonol, a lle mae'r Cyngor yn fodlon nad yw unrhyw benderfyniadau prynu yn cael eu peryglu.

Pan mae'n ofynnol ymweld â safleoedd i gael golwg ar offer ac ati, dylech sicrhau bod y Cyngor yn talu am gost y cyfryw ymweliadau rhag achosi amheuon ynghylch uniondeb penderfyniadau pwrcasu a wneir wedi hynny.

Pan ystyrir bod presenoldeb mewn digwyddiadau o'r fath yn briodol, dylai eich Cyfarwyddwr neu Bennaeth y Gwasanaeth awdurdodi presenoldeb ymlaen llaw. Wrth benderfynu pa mor briodol yw derbyn lletygarwch o'r fath, rhoddir ystyriaeth ym mhob achos i'r manteision i'r Cyngor.

Wrth dderbyn lletygarwch sydd wedi'i awdurdodi, dylai gweithwyr fod yn neilltuol o sensitif o ran ei amseru mewn perthynas â phenderfyniadau y gallai'r Cyngor fod yn eu gwneud ac a allai effeithio ar y rheiny sy'n cynnig y lletygarwch.

Os byddwch yn mynychu digwyddiadau gydag Aelodau Etholedig, gweithwyr eraill y Cyngor neu westeion, ni chaniateir i chi adennill treuliau sy'n ymwneud â darparu lletygarwch yn y digwyddiad hwnnw megis diodydd, ac ati.

Os cyfyd cwestiwn ynghylch y modd y mae gweithiwr yn dehongli'r Côd hwn a/neu ei weithredoedd, cyfrifoldeb y rheolwr priodol yw ymchwilio i weld a wnaeth y person weithredu'n ddidwyll yn ôl ei ddealltwriaeth o'r Côd Ymddygiad.

Lle bernir ei bod yn briodol derbyn rhoddion a lletygarwch, bydd angen awdurdodiad gan y Cyfarwyddwr neu'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol. Awgrymir bod yr awdurdodiad hwn yn cael ei gofnodi'n electronig drwy e-bost.

Os gwneir y cynnig i Bennaeth Gwasanaeth, bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn darparu'r awdurdodiad.

Os gwneir y cynnig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Prif Weithredwr fydd yn darparu'r awdurdodiad.

Os gwneir y cynnig i'r Prif Weithredwr, bydd y Swyddog Monitro yn darparu'r awdurdodiad.