Cuddwylio

Diweddarwyd y dudalen: 02/06/2023

Gweithdrefnau'r Cyngor

Daw pwerau Awdurdodau Lleol i gynnal gweithgarwch cuddwylio o ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r prif gyfyngiadau ar ddefnyddio’r pwerau hynny yn Neddf Hawliau Dynol 1998, ac yn benodol felly Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (Yr hawl i barch i fywyd preifat a theuluol person).

Mae Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA) (wedi’i diwygio) yn rheoleiddio ymchwiliadau cuddwylio gan nifer o gyrff, gan gynnwys awdurdodau lleol. Fe’i cyflwynwyd i sicrhau bod hawliau unigolion yn cael eu parchu gan sicrhau hefyd y gall cyrff gorfodi’r gyfraith a diogeledd barhau i arfer y pwerau maen nhw eu hangen i wneud eu gwaith yn effeithiol.

Nid yw cuddwylio am resymau heblaw ymchwilio i droseddau troseddol cymwys yn dod o fewn cwmpas yr RIPA. Gall gwyliadwriaeth o’r fath fod yn gyfreithlon o hyd, ond mae angen gofal ychwanegol i sicrhau nad yw gwyliadwriaeth o’r fath yn tarfu ar Hawliau Dynol unigolyn.

Rhaid rhoi ystyriaeth i’r Codau Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref wrth baratoi’r gweithdrefnau hyn.

RHAID i bob gweithgarwch cuddwylio a wneir gan neu ar ran y Cyngor gael ei awdurdodi gan un o’r swyddogion awdurdodi a hyfforddwyd yn briodol a restrir yn Atodiad 1 oni chafodd y gweithgarwch ei awdurdodi’n gyfreithlon o dan ddarpariaeth statudol arall a bod Swyddog Monitro'r Cyngor wedi cadarnhau nad oes felly angen awdurdodiad yn unol â’r ddogfen weithdrefn hon.

Dylai Swyddogion Ymchwilio a Swyddogion Awdurdodi unigol ymgyfarwyddo â’r ddogfen weithdrefn hon a’r Codau Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref.

Mae penderfynu pryd mae angen awdurdodiad yn fater o farn. Fodd bynnag, os oes gan swyddog ymchwilio unrhyw amheuon, dylai ef/hi ofyn am gyngor cyfreithiol yn syth. Fodd bynnag, y rheol gyffredinol yw ei bod bob tro’n fwy diogel gwneud cais am yr awdurdodiad priodol.