Cwynion a Chanmoliaeth

Diweddarwyd y dudalen: 19/04/2023

Mae cwynion a chanmoliaeth gan aelodau o'r cyhoedd yn ffynhonnell werthfawr o adborth am y gwasanaethau a ddarparwn. Maent yn fodd cadarnhaol o hybu bodlonrwydd cwsmeriaid ac yn ffordd o nodi cyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaeth. Maent yn ein helpu i ddysgu am anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Cwyn yw:

  • mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
  • am gamau neu ddiffyg gweithredu darparwr gwasanaeth cyhoeddus
  • neu am safon y gwasanaeth a ddarperir
  • sy'n gofyn am ymateb
  • boed am y darparwr cyhoeddus gwasanaeth ei hun, person sy'n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth gwasanaethau cyhoeddus

Nid yw cwyn yn:

  • gais cychwynnol am wasanaeth, megis rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
  • apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed yn briodol gan gorff cyhoeddus
  • yn fodd i geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi a wnaed yn gywir
  • yn fodd i lobïo grwpiau / sefydliadau i geisio hyrwyddo achos

Canmoliaeth yw mynegiant o foddhad, lle'r ydym wedi rhagori ar ddisgwyliadau.

Gall cwynion gael eu derbyn mewn unrhyw ran o'r Cyngor a gall ein cwsmeriaid godi materion heb ddefnyddio'r gair 'cwyn'.

Rhaid i gwynion gael eu hanfon ymlaen at y Tîm Cwynion cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu derbyn a heb oedi gormodol.

Os ydych yn derbyn cwyn, neu ganmoliaeth, neu os oes angen unrhyw gyngor, cysylltwch â’r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth ar 01267 224630/224631 neu e-bostiwch: