Torri'r côd

Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2021

Mae canlyniadau i dorri'r côd hwn. Ymchwilir i achosion o dorri'r côd hwn (y tu mewn neu'r tu allan i'r gwaith) a gallant arwain at gamau disgyblu. Gellir ystyried achosion difrifol o dorri'r Côd yn gamymddwyn difrifol a gallant arwain at ddiswyddo heb rybudd.

Rhaid i chi gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliadau, gan gynnwys y rheiny a gynhelir gan y Swyddog Monitro, sydd yn gyfrifol am roi gwybod i'r Cyngor a / neu'r Bwrdd Gweithredol am unrhyw achosion gwirioneddol neu bosibl o dorri'r gyfraith neu gamweinyddu.

Wrth weithio ar ran y Cyngor rhaid i chi:

  • Weithredu er budd y Cyngor ac yn unol ag egwyddorion bywyd cyhoeddus sef anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth
  • Cydymffurfio â chyfansoddiad, gofynion gwasanaeth, polisïau a safonau'r Cyngor a deddfwriaeth a safonau proffesiynol eraill sy'n berthnasol i'ch rôl
  • Datgan i'ch rheolwr llinell unrhyw wrthdaro buddiannau neu berthnasoedd posibl neu wirioneddol a allai effeithio ar eich gwaith, neu ar waith y Cyngor
  • Rhoi gwybod i'ch rheolwr am unrhyw bryderon neu achosion o dorri'r côd hwn
  • Gofyn i'ch rheolwr os nad ydych yn siŵr beth sy'n ofynnol oddi wrthych

 

Gweithgareddau amhriodol neu anghyfreithlon

Os ydych yn pryderu am unrhyw weithgareddau, a allai wrthdaro yn eich barn chi â'r Côd Ymddygiad, dylech godi'r mater gyda'ch rheolwr llinell neu Bennaeth y Gwasanaeth.

Rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell neu Bennaeth y Gwasanaeth am unrhyw weithgaredd, sydd yn eich barn chi yn anghyfreithlon, yn amhriodol, yn anfoesegol, yn beryglus neu'n torri polisi.

Mae'r Polisi Datgelu Camarfer yn rhoi amddiffyniad i weithwyr, ymgynghorwyr neu gontractwyr sy'n codi pryderon o'r math hwn sydd er budd y cyhoedd.