Cyfarfodydd cyhoeddus / digwyddiadau

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Cyfarfodydd neu ddigwyddiadau sy’n agored i’r cyhoedd

Wrth drefnu pob cyfarfod neu ddigwyddiad sy’n agored i’r cyhoedd

  • Bydd angen marchnata’r cyfarfod neu ddigwyddiad yn ddwyieithog ac i’r un graddau yn y ddwy iaith.
  • Wrth farchnata, bydd angen hysbysebu’r ffaith y bydd croeso i unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod (er enghraifft cynnwys brawddeg yn dynodi hyn ar y gwahoddiad neu’r deunyddiau marchnata).
  • Bydd angen i chi anfon gwahoddiadau yn ddwyieithog (gweler canllaw gohebu).
  • Os ydych chi’n trefnu siaradwyr mewn cyfarfod, bydd angen i chi ofyn i siaradwyr a hoffent ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig (gan gynnwys agendâu, cofnodion, cyflwyniadau Pwynt Pŵer) yn ddwyieithog.
  • Bydd angen i unrhyw ddatganiadau i’r wasg am y digwyddiad fod yn ddwyieithog.

Cofiwch: Bydd angen cynllunio’r cyfarfod yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Mapiwch yr hyn bydd angen yn ddwyieithog (Cyflwyniad pwynt pŵer, agenda, cofnodion, taflenni, hysbysfyrddau ayb)

Gwyliwch ein fideo

Wrth gynnal pob cyfarfod neu ddigwyddiad sy’n agored i’r cyhoedd

Bydd angen sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn yr modd yn y digwyddiad.

  • Os nad ydy’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Gymraeg, bydd angen darparu gwasanaeth cyfieithu er mwyn i bawb ddeall y cyfraniadau i gyd.
  • Bydd angen hysbysu pawb ar ddechrau’r cyfarfod bod croeso i unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Bydd angen hysbysu pawb bod gwasanaeth cyfieithu ar gael a chynnal prawf ar ddechrau’r cyfarfod i wirio bod yr offer yn gweithio.
  • Bydd angen i unrhyw ddeunyddiau cael eu arddangos yn ddwyieithog (Cyflwyniadau Pwynt Pŵer, posteri, hysbysfyrddau) a bydd angen iddo fod o’r un diwyg a safon yn y ddwy iaith.
  • Os byddwch yn cyhoeddi negeseuon dros system annerch gyhoeddus, bydd angen iddo fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.

Annog defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfod neu ddigwyddiad cyhoeddus

Cofiwch, mae angen annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyfarfodydd. Mae pobl yn tueddu i ddefnyddio’r iaith mae pawb yn ei ddeall yn hytrach na’r iaith y maent yn dymuno defnyddio.

Cofiwch bod yr uchod hefyd yn berthnasol i ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu ar ran y Cyngor neu ar y cyd (os ydy’r Cyngor yn ei ariannu o leiaf 50%).

Dyma restr wirio i sicrhau eich bod yn annog defnydd o’r Gymraeg yn y digwyddiad:

  • Ydy’r Cadeirydd neu’r cyflwynydd yn defnyddio Cymraeg wrth gyflwyno er mwyn sefydlu natur ddwyieithog y cyfarfod?
  • Oes rhywrai’n sgwrsio yn Gymraeg gyda phobl wrth iddyn nhw gyrraedd?
  • Ydy’r staff sy’n medru’r Gymraeg yn gwisg o bathodynnau ‘Iaith Gwaith’?
  • Ydych chi’n defnyddio posteri ‘Iaith Gwaith’ i hysbysebu’r ffaith ei fod yn ddigwyddiad dwyieithog?
  • Ydych chi’n sicrhau bod Cymraeg yn cael ei glywed yn y pytiau cyswllt rhwng siaradwyr?
  • Ydych chi’n gwahodd cwestiynau yn y ddwy iaith?
  • Ydych chi wedi trefnu bod rhai o’r gweithdai neu sesiynau trafod trwy gyfrwng y Gymraeg?
  • Ydych chi wedi gofyn i gyfrannwyr i gyflwyno’n Gymraeg?

Rydym wedi datblygu gyfres o glipiau sain a fydd yn eich cynorthwyo i ynganu geiriau, termau a brawddegau nad ydych chi’n siŵr ohonynt. Mae rhain yn cynnwys:

Gwybodaeth bellach