Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Cyfres o 170 o gyfarwyddiadau yw’r Safonau sy’n nodi sut ydyn ni i fod i drin yr iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau. Mae’r Safonau Iaith wedi cael eu pasio gan Lywodraeth Cymru ac wedi cael eu gosod ar y Cyngor Sir gan Gomisiynydd y Gymraeg. O 31 Mawrth 2016 mae gofyn i ni gydymffurfio â’r Safonau newydd. Mae’r Safonau yn cymryd lle'r hen Gynllun Iaith Gymraeg.

Na. Nid ar y cyfan. Lle'r oedd y Cynllun yn gofyn i ni drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, mae’r Safonau yn gofyn i ni ‘beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg’, ac i ‘hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg yn y sir’. Ond mae’r Safonau’n fwy penodol ac yn fwy fel cyfarwyddyd nac ymrwymiadau cyffredinol. Mae yna rai elfennau newydd, ond ar y cyfan mae’r gofynion yn debyg.

Gallai’r Cyngor dderbyn dirwy os nad ydym yn cydymffurfio.  Dyma gam pellaf y Comisiynydd wrth geisio sicrhau y caiff hawliau defnyddwyr y Gymraeg eu gwarchod.  Yn dilyn ymchwiliad, bydd y Comisiynydd yn rhoi cyfle i’r Cyngor i adfer y sefyllfa a sicrhau cydymffurfiaeth yn y dyfodol. Os nad ydy hyn yn digwydd, fe fydd y Comisiynydd yn gallu gorfodi cydymffurfiaeth ac yna os na ddigwydd wedyn, daw cosb sifil o £5,000 o ddirwy. 

Mae un o’r Safonau yn gofyn i’r Cyngor gasglu gwybodaeth am sgiliau iaith ein staff. Bydd yn rhaid i ni adrodd i’r Comisiynydd yn flynyddol ar y wybodaeth hon. Bydd casglu’r wybodaeth yn her wrth feddwl am y croestoriad o staff sy’n gweithio i’r Cyngor ac mewn gwahanol leoliadau.  Ond, fe fydd yn ein galluogi ni i gynnig cyfleoedd i chi wella eich sgiliau iaith os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Nid oes unrhyw bwysau ar staff i wneud hyn.

Mae yna 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ond yn hanesyddol, does dim dewis iaith wedi bodoli yn y sector cyhoeddus, felly nid ydy pobl yn disgwyl y gwasanaethau yn Gymraeg. Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg. Mae’r cynsail hwn yn rhan o ymdrechion holl sector gyhoeddus Cymru i gyfrannu tuag at barhad yr iaith Gymraeg fel iaith unigryw, leiafrifol, ond byw.

Mae un o’r Safonau yn gofyn i’r Cyngor gasglu gwybodaeth am sgiliau iaith ein staff. Bydd y Cyngor yn gorfod adrodd i’r Comisiynydd yn flynyddol ar y wybodaeth hon. Bydd casglu’r wybodaeth yn her wrth feddwl am y croestoriad o staff sy’n gweithio i’r Cyngor ac mewn gwahanol leoliadau, ond fe fydd yn ein galluogi ni i gynnig cyfleoedd i chi wella eich sgiliau iaith os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Ni fydd unrhyw bwysau ar staff i wneud hyn.

Na, nid yw hynny’n wir. Dyma ddisgrifiad o lefel 3 y Fframwaith Sgiliau Iaith newydd:

  • Medru deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
  • Medru cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
  •  Medru cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.

Mae gofynion Lefel A Cymraeg a T.G.A.U Cymraeg yn dipyn uwch na lefel 3 ar Fframwaith ALTE.

Byddwch. Fe fydd eich rheolwr llinell yn trefnu hyn gyda chi gan gymryd i ystyriaeth trefniadau’r adran i ddarparu gwasanaethau.

Mae’r safonau’n dweud fod yn rhaid i chi ddarparu cofnodion Cymraeg os ydy’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Ond hefyd, os mai chi sy’n cydlynu’r bartneriaeth, dylech ofyn, wrth wahodd partneriaid i’r cyfarfod cyntaf, a fydden nhw’n hoffi defnyddio’r Gymraeg, ac os oes mwy na 10% yn dweud y byddent, rhaid i chi ddarparu’r modd iddynt wneud hynny. Yn yr achos hwnnw bydd angen i’r cofnodion fod ar gael yn Gymraeg.

Mae’n arfer dda i gyhoeddi’r ddwy iaith ar yr un daflen. Os nad ydy hyn y bosib naill ai achos hyd y ddogfen neu o achos rhwystr ymarferol arall, gellir eu cyhoeddi ar wahân, ond bod yn rhaid nodi ar y ddogfen Saesneg bod yna fersiwn Gymraeg ar gael.

Mae’n rhaid sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu gyda’i gilydd ac ar yr un pryd hefyd er mwyn ‘peidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg’.

 

Oes. Mae angen i gyrff sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan gydymffurfio â’n safonau ni i raddau eu bod yn berthnasol i’r gwasanaeth y maen nhw’n darparu. Felly, bydd angen i chi sicrhau bod y drefn hon yn cael ei sefydlu o’r cychwyn, yn y dogfennau tendro neu gytundebau.

Mae angen i bob llythyr cyntaf at aelod o’r cyhoedd fod yn ddwyieithog. Mae angen i bob cylchlythyr fod yn ddwyieithog. Yr unig dro y mae’n dderbyniol eich bod yn gohebu yn uniaith Saesneg yw os ydych chi’n hollol sicr nad ydy’r aelod yna o’r cyhoedd eisiau derbyn fersiwn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod gennych systemau gwbl gadarn mewn lle os ydych yn bwriadu canfod y wybodaeth yma. Fel arall, anfonwch ohebiaeth yn ddwyieithog.

Ystyriwch y Gymraeg wrth gynllunio yn hytrach nac ar y funud olaf cyn cyhoeddi. Gallwch gynorthwyo’r Uned Gyfieithu drwy roi gwybod o flaen llaw, cyn i’r ddogfen fod yn barod, ei bod ar y ffordd, gan nodi eich dyddiad cau chi ar ei chyfer fel bod modd i’r Uned Gyfieithu amserlenni eich gwaith chi i’w rhaglen waith nhw.

Darparwch esboniad o acronyms, neu fersiynau Cymraeg o acronyms i’r uned wrth gyflwyno’r gwaith. Yn aml, chi sy’n gyfarwydd â’ch maes gwaith ac y mwyaf o wybodaeth yr ydych chi’n darparu, y lleiaf y mae’n rhaid iddyn nhw ymchwilio. Os oes enwau Cymraeg ar gael ar gyfer cyrff neu gynadleddau neu brosiectau sy’n ymddangos yn y ddogfen, rhowch restr ohonynt i’r Uned gyfieithu wrth gyflwyno’r gwaith fel nad oes yn rhaid i’r cyfieithwyr ddyfeisio teitlau o’r newydd.

Os ydych yn gallu siarad Cymraeg, lluniwch y ddogfen yn y Gymraeg ac yna ei gyfieithu i’r Saesneg. Byddwch yn gweld eich bod yn gallu ysgrifennu’r Gymraeg yn llawer haws fel hyn na cheisio ei gyfieithu o’r Saesneg. Mae darparu fersiwn Gymraeg i’r uned gyfieithu yn golygu y gallan nhw wirio’ch gwaith yn lle ei gyfieithu. Mae hyn yn arbed amser.

Gwiriwch eich gwaith Saesneg er mwyn sicrhau bod popeth yn glir cyn ei gyflwyno fel na fydd yn rhaid i’r Uned Gyfieithu gysylltu gyda chi i wirio pethau.

Oes. Ers 1997, mae Cynllun iaith y Cyngor a nawr y Safonau newydd yn rhoi dewis iaith i’n defnyddwyr gan ein bod yn sir ddwyieithog. Mae hyn yn golygu bod angen i’r cwsmer glywed y Gymraeg yn y cyswllt cyntaf gyda’r Cyngor.

 Bydd angen i chi roi’r cyfarchiad dwyieithog ac os yw’r galwr eisiau siarad yn Gymraeg bydd angen i chi drosglwyddo’r alwad i gyd-swyddog sy’n medru delio gyda’r ymholiad neu gymryd manylion y galwr a chael swyddog sy’n medru’r Gymraeg i ffonio yn ôl. This guidance will assist you with using Welsh on the phone.

Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu ar naill lefel 1 y Fframwaith Sgiliau Iaith newydd neu ar lefel iaith benodol yn dibynnu ar anghenion ieithyddol y swydd honno. Mae lefel 1 y Fframwaith Sgiliau Iaith newydd yn cyfateb i gwrteisi iaith sylfaenol sy’n golygu gallu ynganu enwau pobl a lleoedd yn briodol. Bydd angen i ymgeisydd allu cyrraedd y lefel ieithyddol honno neu allu ymrwymo i gyrraedd y lefel honno drwy hyfforddiant ar ôl cychwyn yn y swydd.

Nac ydy.  Mae angen rhai swyddogion sydd yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol yn ogystal â’r Gymraeg.  Gall y swyddogion hyn fod yn bobl sydd yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol ond angen dysgu Cymraeg, neu swyddogion sydd yn siaradwyr Cymraeg ac yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol eraill.  Mae’r iaith yn cael ei ystyried fel un o’r sgiliau sydd eu hangen ac fe fyddwn yn darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau o staff sydd ei angen.

Na. Cyfrifoldeb y Cyngor ydyw i sicrhau bod yna rywun yn gallu darparu’r elfen Gymraeg o’r swydd. Ni fydd y safonau yn cael effaith ar eich cytundebau presennol o gwbl.

Na. Dim ond un sgil yw’r Gymraeg allan o nifer fawr o sgiliau a nodweddion sy’n cael eu hystyried wrth geisio am ddyrchafiadau a swyddi yng Nghyngor Sir Gâr.

Oes.  Daw’r Safonau Iaith o dan Fesur y Gymraeg 2011 a basiwyd fel deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Chwefror 2011.

Rhoddwyd hawl i’r Cynulliad gymeradwyo Safonau’r Cynghorau Sir a phasiwyd y rhain yng Nghynulliad Cymru ar 24 Mawrth 2015.

Llwythwch mwy