Arwyddion, taflenni, ffurflenni ayb.

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Arwyddion, taflenni, ffurflenni ayb.

Mae’r iaith Gymraeg yn allwedd i hunaniaeth a diwylliant nifer o’n poblogaeth.

Mae’n bwysig cofio ein bod eisiau annog defnydd o ddogfennaeth Gymraeg gymaint ag y gallwn. Yn aml, bydd unigolyn yn dymuno cyfeirio at fersiwn Cymraeg o ffurflen er enghraifft, ond yn y diwedd, yn llenwi’r ffurflen i mewn yn Saesneg. Dyna pam mai dogfennau dwyieithog sy’n gweithio orau yn hytrach na chyhoeddiadau Saesneg a Chymraeg ar wahân.

Mae angen i unrhyw ddeunydd y mae’r cyngor yn arddangos, gael ei arddangos yn ddwyieithog, ar yr un pryd ag i’r un safon yn y ddwy iaith.

Dyma’r deunyddiau sydd angen cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog ar bob cyfrif:

  • Deunyddiau cyhoeddusrwydd
  • Trwyddedi a thystysgrifau
  • Deunyddiau sy’n darparu gwybodaeth i’r cyhoedd, e.e. llyfryn, taflen, pamffled
  • Arwyddion
  • Cylchlythyron
  • Hysbysiadau Swyddogol

Dylunio Graffeg

Dylai’r holl waith dylunio uchod fynd drwy’r tîm dyunio graffeg, e-bostiwch: cegraphics@sirgar.gov.uk.

Gwasanaethau Argraffu

Rydym yn rhan o fframwaith dendr argraffu cenedlaethol. Am ddyfynbrisiau cwblhewch ein ffurflen ar-lein neu e-bostiwch: ceprint@sirgar.gov.uk.

Hysbysiadau Swyddogol

E-bostiwch: ceadvertising@sirgar.gov.uk i osod hysbysiadau’r wasg a chyhoeddusrwydd.

Datganiadau i’r wasg

Cysylltwch â’r Tîm Marchnata a’r Cyfryngau ar gyfer datganiadau i’r wasg.

Dogfennau eraill

Bydd angen i’r dogfennau isod fod yn ddwyieithog os ydynt ar gael i’r cyhoedd:

  • Polisïau
  • Strategaethau
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Cynlluniau corfforaethol
  • Canllawiau a chodau ymarfer
  • Rheolau
  • Ffurflenni

Sylwch:Os nad yw’r hyn yr ydych chi am ei gyhoeddi yn y rhestrau uchod, ond bod pwnc y ddogfen yn awgrymu y byddai’n ofynnol i chi ei lunio’n ddwyieithog, neu os yw’r gynulleidfa dan sylw yn debygol o ddisgwyl gweld y ddogfen yn ddwyieithog, bydd angen i chi ei lunio yn ddwyieithog.

Pethau pwysig i’w cofio wrth ddylunio a chyhoeddi’r uchod:

  • Mae’n rhaid sicrhau nad ydy’r testun Cymraeg ar ddeunydd dwyieithog yn cael ei drin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran cywirdeb a diwyg,
  • Mae angen sicrhau ( e.e. ar arwydd neu hysbysiad) swyddogol mai’r Gymraeg sydd yn y safle sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. Mae hyn yn wir wrth lynu fersiynau o lythyrau neu ffurflenni Cymraeg a Saesneg at ei gilydd. Sicrhewch mai’r Gymraeg sydd uchaf,
  • Mae hi bob amser yn well cyhoeddi deunyddiau dwyieithog ar yr un ddogfen, cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr,
  • Os nad yw’n bosib dylunio’r ddwy iaith ar yr un ddogfen, gallwch eu dylunio ar wahân ond bydd yn rhaid sicrhau bod y diwyg a’r safon yr un yn y ddwy iaith,
  • Os ydych yn eu dylunio ar wahân, bydd angen i chi sicrhau
    1. Eich bod yn nodi ar y ddogfen Saesneg bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg,
    2. Bod y manylion ymarferol fel dyddiadau cau ayb ar yr un ar y ddwy daflen,
    3. Bod y fersiwn Cymraeg ar gael yr un mor hawdd â’r fersiwn Saesneg,
  • Ceir copi o Ganllawiau Brand y Cyngor oddi wrth y tîm graffeg yn yr Adran Marchnata a’r Cyfryngau

Sylwch: Ar gyfer ffurflenni’n unig.

Os byddwch yn anfon fersiwn Cymraeg o ffurflen gyda gwybodaeth wedi ei fewnosod o flaen llaw, bydd yn rhai i chi sicrhau fod y wybodaeth yn Gymraeg hefyd. Ni allwch anfon ffurflenni Saesneg yn unig allan i’r cyhoedd oni bai eich bod yn gwybod nad ydynt eisiau fersiwn Cymraeg. Er mwyn sefydlu dewis iaith unigolyn dylech gynnwys cwestiwn tebyg i hwn ar y ffurflen neu gyfathrebiad cyntaf:

Ffurflenni ddwyieithog

Gwybodaeth bellach