Natur wleidyddol ddiduedd

Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2021

Wrth weithio ar ran y Cyngor:

  • Rhaid i chi aros yn wleidyddol niwtral ac yn wrthrychol yn eich rôl waith
  • Ni ddylech ganiatáu i'ch barn bersonol neu'ch barn wleidyddol eich hun ymyrryd â'ch gwaith

 

Gweithio gydag Aelodau Etholedig

Mae parch rhwng y rheiny sy'n gweithio ar ran y Cyngor ac Aelodau Etholedig yn hanfodol i lywodraeth leol dda.

Rhaid i chi:

  • Weithio i'r holl Aelodau gan ddarparu cyngor priodol a diduedd bob amser
  • Sicrhau bod perthynas waith yn cael ei chadw'n broffesiynol

 

Swyddi dan gyfyngiad gwleidyddol

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi rhai swyddi awdurdod lleol sydd dan gyfyngiad gwleidyddol. Os oes gennych swydd o'r fath:

  • Rhaid i chi aros yn wleidyddol niwtral ac yn eich rôl waith

Ni ddylech:

  • Sefyll fel ymgeisydd am swydd swyddog etholedig cyhoeddus (ac eithrio i Gyngor Tref a Chymuned)
  • Dal swydd mewn plaid wleidyddol
  • Canfasio mewn etholiadau
  • Siarad neu ysgrifennu'n gyhoeddus, gan ddangos cefnogaeth i blaid wleidyddol