Egwyddorion ynghylch ymddygiad mewn gwasanaeth cyhoeddus

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Dysgwch fwy am yr hyn a ddisgwylir gennych wrth weithio mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Gwerthoedd Craidd y Cyngor.

Nodir isod y saith egwyddor gyffredinol ynghylch ymddygiad sy'n sail i fywyd cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Mae angen i ni roi ystyriaeth i'r rhain, a chânt eu hadlewyrchu yng ngofynion y ddogfen côd ymddygiad hon.

Anhunanoldeb

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er lles y cyhoedd yn unig. Ni ddylent wneud hynny er mwyn iddynt hwy, eu teulu neu eu ffrindiau elwa’n ariannol neu elwa mewn ffordd arall.

Uniondeb

Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus osod eu hunain mewn sefyllfa o ddyled ariannol neu unrhyw ddyled arall i sefydliadau neu unigolion allanol a allai geisio dylanwadu ar y ffordd y maent yn perfformio’u dyletswyddau swyddogol.

Gwrthrychedd

Wrth gyflawni busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau, neu argymell unigolion ar gyfer gwobrwyon neu fuddiannau, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau yn ôl haeddiant.

Atebolrwydd

Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt wneud eu hunain yn destun pa bynnag archwiliad sy’n addas i’w swydd.

Bod yn agored

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a gweithrediadau a wneir ganddynt. Dylent roi rhesymau am eu penderfyniadau a pheidio â chyfyngu ar y wybodaeth onid oes angen am hynny er budd ehangach y cyhoedd.

Gonestrwydd

Mae’n ddyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a dylent gymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro a allai godi mewn modd sy’n diogelu buddiannau cyhoeddus.

Arweinyddiaeth 

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo ac ategu'r egwyddorion hyn drwy arweinyddiaeth ac esiampl.

 

Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi pum ffordd o weithio sydd eu hangen er mwyn i sefydliadau cyhoeddus gyflawni'r saith nod llesiant. Maent yn rhoi cyfle i feddwl yn arloesol, gan adlewyrchu'r ffordd rydym yn byw ein bywydau a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wireddu ei werthoedd. Trwy weithio gyda'n gilydd fel Un Tîm byddwn ni'n:

  • Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid
  • Gwrando er mwyn gwella
  • Ymdrechu i ragori
  • Gweithredu ag uniondeb
  • Cymryd cyfrifoldeb personol

Am wybodaeth bellach ewch i Gwerthoedd Craidd.

Mae gan bawb gyfrifoldeb i groesawu a chefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i herio ymddygiad ac agweddau sy'n ein hatal rhag cyflawni hyn.

Rydym i gyd yn bersonol gyfrifol am sicrhau ein bod yn cefnogi egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn modd cadarnhaol bob amser, yn cydweithredu drwy hyrwyddo cysylltiadau da ac yn herio ymddygiad amhriodol drwy ddilyn y gwerthoedd a nodir yn ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a pholisïau a chanllawiau cysylltiedig eraill.

Rhaid i chi: 

  • Drin eraill yn deg ac â pharch ym mhob un o'r camau cyflogaeth gan gynnwys y broses recriwtio
  • Sicrhau nad yw eraill yn dioddef aflonyddu, gwahaniaethu neu erledigaeth o unrhyw ddisgrifiad, a chreu amgylchedd lle mae gan bawb yr hawl i herio ymddygiad amhriodol mewn amgylchedd diogel

Ni ddylech:

  • Wahaniaethu'n annheg mewn arferion cyflogaeth neu wrth ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau.

Wrth ddangos eich ymrwymiad i'r amgylchedd rhaid i chi:

  • Ystyried effaith eich camau gweithredu a'ch penderfyniadau ar yr amgylchedd
  • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle bynnag y bo modd
  • Datblygu polisïau ac arferion sy'n sensitif i'r amgylchedd gyda chyflenwyr, partneriaid a chwsmeriaid