Cydroddoldeb ac Amrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 26/09/2023

Rydym yn gyfrifol am gyflenwi ystod amrywiol o wasanaethau i’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu. Mae’n llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, gan adlewyrchu ein safbwyntiau a’n profiadau gwahanol.

Drwy ddenu, recriwtio a datblygu pobl o’r gronfa ehangaf bosibl o dalent, gallwn gael gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid nawr ac i’r dyfodol, a sicrhau ein bod yn llwyddo.

Mae’r Polisi hwn yn cwmpasu pob gweithiwr, yn cynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog ond heb gynnwys

Rydym (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn gyfrifol am ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau i'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydym yn eu cyflogi ac ar ddefnyddio'u safbwyntiau a'u profiadau gwahanol.

Drwy ddenu, recriwtio a datblygu pobl o'r gronfa dalent ehangaf bosibl gallwn ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein llwyddiant.

Rydym i gyd yn wahanol. Mae ein cefndiroedd, ein profiadau a'n safbwyntiau gwahanol yn golygu ein bod yn meddwl am faterion mewn ffyrdd gwahanol ac yn gallu nodi atebion a chyfleoedd newydd i wella. Mae'r sgiliau hyn yn bwysig i bob un ohonom fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.

Mae cyfoeth o waith ymchwil yn dangos bod gweithleoedd sy'n fwy cynhwysol yn fwy cynhyrchiol.

Os oes rhwystrau'n bodoli o ran recriwtio a chadw staff traws, gallem golli'r cyfle i fanteisio ar y potensial hwn. [1] Rydym yn gwybod bod pobl draws yn aml yn gadael eu swyddi cyn trawsnewid a'u bod yn aml yn cael swyddi â chyflog is pan fyddant yn dychwelyd i'r gweithle. Yn aml, mae hyn yn digwydd oherwydd eu bod yn dychmygu'r gwahaniaethu posibl y byddant yn ei wynebu os byddant yn aros yn eu gweithle. Gall hyn arwain at golli arbenigedd a buddsoddiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg ac â pharch ym mhob cam o gyflogaeth gan gynnwys y broses recriwtio.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

 

[1]Defnyddir y term 'traws' fel term ymbarél drwy gydol y ddogfen hon.

Mae’r llinynnau amrywiaeth canlynol wedi’u cyflwyno yn nhrefn yr wyddor ac maent yn cynrychioli’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghyd â’r iaith Gymraeg. Maent yn amlinellu cyfrifoldeb pawb a’r ymddygiad a ddisgwylir o fewn yr Awdurdod i sicrhau agwedd gadarnhaol tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithle:

Ailbennu rhywedd

Ailbennu rhywedd yw'r broses o drosglwyddo o un rhyw i'r llall. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn ffordd o ddisgrifio sut y mae person yn ymwneud â'i ryw.
Gall hunaniaeth o ran rhywedd gyfateb i'r rhyw a bennwyd ar enedigaeth neu gall fod yn wahanol iddo.
Mynegiant rhywedd yw ymddygiad, ystumiau, diddordebau ac ymddangosiad person sy'n gysylltiedig â rhywedd mewn cyd-destun diwylliannol penodol, yn benodol yn ymwneud â chategorïau o fenyweidd-dra neu wrywdod. Mae hyn hefyd yn cynnwys rolau rhywedd.

Bydd gweithwyr trawsryweddol yn cael cefnogaeth drwy:

  • eu hamddiffyn rhag pob math o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth
  • herio stereoteipiau am bobl drawsrywiol
  • cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin ag urddas a pharch
  • parchu ac amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn
  • hyrwyddo perthnasoedd gwaith cadarnhaol a dealltwriaeth yn y gweithle
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle.

Anabledd

Caiff gallu pobl ag anabledd ei gydnabod a’i werthfawrogi ar bob lefel drwy:

  • ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn hytrach na’r hyn na allant ei wneud
  • herio stereoteipiau am bobl ag anableddau
  • deall yr angen i wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle i alluogi unigolion i gyflawni eu potensial gyrfaol llawn
  • herio gwahaniaethu
  • cydnabod nad yw pob anabledd yn weladwy
  • cydnabod y gallai fod angen i unigolion weithio oriau mwy hyblyg oherwydd eu nam penodol.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Caiff y rhiant biolegol ei gefnogi drwy feichiogrwydd a mamolaeth drwy

  • gydnabod yr angen i’r fenyw gynnal cydbwysedd rhwng bywyd yn y gwaith a bywyd gartref
  • cefnogi unigolion a chymryd camau ymarferol i barhau i gyfathrebu yn ystod absenoldeb mamolaeth ac annog defnyddio diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad
  • hwyluso dychwelyd cadarnhaol i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu
  • helpu rhieni biolegol sydd am ddal ati i fwydo ar y fron ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith.

Crefydd a Chred

Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle ar bob lefel beth bynnag fo’u crefydd a’u cred drwy:

  • herio gwahaniaethu yn erbyn grwpiau crefyddol, grwpiau ffydd neu grwpiau diwylliannol eraill
  • cydnabod rhyddid unigolion i gredu neu beidio â chredu
  • cefnogi gweithwyr i gynnal cydbwysedd yn eu bywyd gwaith i alluogi unigolion i gadw at arferion crefyddol neu ddiwylliannol
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle
  • hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol yn y gweithle.

Cyfeiriadedd Rhywiol

Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle ar bob lefel waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol drwy:

  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol
  • cydnabod ei bod yn anodd mesur y lefel o wahaniaethu gan fod yr ofn o brofi gwahaniaethu yn gallu atal pobl rhag ‘dod allan’ neu fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol
  • parchu hawl yr unigolyn i fod yn agored neu fel arall am ei gyfeiriadedd rhywiol ei hun
  • herio stereoteipiau negyddol
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle
  • hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol yn y gweithle.

Hil (yn cynnwys lliw, cenedl, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol)

Caiff amrywiaeth hiliol a diwylliannol ei chefnogi ar bob lefel drwy:

  • herio stereoteipiau hiliol
  • deall, parchu a gweld gwerth mewn cefndiroedd a safbwyntiau hiliol a diwylliannol gwahanol
  • herio gwahaniaethu yn erbyn grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys gweithwyr mudol a chymunedau teithiol
  • cydnabod bod modd profi gwahaniaethu hiliol ar sail lliw, cenedl, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle
  • hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol yn y gweithle.

Oed

Caiff amrywiaeth oed ei hyrwyddo a’i werthfawrogi ar bob lefel drwy:

  • herio stereoteipio ar sail oed
  • cydnabod manteision gweithlu cymysg ei oed
  • herio gwahaniaethu yn erbyn staff iau a hŷn
  • cydnabod bod gan staff iau a hŷn brofiadau ac anghenion datblygu gwahanol
  •  
  • cydnabod y gallai fod angen i staff iau a hŷn weithio oriau mwy hyblyg oherwydd cyfrifoldebau gofal plant a/neu ofalu am henoed.

Priodas a phartneriaeth sifil

Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle beth bynnag fo’u statws priodasol neu’u statws o ran partneriaeth sifil, drwy:

  • i unigolion mewn partneriaethau sifil gael eu trin yr un ffordd â chyplau priod (yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw) ar ystod eang o faterion cyfreithiol
  • parchu ac amddiffyn preifatrwydd unigolion
  • hyrwyddo perthnasoedd gwaith cadarnhaol a dealltwriaeth yn y gweithle
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle.

Rhyw

Caiff menywod a dynion eu trin yn deg a’u gwobrwyo am eu cyfraniadau ar bob lefel drwy:

  • herio stereoteipiau rhyw a phob math o wahaniaethu, rhagfarn ar sail rhyw ac aflonyddu
  • helpu gweithwyr i gynnal cydbwysedd yn eu bywyd yn y gwaith a gartref
  • hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol yn y gweithle
  • cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n cael eu sarhau ac sy’n wynebu trais y tu allan i’r gweithle.

Yr Iaith Gymraeg

Caiff dwyieithrwydd yn y gweithle ei gydnabod a bydd yn cael ei gefnogi ar bob lefel, yn unol â’r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg a’r Strategaeth Sgiliau Iaith, drwy:

  • annog defnyddio dwyieithrwydd a hyrwyddo’i ddefnyddio yn y gweithle
  • cefnogi gweithwyr i allu ymgymryd â’u dyletswyddau yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ôl eu dewis personol nhw lle mae’n bosibl
  • hyrwyddo mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a dealltwriaeth o’r dreftadaeth ddiwylliannol
  • cynyddu hyder a gallu pawb o’r staff mewn sgiliau dwyieithog
  • annog a chefnogi dysgwyr Cymraeg yn y gweithle.

Y Bwrdd Gweithredol/Prif Weithredwr sy’n gyfrifol ac yn atebol yn y pen draw am sicrhau ein bod yn cyflawni’n rhwymedigaethau cyfreithiol a’n rhwymedigaethau polisi mewn perthynas â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Yn arbennig, byddant:

  • yn dangos arweinyddiaeth glir gydag ymrwymiad ac atebolrwydd ar lefel uchel i sefydlu amrywiaeth a chydraddoldeb yn rhan brif ffrwd o’r sefydliad ac o’n gwaith cyflenwi gwasanaethau
  • yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r holl ddeddfwriaeth cyflogaeth a chodau ymarfer cysylltiol
  • yn sicrhau bod ymrwymiadau’r Cyngor i’r Fframwaith Gwella Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cael eu trosi’n gamau penodol yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol yr Awdurdod
  • yn gweithredu ag urddas, yn dangos parch tuag at eraill ac yn datblygu gweithlu sy’n gynhwysol a hyderus, yn rhydd o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • yn gwneud ein Hawdurdod yn lle da i weithio ynddo, sy’n denu, yn datblygu ac yn cadw’r bobl fwyaf talentog o’r amrywiaeth ehangaf o gefndiroedd
  • yn sicrhau bod gan staff y sgiliau a’r arfau y mae eu hangen arnynt i gynnal ein perfformiad drwy ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac ymateb iddynt.

Cyfarwyddwyr

Mae’r Cyfarwyddwyr i gyd yn gyfrifol am:

  • gyd-drefnu dull strategol a chorfforaethol o ymdrin â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • sicrhau bod materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu sefydlu’n rhan brif ffrwd o’r gwaith cynllunio a chyflenwi gwasanaethau y maen nhw’n gyfrifol amdano
  • sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o bob agwedd o gylch cyflogaeth staff
  •  
  • sicrhau bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cyflawni o ran y meysydd gwasanaeth a’r polisïau y maen nhw’n gyfrifol amdanynt. Dylai’r adroddiad asesu effaith gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r polisi ar y fewnrwyd/Rhyngrwyd
  • rhoi Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion yr Awdurdod ar waith o fewn eu Hadrannau unigol; maen nhw hefyd yn atebol am gydymffurfio gweithredol
  • ymgymryd â gweithgareddau datblygu eu hunain a chefnogi’u staff wrth iddyn nhw ymgymryd â gweithgareddau datblygu i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gyflenwi gwasanaethau sy’n hygyrch i bawb o fewn y gymuned amrywiol.

Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio Pholisi) yw’r swyddogion sy’n arwain ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod polisi, strategaeth, canllawiau a chyngor yn cael eu datblygu, am gynorthwyo’r Awdurdod i gydymffurfio ac am hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda’r fframwaith cyfreithiol a pholisi.

Y Penaethiaid Gwasanaeth

Y Penaethiaid Gwasanaeth sy’n gyfrifol am:

  • ddull strategol a chorfforaethol o ymdrin â chydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y maes gwasanaeth y maen nhw’n gyfrifol amdano fel rhan annatod o’r broses cynllunio busnes
  • hyrwyddo, gweithredu a chyfleu’r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y maes gwasanaeth, ac arwain drwy esiampl
  • ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn proffiliau swyddi ac amcanion gwaith
  • sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am recriwtio a dethol, sefydlu, dysgu a datblygu, arfarnu perfformiad, talu, hyrwyddo, camau disgyblu, dethol ar gyfer ymddeol a cholli swyddi, diswyddo, cyfathrebu sefydliadol ac arferion gwaith, yn deall eu rôl a’u cyfrifoldeb o safbwynt hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac osgoi gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau
  • sicrhau bod y trefniadau mewnol angenrheidiol a’r adnoddau yn eu lle i alluogi’r sefydliad i gyflawni’i rwymedigaethau statudol a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Maen nhw’n atebol i’r Cyfarwyddwyr adrannol am berfformiad eu Tîm Rheoli Adrannol o safbwynt cydraddoldeb ac amrywiaeth, drwy’r broses rheoli perfformiad. Bydd y wybodaeth a ddarperir drwy’r broses hon yn darparu tystiolaeth allweddol ar gyfer gwaith monitro perfformiad yr Awdurdod a bydd ei hangen ar gyfer archwiliadau eraill (mewnol neu allanol) ac at ddibenion adrodd i bwyllgorau craffu a’r Bwrdd Gweithredol.

Rheolwyr a goruchwylwyr

Mae pob rheolwr a goruchwyliwr yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw a’u staff yn cyflawni’u holl ddyletswyddau yn unol â’r polisi hwn a pholisïau a chanllawiau cysylltiol drwy:

  • arwain drwy esiampl a gwella’u sgiliau arwain personol yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol i ddatblygu’u sgiliau rheoli
  •  
  • sicrhau bod y polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gyfleu i’r tîm a bod unigolion yn deall eu cyfrifoldebau personol
  •  
  • herio ymddygiad amhriodol yn y gweithle a hyrwyddo perthynas gadarnhaol rhwng gweithwyr a’i gilydd
  • nodi anghenion hyfforddi a datblygu staff mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o’r broses cynllunio datblygiad, Helpu Pobl i Gyflawni.

Pawb o’r Staff

Rydych chi’n gyfrifol yn bersonol am sicrhau eich bod yn cefnogi egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn modd cadarnhaol bob amser, eich bod yn cydweithredu drwy hyrwyddo cysylltiadau da a’ch bod yn herio ymddygiad amhriodol drwy ddilyn y gwerthoedd sydd wedi’u nodi yn y polisi hwn, yn y Cod Ymddygiad i Staff ac mewn polisïau a chanllawiau cysylltiol .Dylai unrhyw anawsterau gael eu codi gyda’r rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Dylech ystyried eich anghenion datblygu chi mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o’r broses cynllunio datblygiad personol law yn llaw â phroses cynllunio datblygiad Helpu Pobl i Gyflawni.

Cynghorwyr

Mae gan Gynghorwyr gyfrifoldeb personol i bawb o’r staff ac aelodau’r cyhoedd i gynnal y gwerthoedd sydd wedi’u nodi yn y polisi hwn, hyrwyddo cysylltiadau da a herio ymddygiad amhriodol lle mae hynny’n briodol .Mae Cynghorwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cefnogi egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn modd cadarnhaol wrth ymgymryd â’u dyletswyddau cyhoeddus, a sicrhau eu bod yn dilyn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiol. Dylai Cynghorwyr ystyried eu hanghenion datblygu eu hunain a byddant yn cael cefnogaeth drwy’r Pwyllgor Safonau a’r Rhaglen Datblygu Cynghorwyr.

Aelodau’r cyhoedd

Gall aelodau’r cyhoedd ddisgwyl cael eu trin ag urddas a pharch yn unol â’r polisi hwn a’r egwyddorion gofalu am gwsmeriaid a amlinellwyd yn Strategaeth Gofalu am Gwsmeriaid yr Awdurdod, y Siarter Gofalu am Gwsmeriaid a’r Cod Ymddygiad i Staff a Chynghorwyr.

Mae cyfrifoldeb ar aelodau’r cyhoedd hefyd i sicrhau bod gweithwyr a Chynghorwyr hwythau yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Partneriaid a chontractwyr

Mae’r Cyngor yn cydweithio ag amryw o bartneriaid a chontractwyr ac felly bydd y ddyletswydd gyhoeddus i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ymestyn iddyn nhw pan fyddant yn cyflenwi gwasanaeth gyda, neu ar ran, y Cyngor. Mae gan bartneriaid a chontractwyr gyfrifoldeb i gynnal y gwerthoedd sy’n cael eu nodi yn y polisi hwn fel rhan o’r contract am wasanaeth.

Os oes gennych bryder ynglŷn â methiannau o ran gweithredu’r polisi hwn, cynghorir chi i siarad â’ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Os yw’ch pryder yn ymwneud â’ch rheolwr llinell, gall cyngor gael ei ddarparu hefyd gan y cynrychiolydd Adnoddau Dynol neu gynrychiolydd Undeb Llafur.

Yn dibynnu ar natur y pryder, os na ellir ei ddatrys yn anffurfiol dylech ei godi drwy ein polisi a’n gweithdrefnau priodol. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at y Polisi a’r Weithdrefn Achwyniadau neu’r Polisi a’r Weithdrefn Urddas yn y Gweithle, fel sy’n briodol.

Gellir trafod pryderon yn ymwneud â bwlio, aflonyddu neu erledigaeth yn gyfrinachol hefyd gyda’r uned iechyd galwedigaethol.

Dylai Cynghorwyr godi unrhyw bryderon gydag Uned y Gwasanaethau Democrataidd yn y lle cyntaf.

Dylai aelodau’r cyhoedd, partneriaid a chontractwyr godi unrhyw bryderon drwy Bolisi Canmol a Chwyno’r Awdurdod.

Fel arfer, ymdrinnir â mân achosion o weithredu’n groes i’r polisi hwn drwy addysg a chwnsela. Byddwn yn ymchwilio i bryderon difrifol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau priodol yr Awdurdod, fel a ganlyn:

Gweithwyr yn Gweithredu’n Groes i’r Polisi:

Caiff hyn ei drin fel mater disgyblu, fel a ddisgrifir yng Ngweithdrefn Disgyblu’r Cyngor.

Aelodau Etholedig yn Gweithredu’n Groes i’r Polisi:

Caiff hyn ei drin fel achos o dorri’r Cod Ymddygiad, a bydd y Pwyllgor Safonau’n delio ag ef.

Defnyddwyr Gwasanaeth ac Aelodau o’r Cyhoedd yn Gweithredu’n Groes i’r Polisi

Mae gan y Cyngor bolisi ‘goddef dim’ o ran trais, ymosodedd, aflonyddu, bwlio neu ddiffyg urddas a pharch tuag at ei staff. Mae ganddo ddyletswydd i sicrhau, cyn belled ag sy’n bosibl yn ymarferol, ei fod yn lleihau’r risg o ymddygiad annerbyniol tuag at ei staff tra byddant yn gweithio.

O dan amgylchiadau lle mae diogelwch a/neu urddas staff yn cael eu cyfaddawdu, mae gan y Cyngor yr hawl i gyfyngu ar fynediad at wasanaethau, neu’i wrthod, fel sy’n briodol.

Contractwyr yn Gweithredu’n Groes i’r Polisi:

Ymdrinnir ag unrhyw achos o weithredu’n groes i’r polisi, gan Gontractwr sy’n cyflenwi gwasanaeth gyda, neu ar ran, y Cyngor, yn unol â thelerau’r Contract hwnnw.