Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Fel cyflogwr rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi rhai dyletswyddau arnom fel cyflogwr. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau ac arferion recriwtio a chyflogaeth. Mae’n rhoi cyfle hefyd inni eu gwella lle bynnag y gallwn.

Rydym yn casglu data am nodweddion gwarchodedig. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb y nodweddion gwarchodedig yw oed, ailbennu rhywedd, rhyw, hil, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred.

Caiff yr holl wybodaeth rydych yn dewis ei darparu ei thrin yn gwbl gyfrinachol a’i thrafod yn unol ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 2018. Caiff data monitro cyfle cyfartal ei gadw ar gronfa ddiogel Adnoddau Dynol trwy gydol eich cyflogaeth gyda’r Cyngor. Ni chaiff unrhyw wybodaeth ei chyhoeddi na’i defnyddio mewn unrhyw ffordd sy’n golygu y gallech gael eich adnabod. Cyfyngir mynediad at y wybodaeth hon i staff sydd ynghlwm wrth brosesu a monitro’r data cydraddoldeb ac amrywiaeth ac fe’i defnyddir at ddibenion ystadegol yn unig. Gallwch dynnu’n ôl eich cydsyniad i gadw data monitro cyfle cyfartal ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru eich data personol a chydraddoldeb ar MyView.

Cynlluniwyd ein polisïau gweithle er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich barnu ar eich galluoedd yn unig ac nid eich oed. Trwy fonitro oed, rydym eisiau asesu pa mor effeithiol yw ein polisïau mewn gwirionedd a’u gwella lle bynnag y gallwn.

Pan gawsoch eich penodi yn eich swydd rhoesoch eich dyddiad geni inni a chafodd ei ychwanegu at ein cronfa ddata.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio fod eich manylion yn gywir? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adran “Manylion Personol”.

 

Rydym yn aml yn defnyddio’r termau ‘Rhyw’ a 'Rhywedd' i olygu’r un peth mewn sgwrs, ond nid ydynt yr un peth. Mae 'Rhyw' yn cyfeirio at y gwahaniaethau anatomegol rhwng dynion a menywod. Mae 'Rhywedd' yn cyfeirio at ymdeimlad personol unigolyn o faint maen nhw’n teimlo yn ddyn neu fenyw.

Crynodiadau o naill ai ddynion neu fenywod mewn rhai swyddi penodol ac effaith ymrwymiadau teuluol yw rhai o’r rhesymau pam mae pobl yn cael profiadau gwahanol o’r gweithle.

Mae monitro hunaniaeth rhywedd ymgeiswyr a’n gweithlu yn gam arwyddocaol ymlaen tuag at gydnabod gweithwyr traws yn y gweithle.

Ni fyddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth ystadegol i sicrhau bod ein polisïau gweithle yn gweithio’n deg ac ni fydd unrhyw unigolyn yn cael eu hadnabod.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adran “Manylion Personol”.

 

Os dewch yn feichiog neu os ydych ar absenoldeb mamolaeth yn ystod eich cyflogaeth gyda ni, bydd rhai hawliau cyflogaeth yn eich diogelu.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Awgrymir felly eich bod yn siarad â’ch rheolwr llinell cyn gynted ag y gallwch gan ei bod yn bwysig y cynhelir asesiad risg gweithle i’ch diogelu chi a’r plentyn yn eich croth neu, os ydych yn rhiant sy’n bwydo o’r fron, pan ddewch yn ôl i’r gwaith. Efallai hefyd yr hoffech gael gwybod mwy am ein Polisïau Gweithio Hyblyg. Mae mwy o wybodaeth ar gael i’w darllen ar ein tudalennau Adnoddau Dynol.

 

 

Y diffiniad o briodas yw uniad rhwng dyn a menyw neu gwpl o’r un rhyw. Gellir rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i berthnasoedd cyplau o’r un rhyw trwy briodas, partneriaeth sifil neu gellir troi partneriaeth sifil yn briodas yn Lloegr a Chymru.

Yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn 2018 mae menywod a dynion yn gallu cael partneriaeth sifil hefyd, yn hytrach nac mai priodas yw’r unig ddewis ar gyfer uniad cyfreithiol gyfrwymol.

Rydym yn casglu data partneriaethau sifil er mwyn monitro effaith ein polisïau recriwtio a chyflogaeth a gwneud gwelliannau parhaus.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol/Manylion Cyfle Cyfartal”.

 Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i wneud newidiadau cadarnhaol. Er mwyn gwneud y newidiadau hyn rydym angen gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau posib a wynebir gan bobl â chyflwr iechyd neu anabledd.

Nid yw llawer o bobl yn ystyried eu bod yn anabl ond efallai eu bod o fewn darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Dywed y Ddeddf Cydraddoldeb fod person yn anabl os oes ganddynt amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor (h.y., mae wedi parhau neu mae disgwyl iddo barhau am 12 mis o leiaf) ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol.

Rydym wedi datblygu canllawiau Addasiadau Rhesymol i’ch cefnogi chi a’ch rheolwr wrth drafod a chytuno addasiadau rhesymol yn y gweithle.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i’r meini prawf Hyderus o ran Anabledd canlynol:

  • Gwneud cynnig o gyfweliad wedi’i warantu i bob ymgeisydd sy’n bodloni’r isafswm meini prawf ar gyfer swydd wag a’u hystyried ar sail eu galluoedd
  • Sicrhau bod cyfle i drafod ar unrhyw adeg ond o leiaf yn flynyddol beth ellir ei wneud i sicrhau y gallwch ddatblygu a defnyddio eich galluoedd
  • Gwneud pob ymdrech os ewch yn anabl i’ch cefnogi a’ch cadw yn gyflogedig
  • Gweithredu i sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu lefel briodol o ymwybyddiaeth anabledd sydd ei hangen i wneud i’r ymrwymiadau weithio

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol/Manylion Cyfle Cyfartal”.

 

 

 

Mae gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru yn cael ei chategoreiddio trwy ofyn cwestiwn penodol ar hunaniaeth genedlaethol. Trwy ateb y cwestiwn hwn, rydych yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru at ddibenion monitro ac ystadegol.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol/Manylion Cyfle Cyfartal”.

 

Mae’r categorïau ethnig yn seiliedig ar Cyfrifiad 2011 ac fe’u rhestrir yn nhrefn yr wyddor. Mae monitro’n gadael inni ddeall gwneuthuriad ethnig ein gweithlu a chymharu hynny gyda’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn gadael inni ddadansoddi ein harferion a gweithdrefnau a deall sut maen nhw’n effeithio ar grwpiau ethnig gwahanol.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol” a “Manylion Cyfle Cyfartal”.

 

Mae monitro cyfeiriadedd rhywiol ymgeiswyr a’n gweithlu yn gam arwyddocaol tuag at gydnabod gweithwyr hoyw, lesbiaidd a deurywiol yn y gweithle. Rydym am fod yn gyflogwr nodedig ac eisiau sicrhau bod ein prosesau ac arferion yn deg.

Ni fyddwn ond yn defnyddio gwybodaeth ystadegol am gyfeiriadedd rhywiol i sicrhau bod ein polisïau gweithle yn gweithio’n deg. Caiff y wybodaeth ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni chaiff unrhyw unigolyn eu hadnabod.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol a rhoi gwybod beth orau sy’n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol” a “Manylion Cyfle Cyfartal”.

Os hoffech gael gwybod mwy am fonitro cyfeiriadedd rhywiol, darllenwch y canllaw ‘What’s it got to do with you?’ a gynhyrchwyd gan Stonewall

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bob gweithiwr waeth beth yw eu ffydd neu gred ac mae casglu’r data hwn yn ein helpu cyflawni’r nod hwnnw.

Gallwch ein helpu trwy gadw eich manylion yn gyfredol. Beth am gymryd eiliad i wirio eich manylion? Gallwch wirio a diweddaru eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ac o unrhyw beiriant trwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyView a mynd i adrannau “Manylion Personol” a “Manylion Cyfle Cyfartal”.

Sylwer fod y rhestr yn cynnwys y crefyddau mwyaf cyffredin ym Mhrydain, ac fe’u rhestrir yn nhrefn yr wyddor. Os nad yw eich crefydd chi’n cael ei henwi, dylech ddefnyddio’r blwch nodiadau i ddisgrifio eich crefydd. Gofynnwn ichi beidio digio oherwydd unrhyw hepgoriad.

Os hoffech gael gwybod mwy am gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Cyngor ewch i’n tudalennau Adnoddau Dynol.

Datblygiadau i’r Dyfodol: Rydym yn edrych ar ffyrdd o ehangu mynediad ac ymgysylltiad y gweithlu mewn materion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Gwnawn hynny er mwyn sicrhau y gall barn ac ymglymiad staff o gefndiroedd ac amgylchiadau gwahanol gyfrannu at ddatblygu camau fydd yn gwella ein gweithlu.

Llwythwch mwy

 

Adnoddau Dynol