We recommend you update your browser to ensure a safe and engaging experience on our website.

Cynllun Pensiwn

A chithau yn weithiwr newydd byddwch yn dod yn aelod awtomatig o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS). P'un a ydych yn amser llawn neu'n rhan-amser, byddwch yn talu canran o'ch gwir dâl pensiynadwy i mewn i'ch pensiwn bob mis. Edrychwch ar y Tabl Bandiau Pensiwn LGPS ar gyfer 2022/23 (.pdf).

Y newyddion da yw y byddwn hefyd yn cyfrannu tuag at eich pensiwn.

Byddwch yn cael gwybod am gyfradd eich cyfraniad yn eich contract cyflogaeth a dylech gysylltu â'r Tîm Cymorth Adnoddau Dynol os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Caiff cyfradd y cyfraniadau eu hadolygu'n rheolaidd a'u newid o bryd i'w gilydd ac o ganlyniad gallai eich band pensiwn gynyddu neu ostwng yn awtomatig. Gall eich band pensiwn hefyd gynyddu o ganlyniad i gynnydd mewn cyflog gan gynnwys unrhyw godiadau cyflog cynyddrannol.  

Dylech fod wedi derbyn canllaw i weithwyr ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn crynhoi buddion y cynllun pensiwn. Manylion pellach ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed.

Mae gwefan genedlaethol newydd ar gyfer aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr wedi cael ei lansio. Mae gan y wefan offer a chyfrifianellau hawdd eu defnyddio, fideos byr defnyddiol a gwell cyfleusterau chwilio a hygyrchedd.

Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno cyfraith a luniwyd er mwyn helpu pobl i gynilo mwy ar gyfer eu hymddeoliad.  Mae'n ofynnol i bob cyflogwr gofrestru ei weithwyr ar gynllun pensiwn yn y gweithle os;

  • Nad ydynt eisoes yn rhan o gynllun tebyg mewn cyflogaeth, h.y. os ydych wedi dewis peidio â bod yn aelod o'n cynlluniau pensiwn;
  • Os ydynt yn ennill mwy nag £10,000 y flwyddyn (neu pro-rata ar gyfer pob cyfnod tâl) yn y swydd honno;
  • Yn 22 oed neu'n hŷn; ac
  • os ydynt yn iau nag oedran derbyn pensiwn y wladwriaeth.

Y cynllun pensiwn y gweithle yr ydym yn ei ddarparu yw'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon (TPS) ac mae'r ddau yn gynlluniau pensiwn cymwys.

Un o'r ffyrdd gorau i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, yw ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon  gan fod ganddynt ystod ardderchog o fanteision.

Ewch i wefan Cronfa Bensiwn Dyfed neu wefan y Pensiwn Athrawon am ragor o wybodaeth.

Ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yw un o'r ffyrdd gorau o gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad gan ei fod yn cynnwys amrywiaeth ardderchog o fuddion gan gynnwys:

  • Incwm wrth indecs sydd wedi'i warantu ac yn daladwy am eich oes arol ynddeol.
  • Aswiriant bywyd ychwanegol o'r diwrnod cyntaf - bydd grant marwolaeth di-dreth cyfwerth â thair gwaith eich cyflog pensiynadwy tybiedig yn daladwy i'ch buddiolwyr enwebedig, os byddwch yn marw a chithau'n aelod gweithredol o'r cynllun. Yn wahanol i fathau eraill o aswiriant bywyd nid oes rhaid cael archwiliad meddygol.
  • Budd-daliadau Goroeswyr sy'n daladwy i'ch priod, eich partner sifil cofrestredig, eich partner cyd-fyw a enwebwyd a/neu unrhyw blant cymwys yn achos eich marwolaeth
  • Dewis trosi Pensiwn yn Arian Parod Di-dreth; am bob £1 o bensiwn y byddwch yn ei ildio, cewch £12 o arian parod di-dreth (yn amodol ar rai terfynau a bennir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi).
  • Gan fod y cyfraniadau'n cael eu didynnu o'ch cyflog gros rydych yn talu llai o dreth, hyd yn oed ar unrhyw gyfraniadau ychwanegol y gallech eu gwneud er mwyn ychwanegu at eich buddion.
  • Mae'r cynllun wedi'i gontractio allan o gynllun ail bensiwn y wladwriaeth ac felly bydd y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwch yn is.
  • Rydych chi'n cyfrannu o ran cyllido eich ymddeoliad a hefyd mae eich Cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylweddol ar eich rhan a byddai'n annhebygol o wneud hynny â chynllun pensiwn personol.
  • Ni fydd unrhyw ffioedd neu gostau gweinyddol yn daladwy fel gall ddigwydd â phensiwn personol. Yn syml, byddwch yn talu canran o'ch cyflog.
  • Dim Risg Buddsoddi gan fod y CPLlL yn gynllun budd-dal diffiniedig a reoleiddir drwy statud, felly byddwch yn derbyn lefel warantedig o bensiwn sy'n gysylltiedig â'ch cyflog terfynol wrth i chi ymddeol.
  • Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch os byddwch yn dioddef salwch ac yn gorfod rhoi'r gorau'n barhaol i'ch gwaith (yn amodol ar archwiliad meddygol).
  • Y galli i ymddeol o 55 oed i 75 oed.
  • Dewis i gynyddu eich budd-daliadau trwy brynu pensiwn ychwanegol neu fuddsoddi mewn Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY).

Os ydych yn athro byddwch yn dod yn aelod o'r cynllun pensiwn athrawon yn awtomatig. Byddwch yn cael gwybod beth yw eich cyfradd gyfrannu yn eich contract cyflogaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau dylech gysylltu â'r Tîm Cymorth Adnoddau Dynol.

Y newyddion da yw y byddwn hefyd yn cyfrannu tuag at eich pensiwn.

P'un ai ydych yn athro amser llawn neu'n athro rhan-amser, byddwch yn talu canran o'ch cyflog crynswth i mewn i'ch pensiwn bob mis.

Gallwch weld cyfraddau cyfraniadau presennol y Cynllun Pensiwn Athrawon ar gyfer 2022/23 ar wefan y Cynllun Pensiwn Athrawon.

Caiff cyfradd y cyfraniadau eu hadolygu'n rheolaidd a'u newid o bryd i'w gilydd ac o ganlyniad gallai eich band pensiwn gynyddu neu ostwng yn awtomatig. Gall eich band pensiwn hefyd gynyddu o ganlyniad i gynnydd mewn cyflog gan gynnwys unrhyw godiadau cyflog cynyddrannol.  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y manteision o ymuno â'r Cynllun Pensiwn Athrawon hefyd ar wefan.

Darllenwch ein Polisi Dewisol mewn perthynas â’n Disgresiynau Cyflogwr o dan y cynllun pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS).  Gallai'r darpariaethau dewisol hyn gael eu hadolygu, o ganlyniad i'r newidiadau i Reoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gennym ni ac nid ydynt yn rhoi unrhyw hawliau cytundebol.

Gallwch hefyd weld darpariaethau dewisol Awdurdod Gweinyddu Cronfa Bensiwn Dyfed ar y wefan

Os dymunwch ddewis peidio â bod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae Ffurflen Dewis Peidio â Bod yn Aelod ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed. Fel arall, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP.

Os dymunwch ddewis peidio â bod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Athrawon, mae Ffurflen Dewis Peidio â Bod yn Aelod ar gael ar wefan y Cynllun Pensiwn Athrawon.

Er mwyn prynu yn ôl pensiwn a gollwyd ar gyfer cyfnod o absenoldeb di-dâl ( oriau neu ddiwrnodau di-dâl) bydd angen cwblhau ffurflen ar-lein drwy wefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  

Cyn cyrchu'r wefan bydd arnoch angen manylion y cyflog pensiynadwy a gollwyd am yr absenoldeb awdurdodedig heb dâl. Byddwch yn gallu gweld hyn ar eich slip cyflog pan gymerir y didyniad.  

Sylwch y bydd angen ichi gwblhau'r manylion canlynol i gyd ar y gyfrifiannell ar-lein:

  • Rhyw – mae'n bwysig cwblhau hwn yn gywir oherwydd mae'r ffactorau cost yn benodol i ryw
  • Dyddiad geni – Mae'n rhaid i chi fod rhwng 16 a 74 oed er mwyn bod yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nodwch y dyddiad yn y fformat dd/mm/bb
  • Colli cyflog pensiynadwy– Nodwch gyfanswm y tâl pensiynadwy a 'gollwyd' yn ystod eich absenoldeb. Bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich slip cyflog a chadwch gopi fel cadarnhad.
  • Y rheswm dros absenoldeb – Dewiswch reswm am yr absenoldeb o blith y rhestr a ddangosir. Rhaid cadarnhau'r rheswm. Ar gyfer gweithredu diwydiannol, cliciwch ar "trade dispute" (anghydfod diwydiannol) o'r gwymplen neu ar gyfer absenoldeb awdurdodedig heb dâl, cliciwch ar 'authorised unpaid leave’ (absenoldeb awdurdodedig heb dâl). Os nad yw eich rheswm dros absenoldeb yn ymddangos ni allwch ddefnyddio'r opsiwn hwn ond dylech ddefnyddio'r opsiwn pensiwn ychwanegol yn lle hynny.
  • Adran yn ystod absenoldeb – Cliciwch ar y 'Brif Adran' o'r gwymplen (oni bai eich bod wedi dewis cyfrannu o dan Adran 50/50 o'r Cynllun)
  • Diwrnod olaf o absenoldeb– Nodwch ddyddiad diwrnod olaf y cyfnod o absenoldeb. Rhaid i hyn fod ar ôl 31Mawrth 2014.
  • 30 diwrnod amherthnasol – Ticiwch y blwch hwn os ydych yn dewis prynu pensiwn a gollwyd ar gyfer absenoldeb heb dâl neu absenoldeb ychwanegol heb dâl sy'n gysylltiedig â phlentyn mwy na 30 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith a bod eich cyflogwr wedi cytuno'n ysgrifenedig i ymestyn y cyfnod y mae'n barod i gyfrannu tuag at y gost (ar gyfer dewisiadau a wneir o fewn 30 diwrnod o ddychwelyd i'r gwaith, rhaid i'r cyflogwr gyfrannu dwy ran o dair y gost o brynu yn ôl y pensiwn a gollwyd yn ôl am gyfnod o absenoldeb hyd at 36 mis.
  • Dull talu- Dewiswch y dull o dalu yr ydych am ei ddefnyddio naill ai didyniad rheolaidd neu gyfandaliad o'r gyflogres neu drwy gyfandaliad yn uniongyrchol i'ch darparwr pensiwn ar ôl derbyn anfoneb. Gwiriwch gyda Chronfa Bensiwn Dyfed am yr isafswm sy'n ofynnol ar gyfer didyniadau rheolaidd er mwyn osgoi bod eich cais yn cael ei wrthod. Os byddwch yn dewis cyfandaliad ac nad oes modd ei ddidynnu'n rhesymol yn ystod eich cyfnod talu nesaf, mae'n bosibl y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
  • Blynyddoedd - Os ydych chi wedi dewis didyniadau rheolaidd fel dull talu nodwch nifer y blynyddoedd yr ydych yn dymuno gwneud y taliadau.
  • Amlder taliadau -Os ydych chi wedi dewis didyniadau rheolaidd fel dull talu nodwch amlder eich cyflog a fydd yr un fath ag amlder eich taliadau. Os ydych yn dymuno ail-gyfrifo gan ddefnyddio didyniad y cyfandaliad, nodwch y maes hwn yn wag drwy ddewis:
  • Enw llawn-Rhowch eich enw llawn
  • Rhif Yswiriant Gwladol-Rhowch rif Yswiriant Gwladol dilys yn y fformat aa123456aa
  • Cyflogwr-Rhowch enw eich cyflogwr (naill ai Cyngor Sir Caerfyrddin neu os ydych yn cael eich cyflogi'n lleol nodwch enw'r ysgol)
  • Rhif Cyflogres– Defnyddiwch hwn a theitl eich swydd er mwyn nodi'r swydd hon ar wahân i unrhyw swyddi eraill sydd gennych. 
  • Teitl y swydd– Os ydych yn dymuno prynu pensiwn a gollwyd yn erbyn sawl swydd bydd angen i chi lenwi cais ar gyfer bob swydd
  • E-bost-Rhowch eich cyfeiriad e-bost mewn fformat dilys (dewisol).

Yn olaf, cliciwch ar 'Canlyniadau' er mwyn cyfrifo'r gost o brynu pensiwn a gollwyd. Ar ôl i chi gwblhau'r uchod ar y ffurflen ar-lein, ac os byddwch yn dymuno mynd ati i brynu'r pensiwn a gollwyd. Bydd angen ichi lawrlwytho'r ffurflen hon drwy nodi tic yn y blwch ‘Cais’ ("Application") sy'n cadarnhau bod y wybodaeth a nodwyd yn gywir a'ch bod wedi darllen a deall y telerau ac amodau’  mewn perthynas â'ch ceisiadau am bensiwn ychwanegol.

Cliciwch ar y botwm ‘Argraffu Cais’ (Print application) ar waelod cornel dde'r dudalen.  Bydd hyn yn trosglwyddo'r manylion rydych wedi'u nodi i ddogfen pdf. Llofnodwch y datganiad ar y ffurflen hon a'i hanfon drwy e-bost neu drwy'r post yn syth i:

E-bost: crpayroll@sirgar.gov.uk
Adain y Gyflogres, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Adeilad 14, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cap ar y swm o arian y gall cyflogwr yn y sector cyhoeddus ei dalu pan fydd gweithiwr yn gadael ei gyflogaeth. Enw hyn yw cap taliad ymadael y sector cyhoeddus, neu’r cap £95k. Mae'n berthnasol i weithwyr sy'n gadael cyflogaeth yn y sector cyhoeddus o 4 Tachwedd 2020.

Yn ogystal, mae'r Llywodraeth wedi ymgynghori'n ddiweddar ar nifer o newidiadau gan gynnwys:

  • cyfyngu ar swm y Digolledu Dewisol, neu daliad diswyddo, y gall eich cyflogwr ei dalu i chi, a
  • didynnu unrhyw dâl dileu swydd statudol o'r swm y gall eich cyflogwr ei dalu i'r gronfa bensiwn ar eich rhan. Os ydych yn 55 oed neu'n hŷn a'ch bod yn cael eich diswyddo, neu'n gadael oherwydd effeithlonrwydd busnes, mae eich cyflogwr fel arfer yn talu tuag at y costau er mwyn i chi gael eich pensiwn yn gynnar.

Nid ydym yn gwybod a fydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â'r newidiadau hyn a phryd - rheiny yw'r unig gynigion ar hyn o bryd.

Os ydych yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac eisiau rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin i aelodau yma.

 

 

Diweddarwyd y dudalen: 08/08/2022 10:22:18