Cam 1 - Man Cychwyn

Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024

Cam 1 – Beth yw eich man cychwyn?

Elfen gyntaf eich cynllun gweithlu yw cadarnhau eich man cychwyn. Mae'r cam hwn yn ymwneud â chydnabod y pwysau allanol ar y farchnad lafur, dyfodol y gwaith, eich blaenoriaethau presennol a dadansoddiad o dalent fewnol eich is-adran neu'ch adran.

Pam y mae hyn yn bwysig?

Mae deall eich man cychwyn yn bwysig gan fod hynny'n eich helpu i bwyso a mesur ffactorau allanol a mewnol sy'n effeithio ar eich is-adran a'ch adran.

Beth allwch chi ei wneud?

Dyma rai offer a awgrymir a all eich helpu i ddeall eich man cychwyn.

Dadansoddiad PESTLE

Gall dadansoddiad PESTLE eich helpu i nodi eich pwysau allanol. Dyma un o'r fframweithiau mwyaf effeithiol ar gyfer adnabod cyd-destun y 'darlun mawr' y mae eich is-adran a'ch adran yn gweithredu ynddo. Dylai edrych tua'r dyfodol fod yn flaenoriaeth i ddeall y sbardunau a allai ddylanwadu ar gyfeiriad eich is-adran a'ch adran.

Mae'n ystyried chwe ffactor allweddol - ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasegol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol. Mae monitro ac asesu pob un o'r ffactorau allanol hyn a'r effaith y gallant ei chael yn eich galluogi i lunio dull o feddwl a chynllunio busnes. Gweler taflen ffeithiau'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ar sut i gynnal dadansoddiad PESTLE

Dadansoddiad SWOT

Bydd cynnal dadansoddiad SWOT syml, ochr yn ochr â dadansoddiad PESTLE, yn eich helpu i nodi elfennau mewnol ar gyfer y cam hwn – meysydd cryfderau a lle gall fod cyfleoedd neu fygythiadau i'ch is-adran a'ch adran.

Bydd ffactorau allanol, fel y rhai a ystyrir mewn dadansoddiad PESTLE, yn rhyngweithio â ffactorau mewnol a all effeithio ar strategaethau adrannol a chorfforaethol. Bydd cynnal y dadansoddiadau hyn yn eich cynorthwyo i nodi rolau critigol, ymhlith eraill, yn eich is-adran a'ch adran. Bydd gwybod am rolau critigol yn eich helpu i flaenoriaethu eich camau gweithredu pellach. Cewch fwy o wybodaeth am rolau critigol ar y dudalen hon.

Dylech gynnwys eich timau yn yr ymarferion hyn, gan fod hynny'n rhoi mewnwelediad defnyddiol i'r heriau ac, yn bwysicach, atebion posibl.

Casglu Data a Gwybodaeth

  • Ble mae’r data?
  • Beth yw ei ansawdd/pa mor ddibynadwy ydyw?
  • Pa mor aml y mae’n newid?
  • Beth yw’r bylchau?

Ble mae eich ffynonellau data?

Mae'r wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddeall eich llinell sylfaen yn cynnwys y canlynol:

  • Proffil gweithlu/data risg – mae'r ffynonellau data canlynol ar gael i Benaethiaid Gwasanaeth, Rheolwyr Pobl a thimau Uned Cymorth Busnes (fel y bo'n briodol, yn amodol ar ganiatâd mynediad):

 

Unwaith y byddwch yn deall eich is-adran a'ch gweithlu yn well, gallwch ddadansoddi eich data ar y gweithlu fel y gallwch ganolbwyntio ar y rolau sydd bwysicaf ac a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eich perfformiad is-adrannol ac adrannol.

Dadansoddi eich data

Gallwch ddadansoddi eich data ar y gweithlu fel a ganlyn:

  • Demograffeg, e.e. oedran, rhyw, ac ati.
  • Strwythurau, lefelau hierarchaeth, swyddi, cymwyseddau, mathau o gontractau, ac ati.

Bydd hyn yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'ch gweithlu presennol fel y gallwch nodi unrhyw fylchau neu broblemau.

Mae cyngor, arweiniad a chymorth ynghylch maint a dyfnder eich dadansoddiad data ar gael gan eich Tîm Cymorth Busnes adrannol a'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol.

Datblygwyd y daenlen dadansoddi rolau critigol ar gyfer cynllunio'r gweithlu gan ddefnyddio oedran a rhyw yn elfennau demograffig allweddol. Gallwch ddewis ychwanegu setiau data eraill ynghylch y gweithlu fel y bo'n briodol i lefel a maint y dadansoddiad yr hoffech ei wneud.

Cymerwch bob cam ar y tro gan ddilyn y canllawiau.

 

cym-Critical Role Analysis Template.xlsx

Adnoddau Dynol