Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026

2. Nodau'r Polisi

Rydym wedi llunio'r polisi hwn fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a llesiant ein gweithwyr yn y gwaith ac i hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel lle mae gweithwyr yn teimlo y gallant siarad am y materion hyn. Mae’n rhoi sylw i'r cymorth mewnol ac allanol sydd ar gael i weithwyr sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, neu drais ar sail rhywedd gan gynnwys penodi aelod o staff fel pwynt cyswllt enwebedig, darpariaethau absenoldeb arbennig a chyfeirio at ffynonellau cyngor a chymorth allanol.

Bydd y polisi yn:

  • Amlinellu rôl Cyngor Sir Caerfyrddin o ran cefnogi gweithwyr sydd wedi dioddef cam-drin domestig a/neu drais rhywiol neu drais ar sail rhywedd neu sy’n ei ddioddef;

  • Hwyluso’r Cyngor i roi gweithdrefnau priodol ar waith pan fo pryderon y gallai gweithiwr fod yn cyflawni cam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol; os yw eu hymddygiad yn peryglu gweithwyr eraill y Cyngor; neu'n destun ymchwiliad fel trosedd; neu fod eu gweithgareddau y tu allan i'r gwaith yn effeithio ar eu gallu i gyflawni eu rôl; neu'n debygol o ddwyn anfri ar y Cyngor. Lle bo modd, bydd cyflawnwr sy'n weithiwr yn cael eu cefnogi i geisio cymorth i newid eu hymddygiad;

  • Galluogi gweithwyr sy’n dioddef cam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol i aros yn ddiogel a chynhyrchiol tra byddant yn y gwaith;

  • Cynorthwyo rheolwyr i adnabod arwyddion cam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol; ymateb yn sensitif wrth ymdrin â datgeliadau; ac wrth geisio helpu aelodau tîm sy'n dioddef cam-drin domestig/trais rhywiol;

  • Cynorthwyo’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol i nodi opsiynau sy’n darparu cymorth ymarferol wedi’i deilwra, heb ragfarnu neu wneud rhagdybiaethau;

  • Dangos ymrwymiad y Cyngor i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a chyrff eraill yn y sector statudol neu wirfoddol i fynd i’r afael â cham-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol;

  • Atgyfnerthu ein hamcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy ddangos ein bod yn gwerthfawrogi, ac yn barod i gefnogi, staff yn ystod cyfnodau anodd; a

  • Chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith ddinistriol cam-drin domestig/trais rhywiol ar ddioddefwyr a'u teuluoedd;

  • Dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithwyr i wneud newidiadau cadarnhaol ac i ddarparu amgylchedd gwaith diogel a chadarnhaol.