Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
7. Diffiniadau
Er hwylustod darllen y polisi hwn, cyfeirir at gam-drin domestig, neu drais domestig, trais ar sail rhywedd neu drais rhywiol i gwmpasu’r diffiniadau a roddir yn fanylach isod. Mae'r polisi yr un mor berthnasol i gam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob perthynas heb ystyried rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn berthnasol pan fo cam-drin yn digwydd rhwng cenedlaethau mewn teulu.
Mae’r Llywodraeth yn diffinio Cam-drin domestig fel unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy'n arddangos ymddygiad sy'n rheoli, yn gorfodi neu'n bygwth, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy'n 16 oed neu'n hŷn sydd yn bartneriaid agos neu a fu felly, yn aelodau o’r teulu neu’n gysylltiedig yn bersonol, beth bynnag yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. (Diffinnir aelodau o’r teulu fel mam, tad, mab, merch, brawd, chwaer a mam-gu a thad-cu, boed yn perthyn yn uniongyrchol, perthnasau-yng-nghyfraith neu’n llysdeulu. Fodd bynnag, nid yw hon yn rhestr gyflawn a gellir ei hymestyn hefyd i gynnwys ewythrod, modrybedd a chefndryd a chyfnitherod ac ati.) Mae canllawiau Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn rhoi diffiniad manylach Cam-drin domestig: fframwaith canllawiau statudol drafft (fersiwn hygyrch) - GOV.UK
Gall y diffiniad gwmpasu'r mathau canlynol o gam-drin ond nid yw'n gyfyngedig iddynt:
Corfforol
Emosiynol
Seicolegol
Rhywiol
Ariannol
Trais ar sail anrhydedd
Anffurfio organau cenhedlu benywod, a
Priodas dan orfod
Nid yw dioddefwyr cam-drin wedi’u cyfyngu i un rhyw, crefydd neu grŵp ethnig ac mae’r hyn sy’n gyfystyr â cham-drin domestig yn cael ei gamddeall yn gyffredin Mae'n bwysig cofio nad oes un weithred unigol yn ei diffinio; mae ystod eang o weithgareddau ac ymddygiadau sy’n gyfystyr â cham-drin domestig sy’n aml yn beryglus ac yn gallu bygwth bywyd.
Mae’r paragraffau a ganlyn yn rhoi eglurhad ynghylch y mathau o gam-drin a ddefnyddir gan y rhai sy’n cyflawni cam-drin domestig i gamfanteisio ar eu dioddefwyr.
Dim ond un agwedd ar gam-drin domestig yw trais corfforol a gall ymddygiad camdriniwr amrywio, o fod yn greulon iawn ac yn ddiraddiol i weithredoedd bach sy’n gwneud i’r dioddefwr deimlo’n gywilyddus. Mae cam-drin domestig yn anghyfreithlon a gall gynnwys amrywiaeth eang o ymddygiadau camdriniol a rheoli, gan gynnwys bygythiadau; codi ofn ar rywun; aflonyddu gan gynnwys stelcian; rheolaeth ariannol; manteisio ar adnoddau a galluoedd rhywun arall er eu budd personol eu hunain; cam-drin emosiynol; beirniadaeth ddinistriol; diffyg parch; tactegau pwysau; ynysu oddi wrth ffrindiau, teulu neu gefnogaeth; amddifadu rhywun o'r gallu sydd ei angen i gael annibyniaeth, i ymwrthod ac i ddianc; olrhain symudiadau drwy eu ffôn symudol neu drwy ddulliau electronig eraill; a rheoli eu hymddygiad bob dydd – beth maent yn ei wisgo, pwy maent yn ei weld. Mae'r rheolaeth orfodol hon a ddefnyddir gan y cyflawnwr gyda'r bwriad o niweidio, cosbi neu ddychryn, hefyd yn anghyfreithlon.
Trais rhywiol yw unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso. Gall gynnwys treisio, cam-drin plant yn rhywiol, ymosodiad rhywiol, puteindra, anffurfio organau cenhedlu benywod, bwlio rhywiol, bygwth trais rhywiol, cam-drin rhywiol o fewn partneriaethau, ac aflonyddu rhywiol, (cyswllt digroeso ar sail eich rhyw neu ymddygiad corfforol, llafar neu ddi-eiriau digroeso o natur rywiol)
Gall dioddefwyr a chyflawnwyr fod o unrhyw ryw. Dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o drais rhywiol yn cael ei gyflawni gan ddynion yn erbyn menywod, ond cydnabyddir bod trais rhywiol hefyd yn digwydd gan fenywod yn erbyn dynion ac mewn perthnasoedd o'r un rhyw ac anneuaidd. Gall effeithio ar unrhyw un waeth beth fo'u hoedran, eu dosbarth, eu hethnigrwydd, eu gallu neu eu rhywioldeb.
Yn ogystal â cham-drin domestig a thrais rhywiol, gellir dioddef trais ar sail rhywedd mewn gweithredoedd diwylliannol neu ar sail anrhydedd, megis anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Gall stelcian, masnachu pobl a mathau tebyg eraill o gamfanteisio hefyd gael eu hystyried yn drais ar sail rhywedd pan fo’r trais neu’r bygythiadau o drais/aflonyddu yn codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae trais ar sail anrhydedd yn drosedd neu’n ddigwyddiad a gyflawnir i ddiogelu neu amddiffyn anrhydedd honedig teulu, cymuned neu grŵp cymdeithasol i ddiogelu credoau neu anrhydedd diwylliannol neu grefyddol. Er eu bod wedi'u diffinio fel cam-drin domestig, gall y gweithredoedd hyn gael eu cyflawni gan bobl nad ydynt yn bartneriaid nac yn aelodau o'r teulu.
