Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
- 1. Datganiad Polisi
- 2. Nodau'r Polisi
- 3. Cwmpas
- 4. Triniaeth Gyfartal
- 5. Cyfrinachedd
- 6. Diogelu a Diogelwch
1. Datganiad Polisi
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ynghyd â Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod menywod a merched yn profi’n anghymesur achosion mynych o gam--drin domestig, pob math o drais rhywiol, aflonyddu a mathau eraill o gam--drin megis priodasau dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod. Mae’n bwysig cydnabod y gwahaniaeth rhwng y rhywiau i fynd i’r afael â’r materion hyn yn llawn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod dynion a bechgyn yn profi cam-drin domestig a thrais rhywiol a’u bod yn effeithiol arnynt, a rhaid inni ddarparu ymateb effeithiol i unrhyw un sy’n profi hynny.
Fel un o gyflogwyr mwyaf Gorllewin Cymru mae ein gwerthoedd craidd yn ategu ac yn arwain y ffordd rydym yn gweithio. Mae ein hymrwymiad yn rhoi ffocws inni sicrhau bod y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'n gweithwyr yn ffynnu, yn ddiogel, ac yn teimlo eu bod yn cael eu diogelu.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o drais a cham-drin, gan gynnwys Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol. Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall camdrin domestig hefyd amlygu ei hun mewn ffyrdd penodol mewn gwahanol gymunedau.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau neu gyrff eraill yn y sector statudol neu wirfoddol i fynd i’r afael â cham-drin domestig, trais rhywiol a phob math arall o drais ar sail rhywedd sy’n effeithio nid yn unig ar blant a theuluoedd ond ar y gymuned gyfan.
Mae’r Cyngor yn cydnabod, yn parchu ac yn cefnogi dewisiadau bywyd ei weithwyr mewn ffordd anfeirniadol a chynhwysol. I atgyfnerthu'r ymrwymiad hwn, mae’r polisi hwn wedi’i ysgrifennu mewn iaith niwtral o ran y rhywedd sy'n berthnasol i bawb.
Rydym yn cydnabod y bydd ein gweithwyr ymhlith y rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, naill ai fel dioddefwyr/goroeswyr, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i ddioddefwyr/goroeswyr; neu bobl sy'n cyflawni cam-drin domestig, trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant yn y gweithle lle nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at drais a cham-drin, ac sy'n cydnabod mai'r cyflawnwr sy'n gyfrifol am gam-drin domestig, trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd.
Mae'r math hwn o gam-drin yn aml yn cael ei guddio ac yn anodd ei adnabod ond yn aml mae'n cael effaith yn y gwaith. Tra byddant yn y gwaith gall partneriaid camdriniol aflonyddu ar ddioddefwyr cyflogedig. Gall cam-drin economaidd ddifetha rhagolygon cyflogaeth a gyrfa’r dioddefwr a gall gynnwys cuddio arian/cardiau sydd eu hangen ar gyfer teithio, difetha dillad gwaith, sicrhau bod person yn hwyr ar bwrpas, achosi anaf neu niwed sy’n arwain at absenoldeb salwch, neu gael effaith ar y modd y mae’r dioddefwr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith megis diwrnodau cwrdd i ffwrdd, hyfforddiant neu ddigwyddiadau cymdeithasol.
