Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
8. Cyfrifoldebau
Gweithwyr – Os ydych yn dymuno gwneud datgeliad, fel dioddefwr neu gyflawnwr, dylech siarad â’ch rheolwr llinell neu Bartner Busnes Adnoddau Dynol. Gweler Nodyn Cyfarwyddyd 1 a Nodyn Cyfarwyddyd 2 yn y drefn honno.
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gadw at egwyddorion y polisi hwn a gofyn am gymorth neu eglurhad gan eu rheolwr llinell, pan fo angen. Os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â chydweithiwr, naill ai fel dioddefwr, goroeswr neu gyflawnwr, gweler Nodyn Cyfarwyddyd 4. Mae croeso i bob aelod o staff gyflwyno adborth ar y modd y gweithredir y polisi hwn ac i dynnu sylw at unrhyw agweddau sydd angen eu hadolygu neu eu diwygio. Cysylltwch â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol.
Rheolwyr - Dylai rheolwyr ymdrechu i gefnogi'r rhai sy'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn modd empathetig, anfeirniadol a chyfrinachol a sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei roi ar waith yn gyson yn eu maes gwasanaeth eu hunain. Gweler Nodyn Cyfarwyddyd 3.
Adnoddau Dynol – Mae Adnoddau Dynol, gyda chymorth Timau Diogelwch Cymunedol a Diogelu, yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu’r polisi hwn yn unol â deddfwriaeth ac arfer gorau. Bydd y Tîm Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch rhoi’r polisi hwn ar waith ac unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
Timau Gwaith Cymdeithasol, Diogelu a Diogelwch Cymunedol – Os bydd gweithiwr yn cael eu cyfeirio at un o’r timau hyn naill ai fel dioddefwr neu gyflawnwr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol, dylai’r gweithiwr proffesiynol perthnasol ddwyn y polisi hwn i’w sylw.
Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth - Pob Cyfarwyddwr Gwasanaeth a Phennaeth Gwasanaeth sy’n gyfrifol am weithredu gofynion y polisi hwn ac am baratoi strategaeth weithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a'r Fframweithiau Hyfforddiant Cenedlaethol sy'n berthnasol i'w meysydd gwasanaeth.
