Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026

10. Sut Effaith y mae Cam-drin Domestig a Thrais Thywiol yn ei Chael ar Waith

Gall pobl sy’n dioddef cam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol deimlo’n ofnus, wedi’u stigmateiddio, yn ddig, yn ddagreuol, yn hunanladdol, neu wedi’u dadrymuso. Yn aml nid ydynt am gyfaddef na rhannu eu profiad oherwydd eu bod yn teimlo rhywfaint o gyfrifoldeb am y sefyllfa, neu efallai y byddant yn teimlo cywilydd, neu y dylent allu delio â'r sefyllfa ar eu pen eu hunain. Hefyd efallai y byddant yn ofni na fydd neb yn eu credu, y bydd eu profiadau’n cael eu bychanu, y byddant yn achosi trafferth i’r cyflawnwr, neu y gallai gael effaith negyddol ar eu plant.

Gall sylweddoli bod gweithiwr yn cael anawsterau yn gynnar helpu i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu a helpu’r gweithiwr i ymdrin â’i sefyllfa’n fwy effeithiol. Gall hyn leihau absenoldebau gwaith mynych ac yn y pen draw gall leihau faint o gam-drin domestig sy’n digwydd.

Gall rhai teimladau godi fisoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach neu gall rhywbeth ddigwydd sy'n 'sbarduno' neu'n atgoffa'r unigolyn o'r gamdriniaeth. Mae'r Cyngor yn annog staff i gael cymorth trwy asiantaethau allanol neu wasanaethau mewnol sut bynnag y maent yn teimlo. Rydym yn disgwyl i reolwyr, Adnoddau Dynol, a Gwasanaethau Iechyd a Llesiant Galwedigaethol drin staff ag urddas ac yn gwbl gyfrinachol pan fo angen cyngor neu gymorth a phan roddir gwybod am ddigwyddiad.

Nid yw pob camdriniaeth yn digwydd gartref a gall unigolion gael eu targedu yn y gwaith trwy alwadau ffôn a negeseuon e-bost bygythiol, ymosodiadau corfforol ac ymweliadau dirybudd.

Mae'r gwaith hefyd yn fan lle gall goroeswyr greu pellter corfforol oddi wrth eu cyflawnwr a cheisio cymorth.

Dylai rheolwyr roi sylw penodol i'r gweithwyr hynny sy'n gweithio o bell neu o gartref. Dylai rheolwyr gadw mewn cysylltiad rheolaidd a dod o hyd i ffordd o gyfathrebu'n ddiogel, cytuno ar air cod neu arwydd llaw fel rhybudd i rywun ei ddefnyddio os ydynt yn dioddef camdriniaeth, neu drefnu man arall lle gallant weithio.

Nid gweithred sy'n digwydd unwaith yw cam-drin domestig, trais domestig neu rywiol, ond patrwm ymddygiad parhaus mewn perthynas. Pan fydd yr ymddygiad hwn wedi dechrau, mae'n digwydd dro ar ôl tro ac yn aml yn gwaethygu gydag amser ac yn cael effaith niweidiol iawn ar y goroeswr a'u plant.

Os oes angen copi o'r polisi hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â’r Gwasanaethau Pobl drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk