Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
- 1. Datganiad Polisi
- 2. Nodau'r Polisi
- 3. Cwmpas
- 4. Triniaeth Gyfartal
- 5. Cyfrinachedd
- 6. Diogelu a Diogelwch
6. Diogelu a Diogelwch
O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu iechyd a diogelwch ei weithwyr. Pan fo’r cyflawnwr a'r dioddefwr ill dau yn gweithio i'r Cyngor, bydd y Cyngor yn cymryd pob cam rhesymol i atal unrhyw gamdriniaeth, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r gweithle.
Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd y cyflawnwr yn cael eu cyflogi gan y Cyngor, ond bydd camau'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw'r dioddefwr a'u cydweithwyr mewn perygl o'r cyflawnwr yn dod i mewn i'r gweithle. Dylai mesurau o'r fath gynnwys atgyfnerthu mesurau diogelwch i sicrhau na all y cyhoedd gael mynediad i ardaloedd staff heb ganiatâd.
Mae'n rhaid hefyd atgoffa pob gweithiwr yn rheolaidd na ddylent ateb ymholiadau gan aelodau'r cyhoedd am oriau gwaith, gwyliau neu drefniadau eraill cydweithwyr.
