Polisi Adleoli Staff - Medi 2026

5. Y Weithdrefn Adleoli

Cyfrifoldebau

Mae'r Rheolwr Llinell yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â'r weithdrefn, y cedwir cofnodion ysgrifenedig ac y rhoddir gwybodaeth i weithwyr gan eu cefnogi drwy gydol y broses. Gellir gofyn i'r Partner Busnes Adnoddau Dynol am gyngor.

Mae'r gweithiwr yr un mor gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â'r rheolwr llinell a'r Partner Busnes Adnoddau Dynol priodol ac am fod yn flaenweithgar o ran dod o hyd i Gyflogaeth Arall Addas a chyflwyno cais.

Mae'r Tîm Gwasanaethau Pobl l yn gyfrifol am fonitro'r weithdrefn a'r polisi.

Camau'r Weithdrefn

Dylid dilyn y broses hon ym mhob achos lle nad oes modd i weithiwr barhau yn ei swydd bresennol oherwydd un o'r rhesymau a amlinellir ym “1. Cyflwyniad” a lle nad yw wedi dewis, yn wirfoddol, i adael y Cyngor.

Bydd manylion gweithwyr yn cael eu rhoi ar y gofrestr adleoli am o leiaf isafswm cyfnod eu rhybudd contractiol. Er hynny, os nodir bod gweithiwr neu grŵp gweithwyr 'mewn perygl' yn gynharach yn y broses ymgynghori ffurfiol, gall y rheolwr llinell, gyda chyngor Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig, gynnig i weithwyr 'mewn perygl' fynediad i'r gofrestr adleoli am hyd at 4 wythnos cyn i gyfnod y rhybudd contractiol ddechrau.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) ddisgresiwn i helaethu'r cyfnod y'u rhoddir ar y Gofrestr Adleoli.

Bydd manylion yr holl weithwyr ar y Gofrestr Adleoli yn cynnwys enw'r gweithiwr, y radd bresennol, y lleoliad gwaith a ffefrir, manylion y swydd bresennol, enw eu rheolwr llinell, ac ati. Bydd y rhestr hon yn cael ei chyrchu gan y Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol a hynny er mwyn sicrhau cyfrinachedd y data a gedwir. Ar yr un pryd, bydd manylion yr holl swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar y wefan gorfforaethol er mwyn i reolwyr llinell a gweithwyr eu gweld.

Mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i gynorthwyo staff i adleoli. Felly os yw gweithiwr yn gwrthod ystyried adleoli neu os nad yw'n ymgeisio am swyddi gwag, fe'i hysbysir yn ysgrifenedig y bydd yn dal i gael ei gynnwys ar y gofrestr adleoli ond y gall parhau i wrthod rhoi gwybodaeth olygu na ellir ei ystyried yn iawn ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas ac y gall hyn effeithio ar barhad cyflogaeth y gweithiwr gyda'r Cyngor.

Mae'n rhaid i'r Cyngor gynnig Cyflogaeth Arall Addas os yw ar gael i weithiwr y mae ei swydd yn cael ei dileu tra bydd ar absenoldeb mamolaeth arferol a/neu ychwanegol. Golyga hyn y bydd gweithiwr sydd wedi cael rhybudd ynghylch dileu swydd yn cael cynnig Cyflogaeth Arall Addas cyn cynnig y gyflogaeth honno i unrhyw weithiwr arall y mae ei swydd hefyd wedi'i dileu ond nad yw ar absenoldeb mamolaeth. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os daw'r swydd yn wag cyn i'r gweithiwr sydd ar absenoldeb mamolaeth hysbysu'r Cyngor ynghylch y dyddiad y mae'n bwriadu dychwelyd.

Os yw gweithiwr yn anabl yn unol â'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010, a bod cyflogaeth yr un dan sylw 'mewn perygl', mae'n rhaid i'r Cyngor wneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo'r gweithiwr i barhau yn ei swydd bresennol yn y lle cyntaf. Lle bo'n afresymol gwneud yr addasiadau angenrheidiol i swydd bresennol y gweithiwr, mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried Cyflogaeth Arall Addas yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir isod. Cynghorir Rheolwyr Llinell i ofyn am gyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol a Iechyd Galwedigaethol priodol mewn amgylchiadau o'r fath. Gall yr addasiad hwn ddod o fewn y diffiniad o amgylchiadau eithriadol fel y cytunwyd arnynt gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu ei gynrychiolydd.

Rhaid i weithwyr sy'n absennol o'r gwaith ar gyfnod absenoldeb mamolaeth neu oherwydd salwch tymor hir, gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod pob cam o'r weithdrefn hon a rhaid rhoi'r un wybodaeth a'r un cyfleoedd iddynt ag a roddir i weithwyr eraill yr effeithir arnynt.

Rhaid i Reolwyr Llinell adolygu manylion y gweithiwr gan eu cymharu â'r holl swyddi gwag, gan ganolbwyntio ar Gyflogaeth Arall Addas ar gyfer y gweithiwr o fewn yr Adran sy'n cyflogi’r un dan sylw. Dylai Rheolwyr Llinell ystyried yr holl bosibiliadau gan gynnwys rhoi'r rhai sydd ar y gofrestr adleoli mewn swyddi lle mae staff yn absennol oherwydd salwch tymor hir, mewn swyddi rhan-amser a swyddi dros dro neu mewn gwaith a wneir gan amlaf gan staff Asiantaeth.

Mae'r gweithiwr yr un mor gyfrifol am fynd ati'n flaenweithgar i chwilio am Gyflogaeth Arall Addas ar dudalennau swyddi a gyrfaoedd y Cyngor ar y we ac os daw o hyd i swydd addas, dylai gyflwyno cais drwy blatfform recriwtio Oleeo.

Ar ddechrau proses geisiadau Oleeo RHAID i’r gweithiwr nodi ei fod yn ymgeisio fel ‘ymgeisydd adleoli’ drwy nodi tic yn y bocs pan fo’n briodol. . Bydd Ffurflen Gais y gweithiwr yn cael ei chyflwyno i’r rheolwr recriwtio ar gyfer pob swydd y cyflwynir cais ar ei chyfer. . Y rheolwr recriwtio sy’n gyfrifol am asesu unrhyw ymgeiswyr o'r gofrestr adleoli, fan hwyraf, 14 diwrnod calendr ar ôl cael cais er mwyn osgoi oedi yn y broses recriwtio i bawb sy'n ymwneud â'r mater.

Lle bo sgiliau, profiad a chymwysterau gweithiwr wedi'u hasesu a'u bod yn cyd-fynd â meini prawf hanfodol manyleb person swydd a hysbysebir, bydd yn rhaid i'r rheolwr recriwtio gynnig cyfnod prawf o 4 wythnos o leiaf i'r gweithiwr (y gellir ei estyn hyd at 12 wythnos dan rai amgylchiadau, e.e. os yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn cytuno y byddai sefydlu a hyfforddiant priodol yn cymryd mwy na 4 wythnos). Yn ystod cyfnod prawf, bydd manylion y gweithiwr yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr adleoli.

Os bydd mwy nag un gweithiwr sydd 'mewn perygl' yn mynegi diddordeb yn y swydd wag, penderfynir ar addasrwydd drwy ddefnyddio technegau Dethol y cytunwyd arnynt, fel rheol, cyfweliadau a phrofion Dethol ychwanegol lle bo'n briodol, yn unol â Gweithdrefn Recriwtio a Dethol y Cyngor neu'n unol â'r Polisi Dileu Swyddi, fel bo'n briodol, ac fel rheol cyn pen 14 diwrnod calendr ar ôl cael y cais. Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol priodol yn monitro'r broses hon, gan gynnwys cymryd rhan weithgar mewn panelau Dethol yn ystod cyfweliadau o bryd i'w gilydd.

Wrth ystyried addasrwydd, rhaid i'r adran sy'n cyflogi ystyried a yw'r gweithiwr yn gallu cyflawni'r swydd ar unwaith a hefyd, a allai ei chyflawni ar ôl cael cymorth a hyfforddiant rhesymol. Os felly, ni cheir penderfynu heb gael cyngor y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig a than amgylchiadau o'r fath, dylid ystyried o ddifrif gynnig y swydd ar sail cyfnod prawf am o leiaf 4 wythnos (y gellir ei estyn hyd at 12 wythnos dan rai amgylchiadau, e.e. os yw'r adran a'r gweithiwr yn cytuno y byddai sefydlu a hyfforddiant priodol yn cymryd mwy na 4 wythnos), ac wedi hynny, ailasesir yr addasrwydd yng ngoleuni unrhyw gymorth a hyfforddiant a roddwyd.

Yn ystod y cyfnod prawf, hyd nes y bydd y Gyflogaeth Arall Addas wedi'i chadarnhau, bydd yr adran gyflogi wreiddiol yn dal yn gyfrifol am y gweithiwr. Os cadarnheir y Gyflogaeth Arall Addas a'i bod yn swydd dros dro/gyfnod penodedig (h.y. am lai na 12 mis), bydd yr adran gyflogi wreiddiol yn dal yn gyfrifol am y tâl dileu swydd, os yw'n berthnasol, ar ddiwedd y cyfnod dros dro. Mae'r adran gyflogi newydd yn gyfrifol am drafod peidio ag adnewyddu/adnewyddu y contract dros dro/cyfnod penodedig â'r gweithiwr ar ôl cael cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol.

Gall enghreifftiau o 'gymorth a hyfforddiant rhesymol' gynnwys:

  • Gwneud addasiadau rhesymol i offer gwaith neu i raglenni, i alluogi person anabl i wneud y swydd.

  • Darparu hyfforddiant TG i unigolyn sydd â sgiliau TG cyfyngedig.

Mae rhagor o gyngor ynghylch yr hyn a all gael ei ystyried yn 'gymorth a hyfforddiant rhesymol" ar gael oddi wrth y Partner Busnes Adnoddau Dynol. Os yw'r gweithiwr am gael ei adleoli ar sail iechyd neu anabledd, gall fod yn gymwys am gymorth drwy'r rhaglen Dewis Gwaith neu'r rhaglen Mynediad i Waith. (Dylai Rheolwyr Llinell gysylltu â'r Uned Iechyd Galwedigaethol i gael cyngor).

Yn achos adleoli am resymau meddygol, rhaid cynnwys yr Uned Iechyd Galwedigaethol mewn unrhyw drafodaethau ar allu neu ffitrwydd yr unigolyn i wneud y swydd, cyn dod i benderfyniad.

Os nad yw gweithiwr yn llwyddo i gael Cyflogaeth Arall Addas bosibl yn ystod unrhyw gam o'r broses, h.y. ymgeisio, cyfweliad neu gyfnod prawf, yna bydd y rheolwr recriwtio'n cadarnhau'r rhesymau dros wrthod yr ymgeisydd gan wneud hynny'n ysgrifenedig cyn pen 7 niwrnod calendr ar ôl y penderfyniad (ar ôl cael cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig) a bydd y gweithiwr yn dychwelyd i'r gofrestr adleoli. Rhaid anfon copi o'r llythyr at Reolwr Llinell y gweithiwr ac at y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig.

Os bydd y gweithiwr yn gwrthod y cymorth neu'r Gyflogaeth Arall Addas a gaiff eu cynnig a hynny yn ystod unrhyw gam o'r weithdrefn, h.y. ymgeisio, cyfweliad neu gyfnod prawf yn y gwaith, rhaid i'r gweithiwr wneud hyn yn ysgrifenedig gan amlinellu'r rhesymau dros wrthod. Os ystyrir bod cymorth neu gynnig o Gyflogaeth Arall Addas wedi cael eu gwrthod yn afresymol gan weithwyr, dylid eu hysbysu y gall hyn beryglu eu parhad cyflogaeth a'u tâl dileu swydd (os ydynt yn gymwys) gyda'r Cyngor.