Polisi Adleoli Staff - Medi 2026

1. Cyflwyniad

Mae'r Cyngor, fel rhan o'i gyfrifoldeb ac fel cyflogwr, yn cydnabod yr angen i gefnogi ac i gynorthwyo i adleoli gweithwyr sydd:

Dan fygythiad y bydd eu swyddi'n cael eu dileu;

  • Yn sâl i'r graddau na allant barhau i gyflawni dyletswyddau eu swydd bresennol ond a all, o bosibl, gyflawni dyletswyddau swyddi eraill o fewn y Cyngor;

  • Wedi cael rhybudd mewn perthynas â chontract cyflogaeth hwy na 2 flynedd; ac

  • Yn ôl disgresiwn y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) yn methu â pharhau â'u cyflogaeth yn eu swydd bresennol oherwydd amgylchiadau eithriadol.

Er bod y Cyngor wedi ymrwymo i'r broses hon, ni allwn warantu y bydd swydd arall addas ar gael ym mhob achos.


2. Cwmpas y Polisi Adleoli Staff

Mae'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn Ysgolion a Reolir yn Lleol, y mae trefniadau lleol yn bodoli ar eu cyfer.

Bydd holl swyddi gwag y Cyngor, sy’n swyddi sy’n rhan o'r sefydliad, ar gael i weithwyr eu gweld ar y gofrestr adleoli staff beth bynnag fo'r ffrwd gyllido. Ond gall protocol adleoli y cytunwyd arno fod yn berthnasol yn achos swyddi a gyllidir ar y cyd â chyrff sy'n bartneriaid a/neu a gyllidir ar y cyd â Llywodraeth Cymru.


3. Pam gynnig Cyfleoedd Adleoli?

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i ystyried gweithwyr ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas. Drwy gynnig cyfleoedd adleoli, ein nod yw rhoi cymorth i weithwyr ar adeg anodd yn eu gyrfaoedd a'u bywyd, a galluogi rhai ohonynt i ddal ati i weithio pan na fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall o bosibl. Ymhlith y deddfau sy'n rheoli hyn mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, Deddf Cyflogaeth 2002, Deddf Cysylltiadau Gweithwyr 1999, Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth ac Absenoldeb Rhiant 1999, Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodedig (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2002 a Deddf Cydraddoldeb 2010.


4. Beth yw Adleoli?

Mae adleoli o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin yn broses ffurfiol sy'n nodi'r camau a'r amserlenni a ganiateir er mwyn i weithwyr gael eu hystyried yn deg ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas. Nid yw'n gwarantu Cyflogaeth Arall Addas i bawb a ystyrir o dan y broses hon. Nodir y broses a'r amserlenni'n fanwl.


5. Y Weithdrefn Adleoli

Cyfrifoldebau

Mae'r Rheolwr Llinell yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â'r weithdrefn, y cedwir cofnodion ysgrifenedig ac y rhoddir gwybodaeth i weithwyr gan eu cefnogi drwy gydol y broses. Gellir gofyn i'r Partner Busnes Adnoddau Dynol am gyngor.

Mae'r gweithiwr yr un mor gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â'r rheolwr llinell a'r Partner Busnes Adnoddau Dynol priodol ac am fod yn flaenweithgar o ran dod o hyd i Gyflogaeth Arall Addas a chyflwyno cais.

Mae'r Tîm Gwasanaethau Pobl l yn gyfrifol am fonitro'r weithdrefn a'r polisi.

Camau'r Weithdrefn

Dylid dilyn y broses hon ym mhob achos lle nad oes modd i weithiwr barhau yn ei swydd bresennol oherwydd un o'r rhesymau a amlinellir ym “1. Cyflwyniad” a lle nad yw wedi dewis, yn wirfoddol, i adael y Cyngor.

Bydd manylion gweithwyr yn cael eu rhoi ar y gofrestr adleoli am o leiaf isafswm cyfnod eu rhybudd contractiol. Er hynny, os nodir bod gweithiwr neu grŵp gweithwyr 'mewn perygl' yn gynharach yn y broses ymgynghori ffurfiol, gall y rheolwr llinell, gyda chyngor Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig, gynnig i weithwyr 'mewn perygl' fynediad i'r gofrestr adleoli am hyd at 4 wythnos cyn i gyfnod y rhybudd contractiol ddechrau.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) ddisgresiwn i helaethu'r cyfnod y'u rhoddir ar y Gofrestr Adleoli.

Bydd manylion yr holl weithwyr ar y Gofrestr Adleoli yn cynnwys enw'r gweithiwr, y radd bresennol, y lleoliad gwaith a ffefrir, manylion y swydd bresennol, enw eu rheolwr llinell, ac ati. Bydd y rhestr hon yn cael ei chyrchu gan y Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol a hynny er mwyn sicrhau cyfrinachedd y data a gedwir. Ar yr un pryd, bydd manylion yr holl swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar y wefan gorfforaethol er mwyn i reolwyr llinell a gweithwyr eu gweld.

Mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i gynorthwyo staff i adleoli. Felly os yw gweithiwr yn gwrthod ystyried adleoli neu os nad yw'n ymgeisio am swyddi gwag, fe'i hysbysir yn ysgrifenedig y bydd yn dal i gael ei gynnwys ar y gofrestr adleoli ond y gall parhau i wrthod rhoi gwybodaeth olygu na ellir ei ystyried yn iawn ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas ac y gall hyn effeithio ar barhad cyflogaeth y gweithiwr gyda'r Cyngor.

Mae'n rhaid i'r Cyngor gynnig Cyflogaeth Arall Addas os yw ar gael i weithiwr y mae ei swydd yn cael ei dileu tra bydd ar absenoldeb mamolaeth arferol a/neu ychwanegol. Golyga hyn y bydd gweithiwr sydd wedi cael rhybudd ynghylch dileu swydd yn cael cynnig Cyflogaeth Arall Addas cyn cynnig y gyflogaeth honno i unrhyw weithiwr arall y mae ei swydd hefyd wedi'i dileu ond nad yw ar absenoldeb mamolaeth. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os daw'r swydd yn wag cyn i'r gweithiwr sydd ar absenoldeb mamolaeth hysbysu'r Cyngor ynghylch y dyddiad y mae'n bwriadu dychwelyd.

Os yw gweithiwr yn anabl yn unol â'r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010, a bod cyflogaeth yr un dan sylw 'mewn perygl', mae'n rhaid i'r Cyngor wneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo'r gweithiwr i barhau yn ei swydd bresennol yn y lle cyntaf. Lle bo'n afresymol gwneud yr addasiadau angenrheidiol i swydd bresennol y gweithiwr, mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried Cyflogaeth Arall Addas yn unol â'r gweithdrefnau a amlinellir isod. Cynghorir Rheolwyr Llinell i ofyn am gyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol a Iechyd Galwedigaethol priodol mewn amgylchiadau o'r fath. Gall yr addasiad hwn ddod o fewn y diffiniad o amgylchiadau eithriadol fel y cytunwyd arnynt gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu ei gynrychiolydd.

Rhaid i weithwyr sy'n absennol o'r gwaith ar gyfnod absenoldeb mamolaeth neu oherwydd salwch tymor hir, gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod pob cam o'r weithdrefn hon a rhaid rhoi'r un wybodaeth a'r un cyfleoedd iddynt ag a roddir i weithwyr eraill yr effeithir arnynt.

Rhaid i Reolwyr Llinell adolygu manylion y gweithiwr gan eu cymharu â'r holl swyddi gwag, gan ganolbwyntio ar Gyflogaeth Arall Addas ar gyfer y gweithiwr o fewn yr Adran sy'n cyflogi’r un dan sylw. Dylai Rheolwyr Llinell ystyried yr holl bosibiliadau gan gynnwys rhoi'r rhai sydd ar y gofrestr adleoli mewn swyddi lle mae staff yn absennol oherwydd salwch tymor hir, mewn swyddi rhan-amser a swyddi dros dro neu mewn gwaith a wneir gan amlaf gan staff Asiantaeth.

Mae'r gweithiwr yr un mor gyfrifol am fynd ati'n flaenweithgar i chwilio am Gyflogaeth Arall Addas ar dudalennau swyddi a gyrfaoedd y Cyngor ar y we ac os daw o hyd i swydd addas, dylai gyflwyno cais drwy blatfform recriwtio Oleeo.

Ar ddechrau proses geisiadau Oleeo RHAID i’r gweithiwr nodi ei fod yn ymgeisio fel ‘ymgeisydd adleoli’ drwy nodi tic yn y bocs pan fo’n briodol. . Bydd Ffurflen Gais y gweithiwr yn cael ei chyflwyno i’r rheolwr recriwtio ar gyfer pob swydd y cyflwynir cais ar ei chyfer. . Y rheolwr recriwtio sy’n gyfrifol am asesu unrhyw ymgeiswyr o'r gofrestr adleoli, fan hwyraf, 14 diwrnod calendr ar ôl cael cais er mwyn osgoi oedi yn y broses recriwtio i bawb sy'n ymwneud â'r mater.

Lle bo sgiliau, profiad a chymwysterau gweithiwr wedi'u hasesu a'u bod yn cyd-fynd â meini prawf hanfodol manyleb person swydd a hysbysebir, bydd yn rhaid i'r rheolwr recriwtio gynnig cyfnod prawf o 4 wythnos o leiaf i'r gweithiwr (y gellir ei estyn hyd at 12 wythnos dan rai amgylchiadau, e.e. os yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn cytuno y byddai sefydlu a hyfforddiant priodol yn cymryd mwy na 4 wythnos). Yn ystod cyfnod prawf, bydd manylion y gweithiwr yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr adleoli.

Os bydd mwy nag un gweithiwr sydd 'mewn perygl' yn mynegi diddordeb yn y swydd wag, penderfynir ar addasrwydd drwy ddefnyddio technegau Dethol y cytunwyd arnynt, fel rheol, cyfweliadau a phrofion Dethol ychwanegol lle bo'n briodol, yn unol â Gweithdrefn Recriwtio a Dethol y Cyngor neu'n unol â'r Polisi Dileu Swyddi, fel bo'n briodol, ac fel rheol cyn pen 14 diwrnod calendr ar ôl cael y cais. Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol priodol yn monitro'r broses hon, gan gynnwys cymryd rhan weithgar mewn panelau Dethol yn ystod cyfweliadau o bryd i'w gilydd.

Wrth ystyried addasrwydd, rhaid i'r adran sy'n cyflogi ystyried a yw'r gweithiwr yn gallu cyflawni'r swydd ar unwaith a hefyd, a allai ei chyflawni ar ôl cael cymorth a hyfforddiant rhesymol. Os felly, ni cheir penderfynu heb gael cyngor y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig a than amgylchiadau o'r fath, dylid ystyried o ddifrif gynnig y swydd ar sail cyfnod prawf am o leiaf 4 wythnos (y gellir ei estyn hyd at 12 wythnos dan rai amgylchiadau, e.e. os yw'r adran a'r gweithiwr yn cytuno y byddai sefydlu a hyfforddiant priodol yn cymryd mwy na 4 wythnos), ac wedi hynny, ailasesir yr addasrwydd yng ngoleuni unrhyw gymorth a hyfforddiant a roddwyd.

Yn ystod y cyfnod prawf, hyd nes y bydd y Gyflogaeth Arall Addas wedi'i chadarnhau, bydd yr adran gyflogi wreiddiol yn dal yn gyfrifol am y gweithiwr. Os cadarnheir y Gyflogaeth Arall Addas a'i bod yn swydd dros dro/gyfnod penodedig (h.y. am lai na 12 mis), bydd yr adran gyflogi wreiddiol yn dal yn gyfrifol am y tâl dileu swydd, os yw'n berthnasol, ar ddiwedd y cyfnod dros dro. Mae'r adran gyflogi newydd yn gyfrifol am drafod peidio ag adnewyddu/adnewyddu y contract dros dro/cyfnod penodedig â'r gweithiwr ar ôl cael cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol.

Gall enghreifftiau o 'gymorth a hyfforddiant rhesymol' gynnwys:

  • Gwneud addasiadau rhesymol i offer gwaith neu i raglenni, i alluogi person anabl i wneud y swydd.

  • Darparu hyfforddiant TG i unigolyn sydd â sgiliau TG cyfyngedig.

Mae rhagor o gyngor ynghylch yr hyn a all gael ei ystyried yn 'gymorth a hyfforddiant rhesymol" ar gael oddi wrth y Partner Busnes Adnoddau Dynol. Os yw'r gweithiwr am gael ei adleoli ar sail iechyd neu anabledd, gall fod yn gymwys am gymorth drwy'r rhaglen Dewis Gwaith neu'r rhaglen Mynediad i Waith. (Dylai Rheolwyr Llinell gysylltu â'r Uned Iechyd Galwedigaethol i gael cyngor).

Yn achos adleoli am resymau meddygol, rhaid cynnwys yr Uned Iechyd Galwedigaethol mewn unrhyw drafodaethau ar allu neu ffitrwydd yr unigolyn i wneud y swydd, cyn dod i benderfyniad.

Os nad yw gweithiwr yn llwyddo i gael Cyflogaeth Arall Addas bosibl yn ystod unrhyw gam o'r broses, h.y. ymgeisio, cyfweliad neu gyfnod prawf, yna bydd y rheolwr recriwtio'n cadarnhau'r rhesymau dros wrthod yr ymgeisydd gan wneud hynny'n ysgrifenedig cyn pen 7 niwrnod calendr ar ôl y penderfyniad (ar ôl cael cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig) a bydd y gweithiwr yn dychwelyd i'r gofrestr adleoli. Rhaid anfon copi o'r llythyr at Reolwr Llinell y gweithiwr ac at y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig.

Os bydd y gweithiwr yn gwrthod y cymorth neu'r Gyflogaeth Arall Addas a gaiff eu cynnig a hynny yn ystod unrhyw gam o'r weithdrefn, h.y. ymgeisio, cyfweliad neu gyfnod prawf yn y gwaith, rhaid i'r gweithiwr wneud hyn yn ysgrifenedig gan amlinellu'r rhesymau dros wrthod. Os ystyrir bod cymorth neu gynnig o Gyflogaeth Arall Addas wedi cael eu gwrthod yn afresymol gan weithwyr, dylid eu hysbysu y gall hyn beryglu eu parhad cyflogaeth a'u tâl dileu swydd (os ydynt yn gymwys) gyda'r Cyngor.


6. Diogelu "Tâl"

Ni ddiogelir tâl gweithwyr sy'n derbyn Cyflogaeth Arall Addas. Mae cyfradd tâl y swydd "newydd" yn weithredol hyd yn oed os yw'n is. Mae amodau a thelerau'r swydd newydd yn weithredol hefyd. Rhaid gofalu bod gweithwyr yn gwybod am hyn cyn iddynt dderbyn swydd. Mae'r tâl a'r amodau newydd yn weithredol o'r dyddiad ar ôl i'r cyfnod prawf y cytunwyd arno ddod i ben. Yr adran gyflogi wreiddiol fydd yn gyfrifol am unrhyw wahaniaeth sy'n bodoli yn ystod cyfnod prawf (e.e. o ran gweithiwr sy'n symud o swydd ar dâl uwch i dâl is). Bydd angen i unrhyw weithiwr a adleolir i swydd sy'n debygol o olygu gostyngiad mewn tâl drafod y goblygiadau â'r Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig.


7. Ystyried Adleoli – Terfynau Amser

Bydd y cyfnod cadw gweithwyr ar y Gofrestr Adleoli, a'u hystyried ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas bosibl, yn unol â “5. Y Weithdrefn Adleoli” o'r weithdrefn hon.

Mewn achosion o adleoli am resymau meddygol, lle na chafwyd Cyflogaeth Arall Addas, bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig yn sicrhau bod yr holl wybodaeth feddygol ar gael o Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor cyn ystyried diswyddo a rhoi rhybudd contractiol.

Terfynir cyflogaeth yn amodol ar y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol e.e. Absenoldeb Salwch, Dileu Swyddi ac ati.


8. Cadw/Diweddaru Cofnodion

Mae'n bwysig bod cofnodion ysgrifenedig cyfrinachol yn cael eu cadw/diweddaru ar gyfer pob gweithiwr sydd am gael ei (h)adleoli, a bod y cofnodion yn cynnwys:

  • Copïau o'r ohebiaeth a anfonwyd at y gweithiwr.

  • Copïau o'r ohebiaeth a ddaeth i law oddi wrth y gweithiwr.

  • Dyddiadau cyfeirio'r gweithiwr at y Gofrestr Adleoli.

  • Manylion y swyddi a gynigiwyd i'r gweithiwr.

  • Manylion y rhesymau dros wrthod Cyflogaeth Arall.

Cyfrifoldeb y Tîm Adnoddau Dynol fydd hyn fel rheol a bydd y tîm yn sicrhau y gweithredir gofynion y Ddeddf Diogelu Data.


9. Adolygu'r penderfyniad ynghylch Cyflogaeth Arall Addas

Os yw cais gweithiwr am Gyflogaeth Arall Addas wedi'i wrthod adeg ymgeisio, cyfweliad neu ar ddiwedd cyfnod prawf yn y swydd, gall ofyn am i'r penderfyniad gael ei adolygu gan Gyfarwyddwr yr adran sy'n recriwtio neu gan gynrychiolydd enwebedig, gyda chyngor y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) neu gynrychiolydd enwebedig.

Gellir gofyn am adolygu penderfyniad ar un o ddwy sail:

Sylwadau nas Profwyd

  • Yn yr achos hwn, mae'r ymgeisydd o'r farn fod yr asesu ar gyfer y Gyflogaeth Arall Addas yn seiliedig ar dybiaethau neu sylwadau ynghylch addasrwydd a/neu berfformiad yr ymgeisydd, na ellir eu hategu drwy dystiolaeth.

Methwyd â Chydymffurfio â'r Gweithdrefnau

  • Yn yr achos hwn, gellir profi na chydymffurfiwyd â'r gweithdrefnau cywir ac egwyddorion y Broses Adleoli.

Rhaid i gais am adolygu penderfyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) cyn pen 7 niwrnod calendr ar ôl dyddiad canlyniad yr Asesiad o'r Gyflogaeth Arall Addas neu'r methiant i gydymffurfio â'r weithdrefn, a rhaid iddo nodi'r rhesymau dros y cais am adolygiad.

Bydd y Cyfarwyddwr neu'r cynrychiolydd enwebedig yn adolygu'r penderfyniad gyda chyngor y Prif Weithredwr Cynorthwyol Pobl, Digidol a Pholisi) a bydd yn cadarnhau'r canlyniad i'r ymgeisydd heb oedi diangen.


10. Sicrhau Triniaeth Gyfartal

Rhaid i’r polisi hwn gael eu cymhwyso’n gyson i bob gweithiwr, heb ystyried hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, mynegiant neu hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd na mamolaeth.

Os oes gennych bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu'r polisi a'r weithdrefn, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol a fydd yn sicrhau, os bydd angen, fod y polisi neu'r weithdrefn yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, anfonwch e-bost at Gwasanaethau Pobl CHR@sirgar.gov.uk