Polisi Adleoli Staff - Medi 2026
Yn yr adran hon
8. Cadw/Diweddaru Cofnodion
Mae'n bwysig bod cofnodion ysgrifenedig cyfrinachol yn cael eu cadw/diweddaru ar gyfer pob gweithiwr sydd am gael ei (h)adleoli, a bod y cofnodion yn cynnwys:
Copïau o'r ohebiaeth a anfonwyd at y gweithiwr.
Copïau o'r ohebiaeth a ddaeth i law oddi wrth y gweithiwr.
Dyddiadau cyfeirio'r gweithiwr at y Gofrestr Adleoli.
Manylion y swyddi a gynigiwyd i'r gweithiwr.
Manylion y rhesymau dros wrthod Cyflogaeth Arall.
Cyfrifoldeb y Tîm Adnoddau Dynol fydd hyn fel rheol a bydd y tîm yn sicrhau y gweithredir gofynion y Ddeddf Diogelu Data.
