Polisi Adleoli Staff - Medi 2026
Yn yr adran hon
- 6. Diogelu "Tâl"
- 7. Ystyried Adleoli – Terfynau Amser
- 8. Cadw/Diweddaru Cofnodion
- 9. Adolygu'r penderfyniad ynghylch Cyflogaeth Arall Addas
- 10. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
7. Ystyried Adleoli – Terfynau Amser
Bydd y cyfnod cadw gweithwyr ar y Gofrestr Adleoli, a'u hystyried ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas bosibl, yn unol â “5. Y Weithdrefn Adleoli” o'r weithdrefn hon.
Mewn achosion o adleoli am resymau meddygol, lle na chafwyd Cyflogaeth Arall Addas, bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol enwebedig yn sicrhau bod yr holl wybodaeth feddygol ar gael o Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor cyn ystyried diswyddo a rhoi rhybudd contractiol.
Terfynir cyflogaeth yn amodol ar y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol e.e. Absenoldeb Salwch, Dileu Swyddi ac ati.
