Cefnogaeth Gweithwyr

Diweddarwyd y dudalen: 19/10/2023

Mae’r canlynol yn offer ac yn awgrymiadau i helpu gweithwyr a rheolwyr drwy broses bresenoldeb, ad-drefnu, adleoli, dileu swyddi neu ddiswyddo.

Os yw’r rheolwr yn pryderu am iechyd a lles gweithiwr yn ystod y broses ad-drefnu dylai siarad â’r gweithiwr a cheisio cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol neu’r Uned Iechyd Galwedigaethol.

Cefnogaeth Iechyd a Lles

Er mwyn rhoi cefnogaeth ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau, mae gan eich Uned Iechyd Galwedigaethol staff meddygol gan gynnwys Meddygon, Nyrsys, Therapyddion Galwedigaethol a thîm Delio â Straen ar gael i helpu holl staff CSC.​​

Dysgu a Datblygu

Mae’r uned Datblygu a Dysgu Corfforaethol yn cynnal cyrsiau cyn ymddeol i weithwyr sy’n paratoi at ymddeoliad neu sy’n ystyried ymgeisio am derfynu cyflogaeth yn gynnar dan y cynllun terfynu cyflogaeth.

Cyfleoedd am Waith a Chyngor ar Fudd-daliadau

  • Mae Gyrfa Cymruyn wasanaeth Cymru gyfan sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim i bobl o bob oed.
  • Gwybodaeth am ddiswyddiadau i weithwyr.
  • Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn un o asiantaethau’r llywodraeth sy’n cynorthwyo pobl sydd mewn oed gweithio i symud o fudd-dal i waith, gan helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag.
  • • Mae Un Sir Gâr wedi cael ei sefydlu gan bartneriaeth o asiantaethau yn y sir i’w gwneud yn haws i unigolion o bob oedran, pob lefel o alluoedd, sgiliau a diddordebau gael mynediad i’r llwybr yn ôl i waith a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael. Y partneriaid allweddol yw’r Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Coleg Sir Gâr, Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol a Chyngor Sir Caerfyrddin; rhyngddynt mae ganddynt gyfoeth o brofiad a chysylltiadau gyda chyflogwyr ar draws y sir. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.unsirgar.co.uk neu ffoniwch 0800 9173 408 yn rhad ac am ddim.

Sgiliau Cyfweliad a CV

Mae’n bosibl na fuoch mewn cyfweliad am swydd ers tro. Mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth am:

Swyddi gwag diweddaraf gyda’r Cyngor

Ewch i’r adran swyddi a gyrfaoedd ar ein gwefan i weld manylion y swyddi gwag diweddaraf a’r cyfleoedd i adleoli yn y Cyngor.

Os ydych yn wynebu colli eich swydd, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r polisi adleoli a’r camau y mae angen ichi eu cymryd i gael y siawns gorau o ddod o hyd i waith arall addas.​​

Cyngor Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu pobl i wneud y gorau o’u harian. Maent yn rhoi cyngor ariannol diduedd, rhad ac am ddim, ar-lein, ar we-sgwrs, dros y ffôn, mewn canllawiau printiedig ac wyneb yn wyneb.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol neu e-bostiwch: moneyadviser@citizensadvice.org.uk neu ffoniwch 0300 500 5000.

I gael cyngor diduedd, rhad ac am ddim i weithwyr sy’n dymuno ceisio cyngor ar sut i ddelio â dyledion, cysylltwch ag arweiniad a chyngor ar ddyledion Payplan. Gyda chefnogaeth gan sefydliadau fel y ganolfan cyngor ar bopeth, y llinell ddyledion genedlaethol a’r sefydliad cynghorwyr ariannol. Gallwch gysylltu â Payplan drwy ffonio: 0800 280 2816 Llun-Gwener 8am-9pm a Sad 9-3.

Shelter Cymru – ‘Gallwn ni ei Datrys’

Gall unrhyw un fod yn bryderus ynglŷn â’i dŷ a’i arian, waeth beth fo’r amgylchiadau. Os ydych chi’n cael problemau, neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, gall Shelter Cymru helpu. Gwasanaeth cynghori gan Shelter Cymru ydy Gallwn ni ei Datrys ac fe’i bwriedir ar gyfer pobl sydd mewn gwaith. Mae’r cyngor am ddim, yn annibynnol ac yn gwbl gyfrinachol. Ewch i wefan Shelter Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Gwybodaeth am Bensiynau

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r pensiwn llywodraeth leol ewch i wefan cronfa bensiwn Dyfed.

Os ydych chi’n poeni neu os oes gennych gwestiynau am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Mae’n sefydliad annibynnol, nid er elw sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad am ddim. Gall y gwasanaeth hwn helpu hefyd os oes gennych broblem gyda’ch darparwr pensiwn galwedigaethol neu breifat. Ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael rhagor o wybodaeth.​

Cymorth i Ddechrau Busnes

Os ydych yn wynebu colli eich swydd ac yn ystyried dechrau eich busnes eich hun mae yna nifer o wefannau sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth.

Adnoddau Dynol