Contractau dros dro a chontractau tymor penodedig

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024

Mae'n hanfodol bod rhesymau tryloyw a gwrthrychol dros gytuno bod swydd o natur dros dro/tymor penodol yn hytrach na swydd barhaol.

Gellid sefydlu contract dros dro neu dymor penodol am y rhesymau canlynol:

  • cwblhau tasg benodol, megis gwaith prosiect sy'n dibynnu ar gyllid allanol a bydd y swydd yn dod i ben ar ôl i'r cyllid ddod i ben neu os na fydd modd dod o hyd i ragor o gyllid.
  • Cwblhau tasg benodol.
  • Recriwtio er mwyn darparu staff ychwanegol a bod y galw am y gwasanaethau yn lleihau neu'n dirwyn i ben.

Mewn achosion o'r fath, y rheswm dros ddiswyddo bydd dileu swydd.

Enghreifftiau o pan fydd contract tymor penodol neu gontract dros dro yn cael ei roi pan mae'r rheswm dros y diswyddo bydd "rheswm sylweddol arall”

  • Cyflenwi ar gyfer absenoldeb mabwysiadu/mamolaeth/rhiant
  • Cyflenwi ar gyfer prif ddeiliad swydd sydd ar secondiad.
  • Cyflenwi ar gyfer swydd wag wrth ymgymryd â'r broses recriwtio (dim ond ar gyfer swyddi gwag cymeradwy)
  • Cyflenwi ar gyfer absenoldeb tymor hir e.e. salwch

Mewn achosion o'r fath, ni fyddech fel arfer yn gymwys i gael taliad diswyddo. Dylid defnyddio contractau tymor sefydlog neu dros dro ar gyfer swyddi gwag cymeradwy yn unig; ni ddylid defnyddio'r contractau hyn i dalu am swydd sydd yn disgwyl cymeradwyaeth/cyllid.

Os ydych ar gontract tymor sefydlog/dros dro ni ddylech ddisgwyl i'ch cyflogaeth barhau yn hirach na thymor y contract cyntaf. Petai'r contract yn dirwyn i ben yn gynnar h.y. cyn hyd penodol y contract, yna byddwch yn cael eich diswyddo a bydd y cyfnod rhybudd perthnasol yn gymwys.

Adnoddau Dynol