Absenoldeb Mamolaeth

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Gall roi gwybod ichi ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Yr adeg gynharaf y gall yr absenoldeb mamolaeth gychwyn yw 11 wythnos cyn yr adeg y disgwylir i’r babi gael ei eni.

Rhaid i’r cyflogai roi rhybudd ysgrifenedig i chi a’r Tîm Absenoldeb erbyn y 15fed wythnos fan bellaf cyn dyddiad yr enedigaeth.

Mae modd newid y dyddiad y bydd yr absenoldeb mamolaeth yn cychwyn ar yr amod y rhoddir rhybudd ysgrifenedig 28 diwrnod o flaen llaw neu, os nad yw hynny’n bosibl, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Bydd y gwyliau y mae gan y cyflogai hawl iddynt yn parhau i gronni yn ystod yr absenoldeb mamolaeth. I osgoi anawsterau gwasanaeth diangen, pan fo modd dylai unrhyw wyliau sydd eisoes yn ddyledus gael eu cymryd cyn ychwyn yr absenoldeb mamolaeth. Mewn achosion pan nad yw hynny’n bosibl, bydd diwrnodau’r gwyliau blynyddol sy’n weddill yn cael eu trosglwyddo i’r flwyddyn wyliau newydd.

(Gall fod yn ofynnol i gyflogai gymryd yr holl wyliau, neu rai o’r gwyliau, sy’n cael eu trosglwyddo i flwyddyn wyliau newydd ar ddiwrnodau penodol, yn ôl yr hyn a bennir gennych chi a gofynion y gwasanaeth).

AMae gan bob cyflogai sy’n feichiog hawl i amser o’r gwaith â thâl i gael gofal cynenedigol, a rhaid darparu tystiolaeth o’r apwyntiad cyntaf os gofynnir i’r cyflogai wneud hynny. Gall gofal cynenedigol gynnwys archwiliadau meddygol ond hefyd ddosbarthiadau ymlacio a rhianta yn dilyn cyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig, bydwraig neu, os dewis personol a wneir, rhaid gwneud cais am wyliau blynyddol.

Sylwch: mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ofyn i gyflogeion aildrefnu apwyntiadau pan fo’n rhesymol gwneud hynny. Pan fo’n bosibl, dylai cyflogeion geisio trefnu i’r apwyntiadau hyn gael eu cynnal mor agos at gychwyn neu ddiwedd y diwrnod gwaith ag y bo modd.

Os yw’r cyflogai’n absennol oherwydd salwch nad yw’n gysylltiedig â’r beichiogrwydd, tra bo yn y gwaith o hyd, bydd tâl salwch yn cael ei dalu iddi yn y ffordd arferol.

Ni fydd y cyflogai’n cael tâl salwch yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth ond bydd yn parhau i gael tâl mamolaeth dros y cyfnod y mae ganddi hawl iddo.

Os yw’r babi’n cael ei eni cyn cychwyn yr absenoldeb mamolaeth (neu hyd yn oed cyn i’r cyflogai eich hysbysu’n ffurfiol am y dyddiad y bwriedir iddo gychwyn), bydd yr absenoldeb mamolaeth yn cychwyn yn awtomatig y diwrnod ar ôl yr enedigaeth.

Mae’n bosibl fod gan y cyflogai hawl i absenoldeb/tâl mamolaeth ond gan ei bod wedi’i chyflogi o dan gontract â chyfnod penodol, sydd i ddod i ben ar adeg ei habsenoldeb mamolaeth neu yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd unrhyw daliadau galwedigaethol (os yw’r cyflogai’n gymwys i’w cael) yn dod i ben ar y dyddiad gorffen. Bydd unrhyw Dâl Mamolaeth Statudol sy’n weddill (os yw’r cyflogai’n gymwys i’w gael) yn cael ei dalu mewn cyfandaliad.

Fodd bynnag, os bydd contract y cyflogai’n cael ei ymestyn neu os bydd yn dod o hyd i swydd arall, cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau Dynol adrannol a’r Tîm Absenoldeb, oherwydd mae’n bosibl y bydd gan y cyflogai hawl i absenoldeb/tâl mamolaeth ychwanegol.

Cymerir y bydd cyflogeion yn dychwelyd ar ddiwedd Cyfnod eu Habsenoldeb Mamolaeth. Os ydynt yn dymuno dychwelyd i’r gwaith cyn hynny, rhaid iddynt roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i chi a’r Adain Adnoddau Dynol eu bod yn dymuno dychwelyd i’r gwaith yn gynnar.

Rydym wedi ymrwymo i hwyluso awyrgylch sy’n cefnogi’r teulu ac mae polisïau wedi’u datblygu i’r perwyl hwnnw. Ymysg y dewisiadau eraill y gellir eu hystyried mae: gwneud cais i gael gweithio’n hyblyg, rhannu swydd, neu weithio’n rhan-amser. Gweler polisi Gweithio’n Hyblyg y cyngor a’i Bolisi a Gweithdrefn ynghylch Rhannu Swydd i gael rhagor o wybodaeth.

Os yw’r cyflogai’n gweithio i gyflogwr arall yn ystod ei chyfnod tâl mamolaeth statudol ond cyn i’r babi gael ei eni, dylem barhau i dalu tâl mamolaeth statudol. Os yw’r cyflogai’n gweithio i gyflogwr arall yn ystod y cyfnod absenoldeb mamolaeth statudol ond ar ôl i’r babi gael ei eni, bydd angen inni wirio a fu’n gweithio i’r cyflogwr arall yn ystod y 15fed wythnos cyn yr adeg yr oedd disgwyl i’r babi gael ei eni. Os gwnaeth, dylai tâl mamolaeth statudol gael ei dalu yn ôl y drefn arferol. 

Fodd bynnag, os yw’r cyflogai’n gweithio i gyflogwr arall na fu’n gweithio iddo yn ystod y 15fed wythnos cyn yr adeg yr oedd disgwyl i’r babi gael ei eni, rhaid i’r cyflogwr roi’r gorau i dalu tâl mamolaeth statudol o ddechrau’r wythnos y mae’r cyflogai’n gweithio i’r cyflogwr arall. Cyfrifoldeb y cyflogai yw eich hysbysu chi a’r Tîm Absenoldeb ei bod yn gweithio i rywun arall yn ystod ei chyfnod tâl mamolaeth statudol.

Os yw’r cyflogai’n penderfynu peidio â dychwelyd am o leiaf 13 wythnos, a hynny ar ôl cadarnhau’r bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, mae’n bosibl y gofynnir iddi ad-dalu rhywfaint o’r taliadau a gafodd. Gweler y polisi Absenoldeb Mamolaeth i gael rhagor o fanylion.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol