Beth Yw'r Galw a'r Cyflenwad?

Diweddarwyd y dudalen: 01/02/2024

Y cam cyntaf yw asesu materion presennol o ran y gweithlu yn eich is-adran a'ch adran a nodi meysydd problemus neu broblemau posibl.

Cwestiynau allweddol i'w hateb:

  • Beth yw proffil y gweithlu presennol?
  • Beth yw'r risgiau amlwg a welir o'r proffil?
  • Beth yw'r sgiliau a'r cymwyseddau presennol?
  • Ym mha ffordd fydd patrymau'r gweithlu'n newid os na fydd unrhyw ymyrraeth?

Mae'r ail gam yn ymwneud ag asesu'r gofynion o ran y gweithlu yn y dyfodol a dylai ystyried unrhyw newidiadau yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar y staffio o fewn eich gwasanaeth.

Cwestiynau allweddol i'w hateb:

  • Pa wasanaethau neu gynhyrchion yn y dyfodol fydd yn cael eu darparu gan y gwasanaeth?
  • Beth yw'r goblygiadau a'r materion o ran y gweithlu?
  • Pa sgiliau a chymwyseddau fydd eu hangen?
  • Pa rolau neu arferion gweithio newydd fydd eu hangen?

Mae amrywiaeth eang o ddulliau ar gyfer amcangyfrif y gofynion o ran y gweithlu, a bydd y dulliau a ddefnyddir yn dibynnu'n fawr ar faint a natur eich is-adran a'ch adran.

Ar lefel syml, man cychwyn synhwyrol bob amser yw gofyn i'ch rheolwyr beth maen nhw'n credu fydd ei angen a phryd.

Penderfynwch ar ba lefel yr hoffech asesu'r cyflenwad a'r galw drwy addasu'r holiadur sydd ynghlwm yn ôl eich anghenion.

 

Supply and Demand template terfynol.xlsx

Adnoddau Dynol