Oriau Hyblyg

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

 

Mae cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg yn gais a wneir gan gyflogai i newid ei amodau a thelerau cyflogaeth mewn perthynas â'r:

  • oriau y mae gofyn iddo weithio
  • yr amseroedd pan fo gofyn iddo weithio neu'r
  • man lle y mae gofyn iddo ei fynychu

Os ydych chi wedi cyflawni o leiaf 26 wythnos o wasanaeth parhaus, mae gennych yr hawl i wneud cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg.

Rhaid i'r cais nodi'r newid yr ydych yn ei geisio a'r dyddiad yr ydych yn ei gynnig fel y dyddiad pan ddylai'r trefniant hwn ddod i rym. Rhaid i'r cais esbonio hefyd beth fydd effaith y newid ar eich tîm/adran yn eich barn chi, a sut y byddai modd delio â'r effaith hwnnw.

Dim ond un cais mewn unrhyw gyfnod o 12 mis y caniateir i chi ei wneud.

Os ydych chi wedi cyflawni o leiaf 26 wythnos o wasanaeth parhaus, mae gennych hawl statudol i wneud cais am batrwm oriau gwaith mwy hyblyg neu am drefniadau gwaith mwy hyblyg. Mae gofyn i'ch rheolwr ddelio â chais o'r fath mewn ffordd resymol, a dim ond am resymau busnes penodol y bydd modd iddynt ei wrthod. Fodd bynnag, nid oes gennych chi yr hawl awtomatig i newid i batrwm gwaith mwy hyblyg.

Os byddwch yn gofyn am amserlen waith sy'n gostwng nifer eich oriau/diwrnodau arferol, bydd eich tâl a'ch gwyliau blynyddol yn cael ei addasu o ganlyniad.

Mae gennych yr hawl i drefnu bod cynrychiolydd Undeb Llafur neu gydweithiwr yn mynychu'r cyfarfod a/neu'r cyfarfod apêl ynghylch eich cais am drefniadau gweithio hyblyg gyda chi.

Rhaid i gais am drefniadau gweithio hyblyg fod yn gais ysgrifenedig ac:

  • mae'n rhaid iddo gael ei wneud ar ffurflen ymgeisio am drefniadau gweithio hyblyg FW (A)
  • rhaid iddo nodi'r dyddiad
  • rhaid iddo nodi'r newid(iadau) i drefniadau gwaith yr hoffech fanteisio arnynt
  • rhaid iddo nodi'r dyddiad a gynigir gennych fel y dyddiad pan ddylai'r newid(iadau) y gofynnwyd amdano/amdanynt ddod i rym
  • rhaid iddo nodi effaith(effeithiau), os o gwbl, unrhyw newid(iadau) ar y tîm/adran yn eich barn chi, a sut y byddai modd delio ag unrhyw effeithiau o'r fath yn eich barn chi ac
  • mae'n rhaid iddo nodi a ydych chi wedi cyflwyno cais i weithio oriau hyblyg yn flaenorol, ac os felly, pryd.

Os oes cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg a wnaethpwyd gennych yn flaenorol wedi cael ei dderbyn yn barod, mae modd i chi wneud cais dilynol i newid eich patrwm gwaith eto, ar yr amod bod 12 mis wedi mynd heibio ers y cais cychwynnol. Dim ond un cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg y mae modd i chi ei wneud mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Ar ôl cytuno i gais am drefniadau gweithio hyblyg, mae'n creu newid parhaol i'ch contract, oni bai y cytunir fel arall, ac ni fydd modd ei newid heb i chi a'ch rheolwr ddod i gytundeb pellach.  Mae modd i'r ddau ohonoch gytuno bod y trefniadau'n rhai dros dro, neu eu bod yn destun cyfnod prawf.  Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd cyflogai'n gofalu am rywun y mae ganddynt salwch angheuol, efallai mai dim ond cyfnod dros dro drefniadau gweithio hyblyg y bydd y cyflogai'n dymuno ei gael, ac efallai y bydd modd i'r rheolwr ganiatáu hyn.

Ym mwyafrif yr achosion, bydd er budd i'r ddau barti bod y trefniant gweithio newydd yn un parhaol.  Efallai y bydd cyflogeion sy'n gofyn am drefniadau gweithio hyblyg oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu yn cael anhawster wrth newid eu trefniadau gofal os bydd y rheolwr yn dymuno dychwelyd i'r trefniadau gweithio blaenorol.  Yn yr un modd, efallai na fydd modd i'r rheolwr gymeradwyo cais y cyflogai i ddychwelyd i batrwm gwaith blaenorol o ganlyniad i gyfyngiadau ar y gyllideb, efallai y bydd cyflogai arall wedi cael ei recriwtio i wneud y gwaith, neu efallai y bydd y gwaith wedi cael ei ad-drefnu.

Oes, mae modd i chi apelio os gwrthodir eich cais.  Mae'r cyfarfod apêl yn cynnig cyfle i adolygu eich cais ymhellach ac i chi gwestiynu'n fanwl pam y gwnaethpwyd y penderfyniad ac a seiliwyd y rhesymau dros wrthod y cais ar ffeithiau cywir.  Yn yr un modd â'r penderfyniad cychwynnol, rhaid i'r penderfyniad i wrthod cais ar ôl gwneud apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo gynnwys y dyddiad a nodi'r sail y dibynnwyd arni.

Bydd angen i chi nodi'r canlynol:

  • Os cytunir ar y cais, bydd hwn yn drefniant parhaol fel arfer.
  • A hoffech chi ofyn am gyfnod prawf er mwyn gweld a yw'r trefniadau arfaethedig yn addas i'ch anghenion, i ofynion eich rôl ac i'r tîm/adran.
  • Os ydych yn gofyn am drefniant sy'n golygu lleihau cyfanswm eich oriau gwaith, gostyngir eich cyflog ac amodau a thelerau eraill ar sail pro-rata.
  • Bydd goblygiadau ar gyfer eich pensiwn hefyd.
  • Mae o fantais i chi ddarparu cymaint o fanylder ag y bo modd yn y ffurflen gais am y patrwm gwaith yr ydych yn ei ddymuno, er mwyn sicrhau bod eich Rheolwr yn deall eich cais yn llawn.
  • Ystyriwch yr effaith ar gydweithwyr, eich rheolwr a'ch swydd pe byddai'r patrwm neu'r trefniadau gwaith yn newid. Dylech geisio dangos ar y ffurflen na fydd eich cais yn niweidio'ch perfformiad, eich swydd, y tîm na'r adran mewn unrhyw ffordd.  Mewn rhai achosion, efallai y bydd trefniadau gweithio hyblyg o fudd i'r tîm/adran – er enghraifft, os yw'n caniatáu i chi ddarparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod oriau brig.
  • Meddyliwch am unrhyw broblemau posibl y gallent godi o'ch cais. Sut fyddai modd goresgyn y rhain?
  • Ystyriwch a oes unrhyw oblygiadau iechyd a diogelwch y gallent ddeillio o'r trefniadau gweithio hyblyg yr ydych chi wedi gofyn amdanynt. Ar gyfer rhai mathau o drefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio gartref, bydd angen cynnal asesiad risg ar y cyd â chi, fel yr amlinellir yn y Polisi Gweithio Ystwyth.
  • Cael cyngor gan gydweithwyr (yn enwedig os ydynt eisoes yn gweithio mewn ffordd hyblyg) neu gan eich undeb llafur am eich cais a llenwi'ch ffurflen.
  • Dylech fod yn gyfarwydd â'r manylion yn eich cais am drefniadau gweithio Hyblyg a bod yn barod i ymhelaethu neu esbonio unrhyw ran o'ch cais.
  • Byddwch yn barod i fod yn hyblyg. Efallai y bydd eich rheolwr yn gofyn i chi ystyried cyfnod prawf neu batrymau neu ffurfiau gweithio hyblyg amgen.
  • Os ydych yn dymuno trefnu bod rhywun yn mynychu gyda chi, sicrhewch eich bod yn hysbysu'ch rheolwr (neu AD os yw'n gyfarfod apêl). Sicrhewch eich bod yn briffio'ch cydweithiwr neu'ch cynrychiolydd undeb llafur yn llawn ymlaen llaw.
  • Darllenwch Bolisi a Gweithdrefn Gweithio Hyblyg yr Awdurdod.
  • Dylai fod modd i'ch cynrychiolydd undeb llafur eich cynorthwyo, ac efallai y bydd ganddo wybodaeth bellach ar eich cyfer.
  • Gall eich Swyddog AD dynodedig gynnig cymorth hefyd.
  • Mae modd i chi weld gwybodaeth ar-lein hefyd – mae'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn cynhyrchu Canllaw cynhwysfawr i Gyflogeion a Chyflogwyr am Drefniadau Gweithio Hyblyg ar wefan .gov.
Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol