Cyflog

Diweddarwyd y dudalen: 11/04/2024

Caiff eich cyflog ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc yn fisol neu bob 4 wythnos - edrychwch yn eich contract cyflogaeth i gael rhagor o wybodaeth. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi eich manylion banc a'ch P45 i ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio er mwyn i ni sicrhau bod eich cyflog yn cael ei dalu'n brydlon a'i fod yn cael ei drethu'n gywir.

Fe gewch slip cyflog a fydd yn esbonio eich cyflog gros a'r symiau a dynnwyd allan ohono megis treth incwm, yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn.

Cewch eich talu yn ôl cyfraddau cyflog sy'n cael eu cytuno'n genedlaethol, sydyn cael eu hadolygu ym mis Ebrill bob blwyddyn. Bydd eich contract cyflogaeth yn dangos eich cyfradd cyflog ac unrhyw godiadau cyflog ychwanegol y mae gennych hawl iddynt.

Er mwyn newid eich manylion banc a fyddech cystal â diweddaru'r wybodaeth ynghylch eich cyfrif drwy'r system hunanwasanaeth ar y we 'My View 2’. Er mwyn sicrhau bod eich cyflog yn cael ei anfon i'r cyfrif banc cywir mae'n rhaid sicrhau bod y newidiadau yn cael eu cyflwyno erbyn y 7fed o'r mis.

Caiff amlder eich tâl a'ch grŵp cyflog eu nodi ar y ffurflen Telerau Cyflogaeth (ToE1) a dylid eu darllen ar y cyd â'r paragraffau priodol isod.

 

Gweithwyr sy'n cael eu talu bob pedair wythnos (Grwpiau Talu 9 - yr holl staff rheng flaen)

Bydd eich cyflog yn cael ei ôl-dalu bob pedair wythnos trwy gredyd banc i gyfrif banc o'ch dewis.  Mae'r cyfnod o bedair wythnos ar gyfer y grŵp hwn yn dod i ben ar ddydd Gwener ac yn cael ei dalu y dydd Gwener canlynol. Os yw dydd Gwener yn Ŵyl y Banc byddwch yn cael eich talu ar y dydd Iau cyn hynny.

 

Gweithwyr sy'n cael eu talu bob pedair wythnos (Grwpiau Talu 16 - yr holl staff gofal cymdeithasol)

Bydd eich cyflog yn cael ei ôl-dalu bob pedair wythnos trwy gredyd banc i gyfrif banc o'ch dewis. Mae'r cyfnodau pedair wythnos ar gyfer y grŵp hwn yn dod i ben ar ddydd Mawrth ac yn cael ei dalu yr wythnos ganlynol ar ddydd Iau.

 

Gweithwyr sy'n cael eu talu'n fisol (Grŵp Talu 11 gan gynnwys staff Delta)

Bydd eich cyflog yn cael ei ôl-dalu i chi ar y 27ain o bob mis ar gyfer mis Ionawr i fis Tachwedd yn gynhwysol (neu ar y diwrnod gwaith agosaf os yw'r 27ain ar y penwythnos neu ar Ŵyl Banc). Dyddiad taliad mis Rhagfyr fydd y 24ain neu'r diwrnod bancio olaf cyn 25ain Rhagfyr.  Telir trwy gredyd banc i gyfrif banc o'ch dewis

 

Gweithwyr a delir yn fisol (Grŵp Cyflog 15)

Ôl-delir eich cyflog ar ddiwrnod gwaith olaf y mis. Fodd bynnag, os bydd y diwrnod gwaith olaf ar ddydd Llun neu ar ddydd Mawrth, byddwch yn cael eich talu ar y dydd Gwener blaenorol. Telir trwy gredyd banc i gyfrif banc o'ch dewis.

Dylid sicrhau eich bod yn cael Taliad dyletswyddau uwch a honoraria os ydych yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol dros dro. Gall gwneud hyn fod yn gyfle gwerthfawr i weithiwr ddatblygu sgiliau a meithrin profiad, er mwyn paratoi ar gyfer dyrchafiad posibl yn y dyfodol.

Am y rheswm hwn, mae angen i'r broses ddethol ar gyfer dyletswyddau uwch fod yn dryloyw, yn deg, ac yn arbennig yn gydweddus â'n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y Polisi Recriwtio a Dewis a'r Polisi secondiadau. Mae hawl gennych dderbyn gwobr deg, pan ofynnir i chi ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol sydd dros ben a'r tu hwnt i gwmpas gradd eich swydd.

Pan fyddwch yn ymgymryd â dyletswyddau uwch byddwch yn cael eich talu ar bwynt isaf y raddfa dyletswyddau uwch. Fodd bynnag pan fo pwynt graddfa'r swydd barhaol a phwynt graddfa'r swydd dyletswyddau uwch yn gorgyffwrdd gellir rhoi pwynt graddfa ychwanegol. Edrychwch ar bolisi'r cynllun Polisi Dyletswyddau Uwch a Honoraria i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn cydnabod wyth Gŵyl y Banc y flwyddyn, ac mae'r dyddiadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn:

  • Dydd Calan
  • Dydd Gwener y Groglith
  • Dydd Llun y Pasg
  • Gŵyl y Banc cyntaf mis Mai
  • Gŵyl Banc y Gwanwyn
  • Gŵyl Banc Awst
  • Dydd Nadolig
  • Gŵyl San Steffan

Os bydd yn ofynnol i chi weithio ar ŵyl y banc byddwch yn cael eich talu ar amser dwbl, h.y. y tâl arferol am y diwrnod ynghyd â thaliad amser sengl ychwanegol am yr oriau a weithiwyd.

Gwneir taliad gŵyl y banc ychwanegol os byddwch mewn gwirionedd yn gweithio'r oriau. Os byddwch yn trefnu i weithio ar ŵyl y banc ond nid ydych yn bresennol oherwydd salwch neu unrhyw reswm arall, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer taliadau ychwanegol.

Mae cyfraddau gwyliau banc yn cael eu talu o 00:00am tan 23.59pm ar ddiwrnod gŵyl y banc.

Os bydd Gŵyl y Banc Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul yna bydd trefniadau penodol yn berthnasol. Yn absenoldeb unrhyw gytundeb lleol bydd canllawiau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn cael eu dilyn.

Os yw'n ofynnol i chi weithio oriau goramser ar ŵyl banc dynodedig, telir y cyfraddau gŵyl banc am yr union oriau a weithiwyd.

Os  ydych chi'n gweithio ar benwythnosau neu sail tymor byddwch chi'n derbyn ychwanegiad 8% neu 4% ar y holl oriau a weithir yn y drefn honno. Bydd yr atodiadau hyn yn gael eu cynnwys wrth gyfrifo goramser neu daliadau banc/ dyddiau cyhoeddys.

Mae'r gyfradd uwch ar gyfer gwyliau banc yn eich digolledu am weithio ar ŵyl y banc drwy dalu amser dwbl. Nid oes unrhyw hawl i TOIL. Os na fyddwch wedi cael eich hawl am yr holl wyliau banc ar ddiwedd y cyfnod blwyddyn/cyfrifo, neu heb gael eich talu amser dwbl am weithio ar ŵyl y banc, bydd gennych hawl i ddiwrnod o'r gwaith â thâl ar y cyfraddau fesul awr arferol. Os yw'r patrwm gweithio yn cynnwys gweithio mwy o wyliau banc na'ch hawl byddwch yn cael tâl amser dwbl am yr holl wyliau banc yr ydych wedi'u gweithio.

Nid oes gan weithwyr achlysurol hawl i gael cyfraddau gwyliau banc ychwanegol.

Esiamplau:

  • Mae gweithiwr A yn gweithio 18.5 diwrnod yr wythnos felly mae ganddo hawl i gael 4 gŵyl gyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn, yn ôl y rota bydd yn gweithio 5 ŵyl gyhoeddus. Mae'n cael tâl amser dwbl am bob un o'r 5 niwrnod a weithir ond yn amlwg nid oes gwyliau banc yn ddyledus ac nid oes hawl i gael amser o'r gwaith yn lle tâl.
  • Mae gweithiwr B yn gweithio 18.5 diwrnod yr wythnos felly mae ganddo hawl i gael 4 gŵyl gyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn, yn ôl y rota bydd yn gweithio 2 ŵyl gyhoeddus. Mae'n cael tâl amser dwbl am y ddau ddiwrnod ac ar ddiwedd y flwyddyn/cyfnod cyfrifo mae ganddo hawl i gymryd 2 ddiwrnod o wyliau ar amser sengl.
  • Mae gweithiwr C yn gweithio 37 awr yr wythnos ac yn gweithio bob dydd Sadwrn neu ddydd Sul fel rhan o'r wythnos waith arferol a 3 gŵyl y banc y flwyddyn. Byddai'r gweithiwr yn cael 8% fel lwfans ar gyfer gweithio ar y penwythnos a 3 gŵyl y banc ar amser dwbl a gyfrifir ar gyfradd fesul awr sylfaenol yn ogystal â'r ychwanegiad o 8%
  • Mae gweithiwr C yn gweithio'n rhan-amser o ddydd Llun i ddydd Gwener a gofynnir iddo weithio ar un dydd gŵyl y banc. Bydd hyn yn cael ei dalu ar gyfradd amser dwbl ond heb yr ychwanegiad o 8% gan nad yw'n gweithio patrwm penwythnos rheolaidd.

Nid ydym yn gweithredu Cynllun Tâl am Wasanaeth dros Gyfnod hir. Fodd bynnag, mae rhai Cynlluniau Tâl am Wasanaeth dros Gyfnod Hir hanesyddol yn bodoli o hyd i gyn-weithwyr cymwys Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Llanelli a Chyngor Bwrdeistref Dinefwr.

Gan nad yw'r cynlluniau hyn ar gael i bob gweithiwr, cytunwyd y dylid rhewi'r croniadau gwasanaeth a gronnwyd yn y cynlluniau hyn ar 31 Mawrth 2013.

Mae'r adran hon yn berthnasol os yw'n ofynnol i chi weithio gyda'r nos (h.y. nid cysgu i mewn) fel rhan o'r wythnos waith arferol.

Os yw'n ofynnol i chi weithio yn y nos fel rhan o'r wythnos waith arferol, mae gennych hawl i gael taliad ychwanegol o amser a thraean.

Mae ‘Gwaith Nos’ yn cael ei ddiffinio gan y Rheoliadau Amser Gwaith fel gweithio o leiaf dair awr rhwng 11pm a 6am. Felly os ydych yn gweithio am dair awr o leiaf yn ystod y cyfnod hwn gallwch ddisgwyl derbyn ychwanegiad o amser a thraean ar gyfer oriau hynny.

Er mwyn bod yn gymwys am gyfradd amser a thraean am weithio yn ystod y nos, nid oes yn rhaid i'r tair awr yn ystod un sifft fod yn oriau dilynol.

Os ydych yn gweithio llai na thair awr yn ystod y nos fe'u telir ar sail amser arferol neu oramser, pa bynnag gyfradd sy'n gymwys.

Os ydych yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau fel rhan o batrwm gwaith rheolaidd yna bydd gennych hawl i gael yr ychwanegiad o 8% yn ogystal â'r taliad o amser a thraean.

Os ydych yn gweithio sifft "nos" 10 awr ar sail goramser (dros 37 awr yr wythnos) cyfradd y tâl am yr oriau hyn fydd amser a hanner. Yn ogystal, os bydd mwy na thair awr o 10 awr a weithiwyd rhwng 11pm a 6am bydd traean ychwanegol yn cael ei dalu h.y. cyfanswm o 1.83.

‘Cyflog arferol' ar gyfer cyfrifo cyflog yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch a gwyliau blynyddol

‘Mae 'cyflog arferol' yn cynnwys yr holl enillion a fyddai'n cael eu talu yn ystod cyfnod o weithio cytundebol arferol, h.y. wythnos waith 37 awr arferol (pro rata rhan amser). Bydd hyn felly'n cynnwys y lwfans o 8% ar gyfer gweithio'n rheolaidd ar benwythnosau; y lwfans o 4% ar gyfer gweithio yn ystod y tymor yn unig; Cyfraddau uwch am weithio gyda'r nos/gwyliau banc pan mae'n ofynnol i weithio felly fel rhan o rota rheolaidd; Lwfans cysgu i mewn a lwfans goramser na ellir ei warantu o ganlyniad i gael galwad i fynd allan yn ystod cyfnod wrth gefn cytundebol. Nid yw'n cynnwys elfennau cyflog ar gyfer gwaith y tu allan i'r cyfnod gweithio cytundebol arferol, e.e., goramser gwirfoddol neu unrhyw lwfansau teithio neu gynhaliaeth neu lwfansau eraill a delir ynghylch treuliau.

Pan fyddwch yn cael eich awdurdodi gan eich rheolwr i weithio oriau ychwanegol y tu hwnt i’r wythnos waith 37 awr neu du hwnt i’r patrwm gweithio contractiol sy’n wythnos waith 37 awr ar gyfartaledd (e.e. rota/oriau blynyddol), bydd gennych hawl i gael cyfradd goramser o amser a hanner yn seiliedig ar gyflog sylfaenol/cyfradd sylfaenol fesul awr, h.y. 50% o ychwanegiad ar yr holl oriau goramser a weithiwyd ar amser arferol neu amser i ffwrdd yn lle'r oriau a weithiwyd os mai hyn yw'r dewis a ffafrir ac y cytunwyd arno gan eich rheolwr.

Pan fyddwch ar gontract i weithio patrwm gwaith sydd ar gyfartaledd yn 37 awr yr wythnos, e.e. rota bob pythefnos neu oriau blynyddol, bydd y cyfraddau goramser yn daladwy am yr oriau a weithiwyd dros y cyfartaledd o 37 awr yn ystod y cyfnod dan gontract.

Esiamplau:

  • Mae gweithiwr amser llawn dan gontract i weithio rota dreigl dwy wythnos gan weithio 40 awr yn Wythnos 1 a 34 awr yn Wythnos 2. Telir yr oriau hyn ar y gyfradd awr sylfaenol oherwydd cyfartaledd yr oriau wythnosol dros ddwy wythnos y rota yw 37. Fodd bynnag, os bydd y gweithiwr yn gweithio'r 5 awr ychwanegol yn ystod y cyfnod o 2 wythnos bydd y rhain yn cael eu talu ar y gyfradd goramser sylfaenol a'r 50% ychwanegol.
  • Mae gweithiwr amser llawn dan gontract i weithio oriau blynyddol (37 awr x 52.14 wythnos y flwyddyn = 1929 awr y flwyddyn). Gall weithio dros 37 awr yr wythnos yn ystod wythnosau penodol o'r flwyddyn a llai na 37 awr yr wythnos o ran rhai eraill ond bydd yn cael ei dalu 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd ar gyfraddau sylfaenol drwy gydol y flwyddyn. Ni fydd cyfraddau goramser yn gymwys oni bai bod y gweithiwr yn gweithio mwy na'r patrwm oriau blynyddol y cytunwyd arno ac ar ddiwedd y cyfnod.

Os ydych yn gweithio'n rhan-amser bydd yn ofynnol i chi weithio 37 awr mewn wythnos cyn y bydd taliadau ychwanegol yn gymwys ac o dan yr un amgylchiadau ag y byddai gweithiwr amser llawn yn gymwys i’w cael.

Hefyd, mae'r gwaharddiad blaenorol ar gyfraddau goramser i staff ar bwynt 29 ac uwch ar y golofn gyflog wedi cael ei ddileu ar gyfer goramser awdurdodedig.

Bydd taliadau goramser yn cael eu gwneud dim ond os byddwch yn gweithio'r oriau hynny. Os ydych i fod i weithio ond nid ydych yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch neu unrhyw reswm arall, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer unrhyw daliadau.

Ni fydd dim goramser rheolaidd na goramser cytundebol. Gofynnir i chi ymchwilio i bob ffynhonnell arall cyn caniatáu goramser a hynny yn amodol ar y prosesau cymeradwyo y cytunwyd arnynt yn unig. Os ydych am ofyn am TOIL, mae'n bosibl y bydd eich Rheolwr yn cytuno i hyn, ar sail yr union oriau a weithiwyd - TOIL ar gyfer yr amser a weithiwyd.

Er enghraifft, os yw gweithiwr yn gweithio 8 awr goramser ychwanegol,  yna bydd TOIL yn cael ei ganiatáu ar y gyfradd hon (h.y. ni fydd 50% yn cael ei ychwanegu at y cyfanswm o oriau)

Cytunwyd, at ddibenion gweinyddol os ydych yn gweithio ar benwythnosau neu yn ystod y tymor yn unig a'ch bod yn cael tâl atodol o 8% a 4%, yn ôl eu trefn, o ran yr holl oriau a weithiwyd - bydd y taliadau atodol hynny'n cael eu cynnwys wrth gyfrifo tâl goramser ychwanegol neu gyfraddau gwyliau banc.

Esiamplau:

  • Gofynnir i weithiwr rhan-amser sy'n gweithio 34 awr yr wythnos i weithio 5 awr ychwanegol: Telir y gyfradd awr safonol am 3 awr. Telir amser a hanner am 2 awr.
  • Mae'n ofynnol i weithiwr amser llawn (37 awr yr wythnos) weithio 5awr  ychwanegol. Mae'r gweithiwr yn cael ei dalu amser a hanner am weithio 5 awr.
  • Mae'n ofynnol i weithiwr amser llawn (37 awr yr wythnos) weithio goramser. Mae'r gweithiwr hwn hefyd yn gweithio'n rheolaidd ar benwythnosau. O ran unrhyw oriau goramser, byddai'r gweithiwr hwn yn derbyn ychwanegiad o 50% yn ogystal â 8% h.y. 1.58 yr awr.
  • Mae gweithiwr amser llawn (sy'n gweithio 37 awr yr wythnos) sy'n weithiwr swyddfa ac yn gymwys i ddefnyddio'r cynllun oriau hyblyg yn aros galwad ar ŵyl banc. Mae'n cael ei alw allan am 6pm am 2 awr. Gan fod y ddwy awr hyn yn ychwanegol at yr oriau contractiol, caiff y gweithiwr ei dalu ar amser dwbl.
  • Mae gweithwyr rhan amser (32 awr yr wythnos) yn gweithio penwythnosau'n rheolaidd ac felly mae ganddo hawl i'r lwfans 8%. Os yw'n gweithio 7 awr yn ychwanegol, bydd y rhain yn cael eu talu ar sail amser arferol yn ogystal ag 8% am 5 awr (1.08 yr awr) a chyfradd goramser yn ogystal â'r 8% am 2 awr h.y. 1.58 yr awr.
  • Gofynnir i Reolwr Safle Ysgol (37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 52 wythnos y flwyddyn) i weithio 2 awr ychwanegol ar ddydd Sadwrn. Bydd yn cael ei dalu ar y gyfradd goramser ar gyfer yr oriau hyn, h.y. Amser yn ogystal ag ychwanegiad o 50% Nid oes unrhyw hawl i gael yr ychwanegiad o 8% gan nad yw gweithio ar ddydd Sadwrn yn rhan reolaidd o'r swydd.

Rydym yn defnyddio Cynllun Tâl Salwch Galwedigaethol sy'n cynnal eich cyflog arferol yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch, yn dibynnu ar hyd eich absenoldeb a hyd eich gwasanaeth.

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich gwasanaeth mae hyn yn:

  • 1 mis ar gyflog llawn (ar ôl cwblhau 4 mis o wasanaeth)
  • 2 fis ar hanner cyflog.

Os na allwch ddod i'r gwaith oherwydd salwch mae'n rhaid ichi gysylltu â'ch Rheolwr cyn gynted ag y bo modd ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb.  Mae angen ffurflen hunan-ardystio ar gyfer absenoldebau hyd at a chan gynnwys 7 diwrnod, ac mae angen tystysgrif feddygol gan eich meddyg neu ysbyty ar gyfer absenoldebau hirach na hynny.

Pan mae'n ofynnol i chi ‘gysgu i mewn’ yn eich safle gwaith arferol, fel rhan o'ch patrwm gweithio rheolaidd, mae gennych hawl i gael y lwfans a nodir yng Nghylchlythyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol ynghylch Lwfansau, sef £34 y sesiwn ar hyn o bryd (01/01/2015). Byddai'n ofynnol i chi gael eich cyflogi mewn rôl lle mae 'cysgu i mewn' yn elfen reolaidd ohoni er mwyn bod yn gymwys am y lwfans. Ni thelir y lwfans hwn yn achos 'cysgu i mewn' achlysurol, er enghraifft yn ystod taith ysgol, lle nad yw hynny'n rhan arferol o'r patrwm gweithio.

Mae'r lwfans cysgu i mewn yn cwmpasu'r rheidrwydd i gysgu i mewn ynghyd ag ymateb i alwad am hyd at 30 munud yn ystod y nos.

Os oes angen ichi weithio mwy na 30 munud byddwch yn cael eich talu ar gyfradd eich cyflog arferol (goramser os yw'n berthnasol) gan gynnwys unrhyw ychwanegiad am weithio yn ystod y nos (os yn berthnasol).

I fod yn gymwys i gael cyfradd amser a thraean am weithio yn ystod y nos, mae'n rhaid i'r tair awr a weithir yn ystod yr un sifft gael eu gweithio rhwng 11pm a 6am ond nid oes yn rhaid iddynt fod yn oriau olynol.

Enghraifft:

  • Gweithwyr sy'n gweithio mewn sefydliad preswyl. Telir £34 fesul sesiwn o ran y lwfans dyletswydd cysgu i mewn. Mae'n ofynnol i weithiwr weithio cyfanswm o 4 awr rhwng 11pm a 6am felly bydd yn cael tâl yn ôl y gyfradd sylfaenol fesul awr, neu'n ôl y gyfradd goramser fel y'i diffiniwyd uchod os yw'r oriau a weithiwyd yn golygu bod yr oriau'n fwy na 37 awr yr wythnos, ynghyd â thraean i adlewyrchu gweithio yn ystod y nos.

Mae'r lwfans wrth gefn yn daladwy pan fyddwch yn benodol gyfrifol am ddarparu cyngor a/neu wasanaeth llawn yn ystod oriau nad ydynt yn oriau gwaith a phan mae'n ofynnol i fod ar gael ar gyfer galwad i fynd allan a bod yn gyswllt drwy gydol y cyfnod wrth gefn.

Ni fyddai hyn yn berthnasol mewn sefyllfa lle mae'r adran yn gweithredu rhestr gyswllt mewn argyfwng pan fyddai modd i un neu ragor o'r gweithwyr gael eu galw mewn achos o argyfwng ar sail ad hoc fel rhan o'r swydd. Byddai hyn yn golygu y byddai pwy bynnag oedd ar gael yn cael ei alw allan ac yna byddai'n cael y taliadau priodol ar gyfer yr amser a dreuliwyd yn delio â'r argyfwng.

Trefniadau wrth gefn cytundebol a threfniadau wrth gefn nad ydynt yn rhai cytundebol - Mae'n ofynnol ar gyfer rhai swyddi yn yr Awdurdod Lleol i fod yn rhan o rota wrth gefn lle mae natur y gwaith yn golygu bod dyletswyddau ychwanegol y tu allan i'r oriau gwaith arferol. Mewn amgylchiadau o'r fath bydd bod wrth gefn yn ofyniad cytundebol o'r swydd ac yn cael ei gadarnhau yn y datganiad o'r prif delerau ac amodau.

Bydd swyddi eraill o fewn yr Awdurdod lle bydd cymryd rhan mewn rota wrth gefn yn wirfoddol ac ar sail ad hoc yn amodol ar anghenion y gwasanaeth. Mewn amgylchiadau o'r fath bydd hyn yn cael ei ystyried yn drefniant heb gontract.

Dim ond os byddwch yn gweithio'r oriau y byddwch yn derbyn y taliadau wrth gefn. Os ydych i fod i weithio mewn sesiwn wrth gefn ond nid ydych yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch neu unrhyw reswm arall, ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad.

Bernir eich bod wedi cael galwad i fynd allan os ydych yn cael eich galw i ymgymryd ag unrhyw waith yn ystod y cyfnod wrth gefn a bod disgwyl i chi gyflawni’r ystod "arferol" o ddyletswyddau yn ystod yr amser hwn. Pan fyddwch yn cael eich ‘galw i fynd allan’ byddwch yn cael eich talu yn unol â chyfradd eich cyflog contractiol arferol gan gynnwys unrhyw ychwanegiadau am weithio yn ystod y nos (lle bo hynny’n berthnasol) o adeg yr alwad tan ddiwedd dyletswyddau’r alwad. Bydd hyn yn cynnwys cymryd galwadau ffôn oddi cartref.

Os yw gweithiwr yn ymateb i alwad ac os yw'r oriau a weithiwyd yn golygu y byddwch yn gweithio mwy na 37 awr yr wythnos bydd y gyfradd goramser yn gymwys.

Bydd taliad fesul sesiwn o £40 am ymgymryd â dyletswydd aros galwad.   Bydd y taliad fesul sesiwn o £40 yn cynnwys y 30 munud cyntaf a dreulir gan unrhyw weithiwr yn ymdrin â galwadau ffôn/negeseuon e-bost gartref.  Felly mae'n rhaid didynnu'r 30 munud cyntaf a dreulir yn ymdrin â galwadau ffôn/negeseuon e-bost gartref o unrhyw hawliadau goramser.

Bydd taliad fesul sesiwn rhannol o £25 (ar gyfer sesiwn hyd at hanner nos neu o hanner nos) am ymgymryd â dyletswydd aros galwad.   Bydd y taliad fesul sesiwn rhannol o £25 yn cynnwys yr 20 munud cyntaf a dreulir gan unrhyw weithiwr yn ymdrin â galwadau ffôn/negeseuon e-bost gartref. Felly mae'n rhaid didynnu'r 20 munud cyntaf a dreulir yn ymdrin â galwadau ffôn/negeseuon e-bost gartref o unrhyw hawliadau goramser.

Bydd unrhyw drefniadau presennol ar gyfer oriau ychwanegol (er enghraifft cael eich talu am 2 awr o leiaf ar gyfer galwad i fynd allan) yn dod i ben.

Ceir naw sesiwn wrth gefn yr wythnos; ac mae'r amserau wedi eu diffinio fel a ganlyn:

  1. Dydd Llun 5pm - dydd Mawrth 9am
  2. Dydd Mawrth 5pm - dydd Mercher 9am
  3. Dydd Mercher 5pm - dydd Iau 9am
  4. Dydd Iau 5pm - dydd Gwener 9am
  5. Dydd Gwener 5pm - Dydd Sadwrn 9am
  6. Dydd Sadwrn 9am - dydd Sadwrn 9pm
  7. Dydd Sadwrn 9pm - dydd Sul 9am
  8. Dydd Sul 9am - dydd Sul 9pm
  9. Dydd Sul 9pm - dydd Llun 9am

Esiamplau:

  • Gweithiwr amser llawn sy'n gweithio ar benwythnosau'n rheolaidd ac sy'n gweithio wrth gefn ar nos Sul rhwng 9pm a 9am fore Llun – mae'r dydd Llun yn Ŵyl y Banc. Bydd y gweithiwr yn cael ei dalu £40 am fod ar ddyletswydd wrth gefn. Mae'n cael galwad i fynd allan ac mae'n gweithio am bedair awr rhwng 2am a 6am a bydd yn cael ei dalu amser dwbl am ei fod yn Ŵyl y Banc ac ychwanegiad o 8% am weithio ar y penwythnos; h.y. 2.08 yr awr.
  • Mae gweithiwr amser llawn 'wrth gefn' ddydd Llun, dydd Mawrth a nosweithiau Gwener. Felly, mae'n cael ei dalu am 3 sesiwn, £40 fesul sesiwn – cyfanswm o £120. Mae'n cael galwad i fynd allan nos Lun rhwng 8pm a 10pm – mae'n cael ei dalu am 2 awr ar gyfradd amser a hanner. Nos Wener mae'r gweithiwr yn cael galwad i fynd allan rhwng 1am a 4am – ac mae'n cael ei dalu am 3 awr ar gyfradd amser a hanner.
  • Mae gweithiwr amser llawn sy'n gweithio ar y penwythnos yn rheolaidd ar ddyletswydd 'wrth gefn' nos Sul rhwng 9pm a 9am fore Llun – mae'r dydd Llun yn Ŵyl y Banc. Bydd y gweithiwr yn cael ei dalu £40 am fod ar ddyletswydd wrth gefn. Mae'n cael galwad i fynd allan ac mae'n gweithio pedair awr rhwng 10pm a 2am a bydd yn cael ei dalu ar gyfradd amser a hanner rhwng 10pm a hanner nos (goramser) ac amser dwbl am y ddwy awr rhwng hanner nos a 2am oherwydd ei bod yn Ŵyl y Banc, ac yn cael ychwanegiad o 8% am weithio dros y penwythnos. h.y. 1.58 am yr oriau rhwng 10pm a hanner nos a 2.08 am yr oriau rhwng hanner nos a 2am.

Mae un fformwla ar waith os ydych yn gweithio amser tymor yn unig er mwyn sicrhau bod y cyfrifiad o ran cyflog a gwyliau blynyddol yn cael ei ddefnyddio'n gyson a'i fod yn seiliedig ar yr oriau gwirioneddol a nifer yr wythnosau a weithiwyd.

Yn ogystal, telir lwfans o 4% ar gyflog sylfaenol i gydnabod natur y gwaith yn ystod y tymor yn unig a'r rhwymedigaeth gytundebol i gadw eich cyflogaeth gyda'r awdurdod yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol. Mae'r lwfans hwn yn daladwy os ydych yn gweithio yn ystod y tymor mewn ysgolion yn unig neu lle mae natur y gwaith yn gyfyngedig i’r tymor yn unig.

Ni thelir y lwfans hwn os ydych yn gweithio yn ystod y tymor yn dilyn cais am weithio'n hyblyg.

Os ydych yn gweithio wythnosau ychwanegol ar gais yr ysgol byddwch yn parhau'n gymwys am y lwfans o 4%. Er enghraifft os bydd Swyddog Gweinyddol Ysgol yn gweithio am 42 wythnos y flwyddyn oherwydd anghenion yr ysgol, bydd yn parhau i dderbyn y lwfans o 4%.

Ni fydd unrhyw dâl cadw yn cael ei dalu ar gyfer unrhyw gategori o staff.

Mae'r hawl gwyliau blynyddol a gwyliau banc  wedi'i gynnwys yn y fformwla amser tymor a ddefnyddir ar gyfer cyfrifo'r cyflog. Bydd y fformwla yn cael ei ddiwygio pan fydd croniad y gwyliau blynyddol yn cynyddu oherwydd hyd y gwasanaeth.

Os ydych yn weithiwr achlysurol mewn ysgol, ni fyddwch yn gymwys i gael y lwfans o 4%.

Crynodeb o Weithio yn ystod y Tymor yn unig

  • Mae gweithwyr yn cael eu talu yn ystod y tymor – h.y. yn seiliedig ar nifer yr oriau a nifer yr wythnosau y maent yn gweithio yn ystod y flwyddyn.
  • Mae gweithiwr sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig fel arfer yn gweithio 39 wythnos y flwyddyn * (38 wythnos yn ystod y tymor ac 1 wythnos o ddiwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd)
  • Gwneir cyfrifiad er mwyn canfod oriau wythnosol y contract ar gyfartaledd er mwyn cynnwys yr 13 wythnos o'r flwyddyn pan nad yw'r gweithiwr yn gweithio.
  • Mae Gwyliau Blynyddol a Gwyliau Banc wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad.
  • Mae'r cyflog yn cael ei osod ar ffurf cyflog blynyddol er mwyn caniatáu 12 taliad cyfartal yn ystod y flwyddyn.
  • Pe na chyfrifid y cyflog ar ffurf cyflog blynyddol, byddai rhai misoedd yn ystod y flwyddyn pryd na fyddai'r gweithiwr yn cael cyflog o gwbl neu bryd y byddai'n cael taliad rhannol yn unig, er enghraifft Awst / Rhagfyr.
  • Nid yw hyn yn effeithio ar nifer yr oriau a weithiwyd gan y gweithiwr.
  • Telir lwfans o 4% ar gyflog sylfaenol i gydnabod natur gweithio yn ystod y tymor a rhwymedigaeth gytundebol gan y gweithwyr i gadw eu cyflogaeth gyda'r awdurdod yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol. Dim ond i'r gweithwyr hynny sy’n gweithio yn ystod y tymor mewn ysgolion neu lle bo’r gwaith yn gyfyngedig i’r tymor yn unig, y telir y lwfans hwn.

*Mae'n bosibl y bydd rhai gweithwyr yn gweithio ychydig yn rhagor o wythnosau a bydd y fformwla yn cael ei addasu yn unol â hynny.

Enghraifft:

  • Mae gweithiwr yn gweithio 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn gyda hawl i wyliau blynyddol o 34 diwrnod yn ogystal ag 8 diwrnod gŵyl y banc pro rata. Gan ddefnyddio fformiwla gweithio yn ystod y tymor, gwneir cyfrifiad sy'n sicrhau bod y gweithiwr yn cael ei dalu am 26.75 awr yr wythnos, drwy gydol y flwyddyn. (Telir am 46.49 wythnos y flwyddyn)

Er mwyn cydnabod gweithio ar y penwythnos, telir ychwanegiad o 8% at y cyflog sylfaenol ar gyfer yr holl oriau a weithiwyd ar gyfer swyddi lle mae'n rhaid gweithio o leiaf dau ddiwrnod ar y penwythnos bob pedair wythnos (neu drefniant cyfatebol o fewn cyfnod rota penodedig) fel rhan o'u patrwm gwaith arferol (yn rheolaidd). Caiff yr 8% ei gynnwys yn y cyflog “arferol” at ddibenion salwch a gwyliau blynyddol. 

Rhaid dangos patrwm rheolaidd o waith [arferol] er mwyn i'r gweithiwr fod yn gymwys ar gyfer yr ychwanegiad o 8%.

Yn ogystal, dim ond y rhai sydd ynghlwm yn gontractiol i weithio ar  benwythnosau fydd yn gymwys i gael yr ychwanegiad o 8% h.y. Os yw dydd Sadwrn neu ddydd Sul [neu'r ddau] yn rhan o'r wythnos waith "arferol".

Ni fydd gweithwyr achlysurol yn gymwys am y lwfans hwn. Bydd gweithwyr dros dro yn gymwys ar gyfer yr ychwanegiad hwn os yw'r patrwm shifft/rota y maent yn gweithio yn cynnwys gweithio ar benwythnosau'n rheolaidd.

Bydd unrhyw oriau sy'n cael eu gweithio o 00:00am fore Sadwrn hyd 23.59pm nos Sul yn cael eu hystyried yn oriau gweithio ar benwythnosau.

Telir y lwfans o 8% ar yr holl oriau a weithiwyd.

Os byddwch yn gweithio ar benwythnosau am gyfnod penodol o amser (er enghraifft ar benwythnosau yn ystod misoedd yr haf oherwydd anghenion y gwasanaeth), yna bydd eich contract yn adlewyrchu hyn a bydd yr ychwanegiad o 8% yn cael ei dalu yn unol â hynny.

Mae'r elfen hon o dâl yn bensiynadwy.

Esiamplau:

  • Mae gweithiwr yn gweithio bob dydd Sadwrn a dydd Sul mewn canolfan hamdden. Mae'n gweithio 12 awr felly byddai'n cael ei dalu ar gyfradd fesul awr sylfaenol yn ogystal â'r 8%. (h.y. telir bob awr ar y gyfradd sylfaenol yn ogystal â'r 8%)
  • Gofynnir i weithiwr amser llawn i weithio ddydd Sadwrn i gynorthwyo â phrosiect – ni fyddai'n gymwys am yr ychwanegiad o 8% i'r cyflog sylfaenol gan nad yw'n ofyniad cytundebol rheolaidd ond byddai'n cael ei dalu ar y gyfradd goramser a fyddai'n amser a hanner am oriau a weithiwyd.
  • Mae gweithiwr rhan amser o dan gontract i weithio 32 awr yr wythnos ac mae'n gweithio ar rota dreigl sy'n cynnwys 2 ddiwrnod penwythnos mewn cyfnod o bedair wythnos. Mae gan y gweithiwr hwn eisoes hawl i gael yr ychwanegiad o 8% ar ei gyflog am weithio ar benwythnosau. Os yw'n dewis gweithio sifft ychwanegol o 7 awr un wythnos, bydd yn cael 5 awr yn ôl y gyfradd sylfaenol fesul awr ynghyd ag ychwanegiad o 8%, a 2 awr yn ôl y gyfradd sylfaenol fesul awr ynghyd â'r ychwanegiad goramser o 50%, h.y. amser a hanner, ynghyd ag 8%.

Dolenni cyswllt perthnasol: Telerau ac Amodau y Cyd-gyngor Cenedlaethol (llyfr gwyrdd)

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol