Terfynu cyflogaeth

Diweddarwyd y dudalen: 01/02/2022

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chi a'ch Undebau Llafur cydnabyddedig i leihau effaith y toriadau yn y gyllideb ar ein gwasanaethau a'n gweithlu.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Leol yn wynebu dyfodol economaidd anodd yn y blynyddoedd nesaf, a allai arwain at ostyngiad sylweddol yn y gyllideb.  Mae'n anorfod y bydd hyn yn effeithio ar y modd y darparwn wasanaethau ac ar ein gweithwyr sy'n darparu'r gwasanaethau hynny.  Mae'r Cynllun Terfynu Cyflogaeth yn cynnig cymorth ariannol i chi os byddwch yn gadael eich cyflogaeth yn gynnar am resymau effeithlonrwydd.

Mae'r Cynllun Terfynu Cyflogaeth yn berthnasol i'n holl weithwyr sydd wedi cwblhau o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth cymwys, ac eithrio staff sy'n cael eu cyflogi'n lleol gan ysgolion.

Gwaharddiadau: Os byddwch yn destun trothwyon neu weithdrefnau disgyblaeth neu alluogrwydd (o ran iechyd neu berfformiad) byddwch wedi eich eithrio o'r Cynllun Terfynu Cyflogaeth hyd oni ellir dangos bod y broses briodol wedi'i dilyn. Cynghorir eich rheolwr i drafod ag Ymgynghorydd Adnoddau Dynol cyn cefnogi eich cais am eich rhyddhau o dan y Cynllun Terfynu Cyflogaeth.

Y Cynllun

Mae'r Cynllun Terfynu Cyflogaeth yn dilyn egwyddorion y Rheoliadau Digolledu Dewisol. Gallai Polisi Digolledu Dewisol y Cyngor newid ac nid yw'n darparu unrhyw hawliau contractiol.

Lawrlwythwch y tabl taliadau terfynu cyflogaeth (.pdf) i gael gwybodaeth ynghylch sut y cyfrifir taliadau terfynu cyflogaeth.  Fe'u telir trwy'r gyflogres ar y dyddiad cyntaf posibl ar ôl eich dyddiad gadael.

Os ydych yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwn ni'n ystyried rhyddhau eich buddion pensiwn os ydych yn 55 oed neu'n hŷn .

Mewn achos o derfynu cyflogaeth yn wirfoddol, mae'r ddwy ochr yn cytuno i ddod â'r contract cyflogaeth i ben ar ddyddiad cytunedig

Cynllun dewisol yw hwn sy'n golygu bod y penderfyniad a wneir gennym yn derfynol ac felly nid oes proses apeliadau.

Meini prawf cymhwysedd

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am derfynu cyflogaeth yn wirfoddol,  a fyddech cystal â llenwi'r Ffurflen Mynegiannau o Ddiddordeb (.doc) a thrafod eich cais â'ch rheolwr llinell.
  • Peidiwch â chysylltu â'r Tîm Pensiynau i wneud cais am gael amcan o'ch buddion pensiwn. Caiff y wybodaeth hon ei darparu maes o law ar ôl i'ch Pennaeth Gwasanaeth gytuno ar gefnogaeth amodol ar gyfer eich cais.
  • Fodd bynnag, mae canllawiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed gan gynnwys cyfrifiannell pensiwn ar-lein.
  • Bydd eich Pennaeth Gwasanaeth yn ystyried eich cais am derfynu cyflogaeth ochr yn ochr â cheisiadau eraill a dderbyniwyd yn eich Adran i weld a ellir ei gefnogi. Bydd hyn yn cynnwys meddwl am y ddarpariaeth gwasanaeth a'r goblygiadau ariannol.
  • Pan fydd yr ymarfer hwn wedi'i gwblhau cysylltir â chi un ai i gadarnhau na ellir cefnogi eich cais neu i edrych yn fanylach ar eich cais ac i egluro'r goblygiadau.
  • Ni fyddwch wedi ymrwymo i derfynu cyflogaeth hyd nes bod gofyn ichi lofnodi ffurflen dderbyn a chytundeb setlo (os yw'n briodol) sy'n cadarnhau terfynu cyflogaeth ar ddyddiad heb fod yn hwyrach . Ar ôl ichi lofnodi hwn, nid oes rheidrwydd arnom i ailystyried os byddwch yn newid eich meddwl.
  • Mae derbyn yn golygu y byddwch yn gadael ein cyflogaeth ar sail terfynu cyflogaeth yn wirfoddol ac yn gwneud hynny ar ddyddiad terfynu y cytunir arno o'r ddwy ochr.  Ni fydd cyfnod rhoi rhybudd yn berthnasol i'r naill ochr na'r llall ac ni fydd tâl yn lle gwyliau, amser o'r gwaith neu wyliau hyblyg sydd heb eu cymryd.
  • Os byddwch yn gadael ein cyflogaeth yn wirfoddol trwy’r Cynllun hwn ni allwch weithio inni mewn unrhyw gymhwyster, gan gynnwys yn achlysurol, am o leiaf un flwyddyn. (Darllenwch y Cynllun i gael manylion yr amgylchiadau eithriadol lle gellir ystyried hyn)

Sicrhau Triniaeth Gyfartal

Rhaid i’r Cynllun hwn gael ei ddefnyddio’n gyson gyda phob gweithiwr, heb ystyried hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu’r polisi a’r drefn hon, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/drefn yn cael eu hadolygu’n briodol.

Adnoddau Dynol