Cynlluniau gofal iechyd

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024

Cynllun Iechyd Cymdeithas Gwasanaethau Iechyd ac Ysbytai Cymru (WHA)

Mae gan Gymdeithas Gwasanaethau Iechyd ac Ysbytai Cymru gynllun arian gofal iechyd. Cynllun y cyfrennir ato yw hwn, ac mae'r tâl aelodaeth yn amrywio. Gallwch hawlio buddiannau ariannol ar gyfer amrywiaeth o driniaethau a gwasanaethau gofal iechyd. Gellir trefnu bod cyfraniadau yn cael eu tynnu o'ch cyflog.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y WHA.

Cymdeithas Gwasanaethau Iechyd ac Ysbytai Cymru - Simply Health

Math o yswiriant isel ei gost yw hwn. Os ydych yn gwneud taliadau misol penodedig, gallwch hawlio arian yn ôl i'ch helpu ag amrywiaeth eang o gostau, boed am bâr newydd o sbectolau presgripsiwn neu am lenwi dant, ynghyd â llawer o bethau eraill.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfraniadau a buddiannau ar nifer o lefelau, ac maent yn addas at anghenion iechyd teuluoedd ac unigolion o ddydd i ddydd.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Simply Health.

Adnoddau Dynol