ResourceLink / MyView

Diweddarwyd y dudalen: 03/03/2023

Rydym yn gweithredu system Adnoddau Dynol/Cyflogres integredig – ResourceLink – sy’n cofnodi eich holl fanylion o’r amser y cewch eich penodi. Bydd eich manylion personol, hanes gyrfa, manylion eich tâl, hyfforddiant, perfformiad a gwybodaeth gysylltiedig arall yn cael eu cadw’n ddiogel a’u diweddaru ar y system hon. 

Eich cyfrifoldeb chi fydd diweddaru eich manylion personol a byddwn yn gofyn ichi ddilysu’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd, fel arfer ar adeg eich arfarniad neu pan fyddwch yn mewngofnodi ar y cyfleuster Hunan-wasanaeth Gweithwyr. (MyView).

Mae MyView (Self Service) yn fodiwl ar y we o ResourceLink ac mae ei gyflwyno ar draws y cyngor yn rhan annatod o'r Strategaeth Pobl.  Mae'r modiwl yn eich galluogi i gyflawni tasgau fel newid cyfeiriad, gofyn am wyliau blynyddol neu edrych ar slip cyflog ar-lein o'ch dyfais(au) eich hun. Yn yr un modd, gall eich Rheolwr llinell weld manylion perthnasol amdanoch chi, eich swydd a gwneud awdurdodiadau ar-lein.

Mae yna canllawiau isod ar lawrlwytho'r ap MyView i'ch ffôn symudol neu ddyfeisiau llaw eraill.

Mae MyView bellach ar gael o fewn yr holl adrannau, bydd trefniant yn cael ei wneud i chi gael mynediad yn ystod eich cyfnod Onboarding / anwytho gyda chefnogaeth ar-lein.  Mae'r system yn ddiogel ac yn hawdd i'w defnyddio a bydd mewn amser yn sail i'r holl drafodion sydd angen awdurdodiad rhyngoch chi a'ch Rheolwr.

Dylai cefnogaeth a chyngor ynglŷn â'ch manylion personol a'ch mynediad at MyView yn y lle cyntaf gael ei gyfeirio at eich rheolwr. Gellir e-bostio'r Tîm ResourceLink ar: Resourcelink@sirgar.gov.uk .

Cyfeiriwch at y Sgriniau Absenoldeb am arweiniad ar fewnbynnu Salwch ac absenoldebau eraill.

Mae nodiadau cyfarwyddyd ar gael i'w lawrlwytho isod ar gyfer gwahanol ymarferoldeb sydd ar gael o fewn MyView.

Dangosfwrdd My View - Canllaw i Aelodau

 

Adnoddau Dynol