Canllawiau I Reolwyri

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Ydych chi'n rheolwr dioddefwr, goroeswr neu gyflawnwr cam-drin domestig, Trais domestig neu drais rhywiol?

Mae cam-drin domestig, neu drais domestig neu drais rhywiol yn fater cymhleth a sensitif lle gall diogelwch a llesiant pobl fod mewn perygl sylweddol. Dylai rheolwyr fod yn ymwybodol o hyn drwy gydol y broses a chael cyngor arbenigol pan fo angen.

Mae cam-drin domestig, neu drais domestig neu drais rhywiol yn aml yn cael ei ystyried yn fater preifat yn hytrach na mater yn y gweithle. Fel rheolwr efallai y byddwch yn amharod i godi’r mater gyda gweithiwr am amrywiaeth o resymau gan gynnwys peidio â gwybod sut i ymateb. Dengys ymchwil fod dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn falch iawn o gael cefnogaeth yn y gweithle ac y gall hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

Fel rheolwr nid oes angen i chi fod yn arbenigwr, ond dylech fod yn ymwybodol o ymrwymiad a pholisi’r Cyngor a gallu:

  • Adnabod y broblem (chwilio am arwyddion a gofyn)
  • Ymateb yn briodol
  • Atgyfeirio at help priodol
  • Cofnodi'r manylion       

Adnoddau Dynol