Ymddeol

Diweddarwyd y dudalen: 10/04/2024

Pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran pensiwn y wladwriaeth gallwch ddewis ymddeol o’ch cyflogaeth gyda ni. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mae gennych hawl i gael buddion pensiwn heb eu lleihau ar unwaith. Cyfrifo eich pensiwn y wladwriaeth ar .gov.uk.

Gallwch ddewis ymddeol o 55 oed ymlaen heb ein cydsyniad ni ond gallai eich buddion ymddeol gael eu lleihau. (Gweler Ymddeol yn Gynnar – Buddion wedi eu Lleihau’n Actiwaraidd).

Nid yw’n ofynnol cyflwyno achos busnes ymddeol i ategu ymddeoliad ar sail oedran ar ôl cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.

Gallwch ddewis ymddeol o 55 oed ymlaen heb ein cydsyniad ni ond gallai eich buddion ymddeol gael eu lleihau’n actiwaraidd. (Gweler y dudalen pensiynau i gael mwy o wybodaeth).

Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl

Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd afiechyd byddwch yn cael eich atgyfeirio at ein Hymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn unol â’n Polisi Absenoldeb Salwch.

Os yw’r cyngor yn cadarnhau nad ydych yn gallu cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau oherwydd eich afiechyd gallwn ystyried newid eich dyletswyddau (Gweler ein Gwybodaeth ynghylch Anabledd a Chanllawiau ynghylch Addasiadau Rhesymol) neu geisio eich adleoli i swydd fwy addas (Gweler ein Polisi Adleoli).

Os nad yw’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn yn bosibl gall eich cyflogaeth gael ei dirwyn i ben gennym ni ar sail galluogrwydd. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yna bydd eich achos yn cael ei atgyfeirio at Ymgynghorydd Meddygol y Gronfa Bensiwn ar gyfer asesiad a thystysgrif i gadarnhau pa un a yw eich afiechyd yn ddigonol i ddyfarnu buddion ymddeol ar sail afiechyd ai peidio.

Nid yw’n ofynnol cyflwyno achos busnes ymddeol i ategu ymddeoliad ar sail afiechyd.

Gall fod adegau pan fyddwch yn ymddeol yn gynnar gyda’n cydsyniad ni, gyda’ch pensiwn yn cael ei ryddhau ar unwaith, os mai dyna sydd orau er budd eich gwasanaeth. I wneud cais mae’n rhaid eich bod yn 55 oed neu drosodd.

Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl. . Mae’n rhaid i’r achos busnes fanylu ar y goblygiadau o ran darparu gwasanaethau a’r manteision ariannol sy’n deillio a sut y bydd unrhyw gostau o ganlyniad i ymddeol yn gynnar yn cael eu talu dros gyfnod o 3 blynedd.

Mae terfynu cyflogaeth ar gael ichi fel cymhelliad i wirfoddoli i adael eich cyflogaeth (Gweler ein Cynllun Terfynu Cyflogaeth 2015-18). Mae’n dirwyn eich contract cyflogaeth i ben ar ddiwrnod a gytunwyd rhyngom, ac nid oes cyfnod rhybudd na thâl yn lle rhybudd yn berthnasol. Os ydych yn 55 oed neu drosodd ac yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol bydd eich buddion pensiwn yn cael eu rhyddhau heb unrhyw leihad actiwaraidd hefyd.

Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl. Mae’n rhaid i’r achos busnes fanylu ar y goblygiadau o ran darparu gwasanaethau a’r manteision ariannol sy’n deillio a sut y bydd unrhyw gostau o ganlyniad i ymddeol yn gynnar yn cael eu talu dros gyfnod o 3 blynedd.

Os byddwch yn gadael ein cyflogaeth yn wirfoddol trwy’r Cynllun hwn ni allwch weithio inni mewn unrhyw gymhwyster, gan gynnwys yn achlysurol, am o leiaf un flwyddyn. (Darllenwch y Cynllun Terfynu Cyflogaeth i gael manylion yr amgylchiadau eithriadol lle gellir ystyried hyn).

Prawf oedd ‘Rheol 85’ i asesu pa un a fyddai eich buddion dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu lleihau’n actiwaraidd, pe baech yn ymddeol cyn eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Pe bai eich oedran a ‘hyd calendr’ eich aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (wedi’i fesur mewn blynyddoedd llawn), gyda’i gilydd, yn 85 neu fwy, NI fyddai eich buddion yn cael eu lleihau’n actiwaraidd ar ôl i chi droi’n 60 oed. Pe NA bai’r rheol yn cael ei bodloni neu pe baech rhwng 55 a 59, byddai lleihad actiwaraidd llawn yn cael ei gymhwyso i’ch buddion.

Cafodd ‘Rheol 85’ ei diddymu ar 1 Hydref 2006 gyda rhai mesurau diogelu’n cael eu sefydlu fel bod rhywfaint neu’r cyfan o hyd aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer cyflogeion a oedd yn aelodau ar 30 Medi 2006 yn cael ei ddiogelu yn unol â ‘Rheol 85’. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Thîm Cronfa Bensiwn Dyfed.

Gallwn ystyried hepgor y lleihad actiwaraidd lle na ellir bodloni ‘Rheol 85’. (Gweler ein polisïau digolledu dewisol ar y dudalen pensiwn). Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl.

Mae ymddeoliad hyblyg neu raddol yn ddull o ymddeol wedi’i gynllunio os ydych yn 55 oed neu drosodd, yn unol â’n Polisi Ymddeoliad Hyblyg/Graddol. Mae’n golygu lleihad gwirfoddol mewn oriau a/neu symud i swydd ar radd is ac ar yr un pryd mae’n caniatáu i chi gael mynediad at eich buddion pensiwn cronedig. Gall fod lleihad actiwaraidd i’ch pensiwn os ydych yn ymddeol cyn eich oedran pensiwn y wladwriaeth ac os nad ydych yn gwbl gymwys ar gyfer unrhyw fesurau diogelu dan ‘Reol 85’.

Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl.

Efallai y byddwch yn eich cael eich hun mewn sefyllfa anodd neu sensitif ac yn dymuno ymgeisio am ymddeoliad cynnar ar sail dosturiol. Byddwn yn ystyried pob agwedd ar gais am ymddeoliad cynnar gan gynnwys unrhyw sail dosturiol ond ni ddylai hyn fod yr unig reswm dros eich cais.

Mae buddion pensiwn, unwaith y cânt eu rhyddhau, yn daladwy am oes ac mae goblygiadau ariannol inni fel eich cyflogwr y mae’n rhaid inni eu hystyried cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad. Lle’r ydych yn darparu rhesymau tosturiol inni eu hystyried, yn enwedig dan ymddeoliadau ‘Rheol 85’, bydd y rhain yn cael eu nodi yn yr achos busnes a gellir gofyn ichi ddarparu dogfennau ategol i gyd-fynd â’r achos busnes.

Lle mae hyn yn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch rheolwr gyflwyno achos busnes manwl.

Adnoddau Dynol